Rydyn ni’n monitro ac yn tracio lefelau cymryd rhan ymhlith oedolion yn ogystal ag ymddygiad a thueddiadau mewn chwaraeon.
Mae’r ymchwil hwn o help i ni ddylanwadu ar bolisïau a gwneud penderfyniadau fel ein bod yn galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.
Rydyn ni’n cyflwyno’r data Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol drwy gyfrwng yr Arolwg Cenedlaethol Cymru. Arolwg ar deuluoedd yw hwn ac mae’n cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda thua 12,000 o oedolion 16 oed a hŷn a ddewisir ar hap. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar bobl a’u hardal leol.
Casglwyd y canlyniadau diweddaraf yn 2019-20, sef ybedwaredd flwyddyn yn olynol i ddata ar gyfer chwaraeon a ffyrdd o fyw egnïol gael eu rhyddhau fel rhan o’r arolwg ehangach.
Casglwyd y canlyniadau yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn arwain at fis Ebrill 2020. O’r herwydd, maent yn cynrychioli cyflwr y genedl yn union cyn argyfwng y Coronafeirws a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau symud a ddilynodd.