Skip to main content

Llythrennedd Corfforol

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Llythrennedd Corfforol

Mae ein hamcan yn syml – pob person yng Nghymru yn Llythrennog yn Gorfforol.

Beth yw Llythrennedd Corfforol?

Sgiliau Corfforol + Hyder + Cymhelliant + Gwybodaeth + Dealltwriaeth = Llythrennedd Corfforol 

Gyda’r elfennau yma mae person yn fwy tebygol o fod yn llythrennog yn gorfforol – bod yn hapus, iach a hyderus – a hefyd cael yr adnoddau i fwynhau bod yn actif.

 

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth gyfeirio at sgiliau corfforol?

Pan mae plentyn yn dysgu darllen, mae’n dysgu geiriau i ddechrau, fel fi, ti, ci. Yn yr un ffordd, wrth i blentyn ddysgu sgiliau corfforol, mae’n dysgu sgiliau fel sut i redeg, neidio, taflu a chadw cydbwysedd. 

Wedyn mae plant yn gosod y geiriau gyda’i gilydd i greu brawddegau a’u darllen.  Yn yr un ffordd, mae’r sgiliau corfforol yn cael eu cysylltu i greu cymalau a pherfformio gweithgareddau fel reidio beic, nofio neu wneud naid drebl.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth gyfeirio at Hyder + Cymhelliant?

Mae datblygu’r sgiliau priodol fel eu bod yn gallu rhoi cynnig ar unrhyw beth mewn amgylchedd hwyliog a diogel yn golygu y bydd plentyn yn tyfu i fyny gan fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Bydd y profiadau positif yma’n galluogi’r plentyn i feithrin cymhelliant cynhenid, a hefyd hyder yn ei allu, i fod eisiau bod yn actif yn gorfforol bob amser.

Bydd yn datblygu i fod yn oedolyn sydd â’r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a’u mwynhau drwy gydol ei fywyd, ar ba lefel bynnag mae’n ei dewis, fel hamdden neu’n gystadleuol. 

Yr elfen bwysig yn hyn yw bod y plentyn yn dod i gysylltiad â phrofiadau positif, hwyliog a diogel, gan feithrin ei gymhelliant naturiol tra mae’n ifanc, pryd bydd yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth! 

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth gyfeirio at Wybodaeth a Dealltwriaeth? 

Mae’n hanfodol cael ‘Gwybodaeth a Dealltwriaeth’ o ran sut i drosglwyddo sgiliau a hyder i wahanol amgylcheddau ac amgylcheddau’n newid, ac i sefyllfaoedd mewn bywyd.

Bydd hyn yn creu person mwy cyflawn sy’n gallu mwynhau amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau. 

Y Siwrnai Llythrennedd Corfforol

Nid dim ond i bobl ifanc mae llythrennedd corfforol yn berthnasol. Mae’n siwrnai o enedigaeth, yn ystod y cyfnod yn yr ysgol, pan yn oedolyn ac yn nes ymlaen mewn bywyd – gyda’r profiadau ar hyd y daith i gyd yn cyfrannu at lythrennedd corfforol person. 

Mae’n bwysig archwilio a chael hwyl gyda rhieni a gofalwyr yn y blynyddoedd cynnar. Ac mae yr un mor bwysig bod yn fodel rôl ar ôl mynd yn hŷn, drwy drosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd ac agweddau allweddol ar wybodaeth i’r genhedlaeth nesaf. 

Rydyn ni eisiau i bawb, gan gynnwys plant, rhieni, teidiau a neiniau, athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr ifanc, chwarae eu rhan ar y siwrnai llythrennedd corfforol.