Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion y cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Iau 18 Mehefin 2020 (drwy gynhadledd fideo)

Cofnodion y cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Iau 18 Mehefin 2020 (drwy gynhadledd fideo)

Yn Bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir (Eitemau 5.3 i 11), Ian Bancroft, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale  

 

Y Staff Yn Bresennol:  Brian Davies (PW Dros Dro), Sarah Powell, Paul Randle (PR), Graham Williams (GW), Liam Hull (LH), Owen Hathway (OH), Tom Overton (Eitem 5.3), James Owens (Eitem 5.6), Susie Osborne (Eitem 5.6), Amanda Thompson (cofnodion)

Arsylwyr: Steffan Roberts a Paul Kindred (Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru)

 

1.    Croeso/ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Eleri McLennan (cynrychiolydd y Llysgenhadon Ifanc) a Rajma Begum.  

 

Diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol i Malcolm Zaple, Tom Overton a Simon Napper am eu blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig i Chwaraeon Cymru. Hefyd dangosodd ei werthfawrogiad a diolchodd ar ran y Bwrdd i Brian Davies am gyflawni rôl y Prif Weithredwr Dros Dro. Byddai Sarah Powell yn dychwelyd i’w swydd fel Prif Weithredwr ar 29 Mehefin.  

 

2.    Datgan Budd

 

IB ac LR ar gyfer papur SW(20)26 Diweddariad y Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol (CSAP).  

 

3.    Cofnodion, Cofnod Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi  

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2020 fel cofnod manwl gywir.  

 

Nodwyd cynnwys y cofnod gweithredu a’r traciwr penderfyniadau. Gan gyfeirio at Eitem 4.2, nodwyd bod Zendesk yn cael ei ddefnyddio nawr i hwyluso cyfathrebu’n effeithlon gyda phartneriaid ar draws y sianelau.  

 

4.    Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth  

 

Nododd Aelodau’r Bwrdd yr Adroddiad a thynnodd y Prif Weithredwr (PW) sylw at y canlynol:  

 

·         Anghydraddoldeb a gwahaniaethu  

 

Siaradodd y PW gyda Phwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd ar 11 Mehefin. Pwysleisiodd y pryder am y bwlch anghydraddoldeb sy’n ehangu, fel y tynnwyd sylw gan arolwg ComRes, a phwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd a lles pobl Cymru.                                    

 

Adroddodd y PW ar broblem fawr a oedd wedi bod yn amlwg ar y newyddion yn ddiweddar, sef ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, a oedd yn tynnu sylw at yr angen brys am adlewyrchu, trafod a gweithredu wrth ddelio gyda gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu. Cytunodd Aelodau’r Bwrdd i gynnig y Cadeirydd bod is-grŵp o’r Bwrdd yn goruchwylio’r maes gwaith hwn yn y dyfodol. Byddai’r grŵp Amrywiaeth Byrddau Partneriaid presennol yn cael y cyfrifoldeb am y ddyletswydd hon gyda newid i’w delerau a’i amodau a’i aelodaeth. Hefyd byddai’r Grŵp Ymgysylltu â Staff yn edrych ar y broblem hon ac yn cynorthwyo gyda datblygu cynllun gweithredu.                      

Byddai Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref yn trafod yn fuan yr ymateb ar y cyd i hiliaeth sefydliadol, ond ni fyddai hyn yn atal Chwaraeon Cymru rhag rhoi sylw i unrhyw sefyllfa sy’n benodol i Gymru a chyhoeddi ei ddatganiad ei hun.  

 

Roedd y cyd-destun ehangach o rwystrau’n atal cyfranogiad yn cael ei ymchwilio gan y Grŵp Cadernid Strategol. Gofynnodd yr Is Gadeirydd am i ystyriaeth gael ei rhoi i’r holl bobl â nodweddion gwarchodedig, a chydnabyddiaeth i’r rhyng-gysylltiad rhwng anghydraddoldebau.                

 

CAM GWEITHREDU: Y Cadeirydd a’r Weithrediaeth i lunio cylch gorchwyl, aelodaeth a chynllun gwaith ar gyfer y grŵp Amrywiaeth a gweithredu hyn cyn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd.          

 

·         Cymru Actif

 

Roedd yr ymgyrch hon, a sefydlwyd gyda chyllideb gyfyngedig, wedi cael ei chreu ar y cyd â phartneriaid chwaraeon a phartneriaid eraill ac roedd wedi sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau addysgol ar gael am ddim i ysgolion ledled Cymru. Byddai cam nesaf yr ymgyrch yn cysylltu’r gronfa newydd, cronfa Cymru Actif (yr elfen cais agored o’r Gronfa Cadernid Chwaraeon), gyda chodi ymwybyddiaeth wedi’i dargedu mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol is.  

 

O ran dadansoddi pwy oedd wedi cymryd rhan gyda #CymruActif byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu effaith gyffredinol yr ymgyrch. Roedd yr Youth Sport Trust a’r Llysgenhadon Ifanc wedi ymwneud â hi, gan ledaenu’r neges yn eang ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Nododd yr Aelodau lwyddiant yr ymgyrch hyd yma, gan awgrymu y dylid gwneud gwaith pellach er mwyn targedu’r platfformau a’r dylanwadwyr pwysicaf.  

 

·         Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng  

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod y Gronfa hon wedi darparu £527,120 hyd yma i 280 o glybiau oedd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith. Ar ôl cwblhau’r gwerthusiad, byddai’n cael ei rannu gydag Aelodau’r bwrdd. Nodwyd hefyd y byddai’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yn cau yn fuan ac yn uno i fod yn rhan o gronfa Cymru Actif.  

 

CAM GWEITHREDU: OH i sicrhau bod dadansoddeg y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ar gael i’r Bwrdd pan fydd wedi’i llunio.  

 

·         Y Gyllideb  

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i swyddogion Llywodraeth Cymru am beidio â thorri cyllideb Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ac am drafod y cais am warant pensiynau. Nid oedd wedi bod yn bosib tynnu unrhyw gyllid cyfalaf i lawr eto, ond yr amheuaeth oedd mai problemau amseru oedd yn gyfrifol am hyn, yn hytrach nag unrhyw newid i’r cytundeb cyllido. Byddai ailagor eiddo chwaraeon sy’n cael eu defnyddio dros dro gan y GIG yn cael sylw gan y grŵp Dychwelyd at Chwaraeon sy’n delio â materion cysylltiedig â chyfleusterau gyda Llywodraeth Cymru.  

 

Cyf. y Papur: SW(20)21  

 

5.    Cynllunio Adferiad

 

5.1 Dychwelyd at Chwaraeon  

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Gymdeithas Chwaraeon Cymru am ei chyfraniad at sefydlu’r pedwar grŵp Dychwelyd at Chwaraeon.            

Mynegwyd pryder nad oedd y grwpiau’n cynnwys cynrychiolaeth ddigonol o’r sector chwaraeon masnachol. Roedd y Prif Weithredwr yn hyderus bod gan y grwpiau gysylltiadau o’r fath ond cytunodd i edrych ymhellach ar hyn. Gall ehangu maint y grwpiau brofi’n anodd ond wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i amgylchiadau newid, efallai y bydd lle i addasu aelodaeth y grŵp.                

 

CAM GWEITHREDU: Y Prif Weithredwr i adrodd yn ôl ar gynhwysiant/cynrychiolaeth y sector chwaraeon masnachol.  

 

Codwyd pwynt am weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd byddai cyrff rheoli cenedlaethol a darparwyr cyfleusterau chwaraeon yn debygol o wynebu heriau gyda chyflawni cyfarwyddyd iechyd a diogelwch cysylltiedig â Covid-19 ar gyfer ailagor, a allai achosi rhwystr o ran cyfranogiad. Dylid ystyried cyfeirio at UKAD ynghylch newidiadau i’r ffordd bydd athletwyr yn cael eu profi.                    

 

Cyf. y Papur: SW(20)22

 

5.2 Adroddiad Chwarter 1 y Cynllun Busnes

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgarwch y chwarter blaenorol a’r blaenoriaethau yn y cynllun busnes sydd wedi newid o ganlyniad i bandemig Covid-19.  

 

Dyma’r prif feysydd gwaith:            

·         Gweithredu’r model adnoddau newydd gyda’r partneriaid i gyd  

·         Gweithredu Chwaraeon Gogledd Cymru fel y ‘Bartneriaeth Chwaraeon’ gyntaf yng Nghymru

·         Adolygiad strategol o rôl a phwrpas y ddwy Ganolfan Genedlaethol                

·         Datblygu diwylliant y sefydliad                  

·         Cwmpasu dull o drawsnewid yn ddigidol er mwyn manteisio i’r eithaf ar fudd technoleg  

 

Y tair blaenoriaeth ganlynol fyddai ffocws y chwarter nesaf a byddai’r cynnydd yn cael ei adrodd i’r Bwrdd ym mis Medi. Cafodd y gwaith hwn ei ystyried fel y pwysicaf i roi sylw i bwysau a chyfresu allweddol ac i alluogi i ddarnau allweddol eraill o waith ddilyn wedyn.    

 

·         Y Gronfa Cadernid Chwaraeon – Byddai sesiynau ymgysylltu â phartneriaid yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mehefin a byddai cronfa Cymru Actif yn lansio yn gynnar ym mis Gorffennaf.  

 

·         Deall effaith Covid-19 – ffocws parhaus ar ddeall effaith Covid-19 ar y sector chwaraeon. Byddai hyn yn cynnwys dadansoddiad pellach o ymddygiad lefel poblogaeth yn dilyn pôl ComRes ym mis Mai, gwerthusiad o’r effaith economaidd ac ymchwil cydweithredol i werth cymdeithasol.  

 

·         Dychwelyd at chwaraeon – Byddai gwaith y grwpiau Dychwelyd at Chwaraeon yn parhau i ddatblygu cyfarwyddyd ac argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru cyn ei hadolygiad nesaf. Y tu hwnt i hynny, byddai’r grwpiau’n monitro effaith unrhyw newidiadau, yn ymgynghori ledled y sector, yn ceisio dealltwriaeth o dystiolaeth ledled y DU a thu hwnt a hefyd paratoi ar gyfer yr heriau penodol sy’n ymwneud ag ailintegreiddio cymunedau a chyfleoedd chwaraeon perfformiad.              

 

Pwyntiau o drafodaeth bellach:

·         Roedd yr holl sgyrsiau’n ymwneud â chefnogaeth ariannol yn dechrau gyda chrynodeb o beth oedd y sefydliad wedi’i wneud ei hun i greu incwm cyn gofyn am arian cyhoeddus.                    

·         Y sefydliadau oedd wedi arallgyfeirio eu refeniw orau oedd y rhai oedd wedi wynebu canlyniadau Covid-19 fwyaf a byddent yn wynebu mwy o anawsterau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.  

·         Roedd yn hanfodol bod sefydliadau chwaraeon yn cydweithredu gyda negeseuon ar y cyd.        

 

Cyf. y Papur: SW(20)23

 

 

5.3 Diweddariad y Grŵp Cadernid Strategol  

 

Amlinellodd y papur hwn ganfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Cadernid Strategol. Roedd dau adroddiad wedi’u comisiynu’n ddiweddar:  

·         Sense Maker – contract a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer y Fenter Nofio Am Ddim ond a gafodd bwrpas newydd i werthuso effaith gymunedol ac arloesi a lefel clwb.  

·         Prifysgol Sheffield Hallam (Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon) – adroddiad effaith economaidd a gynhaliwyd mewn dau gam. Roedd yr adroddiad cyntaf wedi’i dderbyn a’r cam nesaf fyddai modelu economaidd manwl yn ystod y misoedd sydd i ddod.  

 

Cyflwynodd arolwg cychwynnol ComRes ar farn y cyhoedd drosolwg o’r effaith ar ymddygiadau gweithgarwch corfforol cyhoeddus. Dangosodd un canfyddiad allweddol bod effaith sylweddol wedi bod ar lefelau corfforol pobl, gyda’r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol is a phlant wedi profi’r effaith fwyaf negyddol. Roedd y canfyddiad hwn yn amlwg yn adborth y partneriaid y gwnaed cais amdano fel rhan o waith ymgysylltu’r Gronfa Cadernid Chwaraeon.  

 

Ochr yn ochr ag adolygu’r defnydd o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng, fel arwydd cynnar o alw, roedd cam un yr adroddiad effaith economaidd wedi tynnu sylw hefyd at yr heriau ariannol cychwynnol mae Cymru’n eu hwynebu o ganlyniad i effaith Covid-19 ar chwaraeon.  

 

Roedd y Grŵp Cadernid Strategol wedi edrych ar strategaeth newydd Chwaraeon Cymru a’i herio ac wedi dod i’r casgliad ei bod yn berthnasol o hyd i ddull y sefydliad o weithredu. Roedd yr hyblygrwydd oedd yn rhan o’r strategaeth yn galluogi’r sefydliad i roi diben newydd i’w gyllid, ei staff a’i ffocws. Daeth y tîm Arwain a’r Grŵp Cadernid Strategol i’r casgliad bod y bwriadau strategol yn berthnasol ac, yn bwysicach na dim, yn darparu cyd-destun cadarn ar gyfer blaenoriaethu dulliau gweithredu’r cynllun busnes yn y dyfodol.  

 

Byddai’r Grŵp Cadernid Strategol yn parhau i adolygu effaith Covid-19 ac yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd ym mis Medi 2020.

 

Gwnaed y pedwar argymhelliad canlynol a’u cymeradwyo gan y Bwrdd:  

·         bod y Weithrediaeth yn ystyried pa feysydd i’w blaenoriaethu er mwyn creu capasiti ac i adolygu’r goblygiadau staffio a sgiliau yn erbyn y blaenoriaethau hynny (wedi’u gweithredu eisoes fel y manylir ym mhapur SW(20)23).  

·         dylai targedu cefnogaeth gyda chyfranogiad tuag at bobl ifanc, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, y rhai ag anabledd neu nam neu’r rhai o gymunedau DALlE fod yn ystyriaeth ganolog i Chwaraeon Cymru ar draws yr holl raglenni gwaith a buddsoddiadau yn y dyfodol.  

·         bod Chwaraeon Cymru yn casglu, yn datblygu ac yn defnyddio ei sylfaen o dystiolaeth i eiriol dros rôl chwaraeon yn y ddarpariaeth ar draws meysydd polisi niferus, gan gynnwys edrych ar chwaraeon fel adnodd polisi mewn rhaglenni iechyd ac addysg a sut i fanteisio i’r eithaf ar yr elw ar fuddsoddiad cyhoeddus gyda phartneriaethau masnachol a thrydydd sector.  

·         dylid ceisio casglu rhagor o dystiolaeth drwy ddulliau gweithredu mewnol ac allanol ac adrodd yn ôl i’r Weithrediaeth a’r Bwrdd fel cyfrwng i sicrhau bod y tri argymhelliad cyntaf yn parhau i gael eu seilio’n gadarn ar ddeallusrwydd data.        

 

Cyf. y Papur: SW(20)24

 

5.4 Adolygiad o Gyfleusterau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru  

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gwaith diweddar a wnaed gan y Grŵp Adolygu Cyfleusterau i asesu dyfodol y ddwy Ganolfan Genedlaethol. Roedd y Grŵp wedi parhau â’i waith i ddeall yn well sut beth fydd ailagor fesul cam ac roedd wedi gweithio gyda’r Weithrediaeth i gefnogi datblygu’r cynllun gweithredol ar gyfer cysondeb busnes ac ystyried effaith Covid-19 ar ddatblygiadau yn y dyfodol. Gohiriwyd y gwaith o gaffael gwasanaethau ymgynghorol i gefnogi cynllunio a dewis partner rheoli a ffafrir ar gyfer Plas Menai.  

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ar gyfer y ddwy Ganolfan Genedlaethol ers i’r cyfyngiadau symud ddechrau ym mis Mawrth a’r effaith ar refeniw. Roedd wedi bod yn bosib dal ati gyda chynnal a chadw’r tiroedd, cynnal a chadw offer ataliol a chwblhau’r prosiectau cyfalaf presennol. Roedd yr angen am newid boeleri / system wresogi a pheiriant pwll Plas Menai yn parhau’n flaenoriaeth frys.  

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys golwg fanwl ar yr incwm ariannol ar gyfer 2019/20 ac amcanestyniadau ar gyfer y tair blynedd ddilynol. Daeth yn glir bod dychwelyd i normalrwydd yn gyflym yn annhebygol a bod risg i effaith Covid-19 ymestyn dros sawl blwyddyn, a risg o anawsterau pellach, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan mae heintiau resbiradol yn fwy cyffredin. Penderfynwyd dewis un o’r modelau sefyllfa ariannol blaenorol fel y canlyniad mwy tebygol ac allosod ei effaith dros dri chyfnod ariannol. Roedd y model hwn yn rhagdybio bod refeniw allanol y ddwy Ganolfan Genedlaethol yn dechrau ym mis Hydref ac yn graddol gynyddu i 60% o’r hyn oedd yn normal erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, wedyn yn ystod 2021/22 byddai’r refeniw yn cynyddu o 60% i 80% (cyfartaledd y flwyddyn oedd 77%) ac, yn olaf, yn 2022/23, cyflawni lefelau refeniw normal unwaith eto.                                  

 

Datblygiadau diweddar i’w nodi:

·         cafwyd cyfle i gyrff a gyllidir yn gyhoeddus wneud cais i’r cynllun cadw swyddi i roi sylw i’r colledion cysylltiedig â refeniw masnachol. Gwnaeth Chwaraeon Cymru gais am tua £180k i dalu am golledion rhwng mis Mawrth a 30 Mehefin. Byddai Trysorlys y DU yn cyflwyno cynllun wedi’i addasu o 1 Gorffennaf ymlaen.  

·         Roedd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau wedi awdurdodi gwerthusiad proffesiynol o opsiynau addas i gymryd lle’r system wresogi ym Mhlas Menai. Roedd yr amcanbrisiau blaenorol tua £600k a byddai angen cau’r safle am tua 12 wythnos. Byddai hyn yn dibynnu ar gael cymorth tuag at y gost.    

·         Roedd Plas Menai yn cael ei ystyried ar gyfer defnydd amgen fel hwb gofal cymdeithasol gan Gyngor Gwynedd. I’w drafod ymhellach ar ôl gwybod beth yw’r penderfyniad oherwydd byddai’n cyfyngu ar y capasiti i ddychwelyd i weithredu fel arfer a’r effaith ar gadw cwsmeriaid a refeniw.  

 

Nododd yr Aelodau yr adroddiad. Byddai’r Grŵp Adolygu Cyfleusterau yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf ym mis Medi.  

 

Cyf. y Papur: SW(20)25

 

5.5 Y Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol (CSAP)

Cyfarfu Bwrdd Prosiect CSAP ar 1 Mehefin i adolygu’r gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud i aildrefnu’r gwaith arfaethedig, oedd yn cynnwys amserlen tymor byr i ailddechrau ymgysylltu â phartneriaid a manylion am gyfleoedd posib i gyflymu datblygiad y Partneriaethau Chwaraeon eraill. Ar ôl adolygu dewisiadau’r partneriaid oedd wedi mynegi diddordeb, cafodd y patrwm daearyddol ei lunio’n derfynol. Gofynnwyd i’r Bwrdd gymeradwyo sefydlu pedair Partneriaeth Chwaraeon ychwanegol fel a ganlyn:    

 

·         Gwent (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen)  

·         Canolbarth y De (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr, RhCT, Bro Morgannwg)  

·         Bae Abertawe* (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot)  

·         Canolbarth Cymru (Ceredigion a Phowys)  

 

Byddai Partneriaeth *Bae Abertawe yn cael ei hailenwi er mwyn adlewyrchu’r holl randdeiliaid yn well. Byddai ymgysylltu pellach yn digwydd gyda Chyngor Powys er mwyn sicrhau y byddent yn aelod gweithredol o bartneriaeth Canolbarth Cymru. Roedd swyddog o dîm Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd eu cefnogaeth i’r pedair ardal. Cymeradwywyd yr argymhelliad gan y Bwrdd.  

 

Amserlen adolygedig (yn amodol ar allu partneriaid i ymgysylltu):  

·         Cyflwyno achos busnes ChGC - Hydref 2020

·         Gweddill Cymru: ymgysylltu parhaus â phartneriaid, mireinio dogfennau’r fanyleb a mynd i’r cam datrysiadau amlinellol – Gorffennaf i Hydref 2020

·         Cyfleoedd i gyflymu CSAP – o fis Hydref 2020 ymlaen o bosib

 

Roedd Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC) yn bwrw ymlaen â thri maes gwaith allweddol:  

·         cytuno ar fframwaith cyfreithiol a ‘gynhelir’ gan awdurdod lleol i ChGC weithredu oddi mewn iddo (Cyngor Conwy fydd y cyngor fwy na thebyg, oedd yn adolygu’r disgrifiad swydd ar gyfer rôl Uwch Arweinydd Gweithredol penodol i’r prosiect).  

·         cydweithredu parhaus i ddatblygu fframwaith strategol ChGC a’i gynlluniau gweithredol.                

·         paratoi cyflwyniad achos busnes i Chwaraeon Cymru.  

 

Ar ôl cwblhau’r cam datrysiadau amlinellol, bydd potensial gobeithio i gyflymu’r gwaith o greu’r pedair partneriaeth. Roedd hyn yn debygol o gynnwys Chwaraeon Cymru yn helpu i feithrin gallu yn y sefydliadau partner drwy ddarparu gwasanaethau cefnogi penodol a chyllid i benodi Swyddogion Arweiniol. Byddai’r diweddariad nesaf yn cael ei roi i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi.                

 

Cyf. y Papur: SW(20)26

 

5.6 Diweddariad y Model Buddsoddi  

 

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y cynnydd a wnaed gyda’r Model Buddsoddi a gwnaeth argymhellion ar gyfer y pontio at weithredu llawn.              

 

Roedd trafodaethau gyda phartneriaid cyllid uchel wedi cael eu cynnal a chanllaw gyda Chwestiynau Cyffredin a Chwestiynau ac Atebion wedi cael ei ddosbarthu i’r holl sefydliadau sy’n cael eu cyllido. Roedd adran Model Buddsoddi fanwl wedi cael ei hychwanegu at y wefan.  

 

Roedd y model wedi cael ei drafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac ni chodwyd unrhyw bryderon mawr. Byddent yn cael gwybodaeth lawn yn gyson am ei weithredu a’i effaith. Roedd archwiliadau cyfreithiol wedi cael eu cynnal hefyd a theimlwyd bod y risgiau wedi cael eu lliniaru’n briodol.  

 

Roedd cefnogaeth ychwanegol wedi cael ei rhoi i staff a phartneriaid cyllid uchel i’w helpu i ddeall yn llawn elfen atebolrwydd y model. Byddai trafodaethau atebolrwydd yn cael eu cynnal gyda’r holl gyrff rheoli cenedlaethol cyllid uwch yn gysylltiedig â phroses Cytundeb Partneriaeth (Estyniad) y Gronfa Cadernid Chwaraeon.  

 

Roedd yr holl bartneriaid a dderbyniodd arian yn 2020/21 wedi bodloni’r gofynion hanfodol. Roedd y partneriaid yn parhau i gael eu cefnogi lle oedd angen i ddatblygu eu cynlluniau gwella llywodraethu, i’w helpu i fodloni’r gofynion isafswm yn y fframwaith gallu. Dechreuwyd cynnal adolygiadau gallu wedi’u targedu ym mis Tachwedd 2019 a byddent yn parhau i gael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ariannol gyfredol. Byddai pob partner yn cael adolygiad annibynnol unwaith o leiaf mewn cylch pedair blynedd.  

 

Er mwyn symud ymlaen i ail gam yr amserlen weithredu roedd angen ystyried y canlynol:                

Gweithredu’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol: roedd yr Arolwg yn sail i benderfyniadau buddsoddi’r 22 CRhC felly roedd sut a phryd roedd yn cael ei gynnal yn hanfodol i lwyddiant y Model Buddsoddi. Mae cynllunio sefyllfaoedd yn awgrymu y byddai Covid-19 yn cael effaith ddifrifol ar gyfraddau cymryd rhan mewn chwaraeon; byddai ysgolion yn gweithredu ar amserlen lai gyda blaenoriaethau wedi’u haddasu, a fyddai’n effeithio ar y gallu i gasglu data. Yr opsiwn a ffafriwyd oedd parhau i gynllunio ar gyfer cynnal yr arolwg ym mis Ebrill 2021 ond os nad oedd hynny’n bosib, byddai’n cael ei aildrefnu ar gyfer mis Ebrill 2022.  

 

Pryd i weithredu agwedd ariannol y model ar gyfer 22 CRhC: y cynllun gwreiddiol oedd dechrau pontio yn 2021-22, fodd bynnag, o ystyried heriau Covid-19, roedd yr opsiynau canlynol wedi cael eu hystyried yn fanwl:  

o   Yr Opsiwn a Ffafrir: Gweithredu agwedd ariannol y model fel y cytunwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021-22 gyda phontio drwodd i 2026 fel uchafswm. Gallai hyn arwain at ddefnyddio rhywfaint o ddata o Arolwg 2015 am ddwy flynedd hyd at 2023 (12 mis yn ychwanegol at yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol).  

o   Opsiwn Amgen: Gohirio gweithredu’r agwedd ariannol ar y model tan 2022-23, gyda’r un pwynt gorffen.  

 

Byddai amser digonol yn cael ei roi i bartneriaid baratoi ar gyfer y newidiadau ac yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid allweddol a pharatoi cynllun cyfathrebu, byddai’r swyddogion yn penderfynu ar yr amser gorau i drafod cyllid gyda phartneriaid, gan roi cymaint o amser â phosib iddynt i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau eraill.  

 

Roedd yr Aelodau’n hyderus bod canlyniadau’r Arolwg blaenorol yn parhau’n ddigon cadarn i’w defnyddio a byddai gwybodaeth arolygu arall i’w rhoi ochr yn ochr â hwy, a gwybodaeth gyd-destunol a gasglwyd gan y chwaraeon eu hunain.  

 

Cymeradwyodd y Bwrdd yr argymhellion canlynol:

a)    Ar gyfer awdurdodau lleol – parhau i weithredu’r model Buddsoddi yn unol â datblygu Partneriaethau Chwaraeon CSAP.

b)    Gweithio gyda phartneriaid a fyddai’n derbyn buddsoddiad drwy broses ymgeisio, er mwyn gallu ei weithredu’n llawn erbyn mis Ebrill 2021.  

c)    Parhau i gynllunio i gynnal yr Arolwg ym mis Ebrill 2021 fel y bwriadwyd yn wreiddiol, gan ddatblygu cynllun wrth gefn i’w gynnal ym mis Ebrill 2022. Y penderfyniad terfynol i gael ei gytuno gan y Bwrdd yn ei gyfarfod fis Medi 2020.  

d)    Ar gyfer partneriaid oedd i fod i dderbyn buddsoddiad drwy ddull o weithredu a sbardunir gan ddata / gwybodaeth, dylid dilyn yr opsiwn a ffafrir. Gweithredu agwedd ariannol ar y model fel y cytunwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021-22 gyda phontio drwodd i 2026 fel yr amserlen hiraf.

 

Cyf. y Papur: SW(20)27

 

6.    Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc  

 

Diolchodd y Cadeirydd i Eleri McLennan am ei chyfraniad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac am ei gwaith yn ystod y cyfyngiadau symud i hybu heriau a gemau ar-lein i annog pobl i ddal ati i fod yn actif.                        

Cynhaliwyd y cyfarfod cenedlaethol o Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc ar-lein ar 18 Mai a siaradodd yr Aelodau am sut oeddent yn cadw’n actif ac yn cael eu cymell wrth aros gartref. Roeddent wedi helpu i hybu adnoddau’r Youth Sport Trust (YST) a oedd ar gael ar-lein am ddim nawr ac ymgyrchoedd fel yr Wythnos Gwirfoddolwyr, yr Wythnos Hyfforddwyr a’r Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol. Roedd y Grŵp Llywio’n poeni bod hyder pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, hyfforddi a gwirfoddoli, a’u hunan-gred yn gyffredinol yn eu gallu, wedi lleihau yn ystod y cyfnod hwn. Cyflwynwyd y Grŵp Llywio i brosiect Athletwyr Benywaidd Chwaraeon Cymru a byddai’n helpu i ehangu’r maes ymchwil.                                    

Dathlwyd yr Wythnos Gwirfoddolwyr yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin a rhannwyd llawer o straeon cadarnhaol ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliwyd yr Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol Gartref yn ystod wythnos olaf mis Mehefin ac ar gyfer yr wythnos honno ymunodd YST â Sky Sports er mwyn cynnal ymgyrch i ddangos pŵer chwaraeon i ddod â phobl at ei gilydd, neu wrth ynysu hyd yn oed.  

Roedd yr adroddiad yn cloi gyda rhestr o oblygiadau effaith Covid-19 ar ddigwyddiadau a hyfforddi a beth oedd wedi bod yn bosib ei ddatblygu ar-lein. Roedd y Llysgenhadon Ifanc wedi ymwneud â phennu heriau a rhannu deunydd ar-lein ac roeddent wedi cydweithredu â’u hawdurdodau lleol, eu hysgolion a’u colegau.                        

Diolchodd y Grŵp Llywio i Chwaraeon Cymru am gefnogi menter y Llysgenhadon Ifanc yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.  

7.    Cyllid, Risg a Sicrwydd    

7.1   Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2019/20  

 

Roedd yr adroddiad hwn yn darparu crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 ac fe’i nodwyd gan y Bwrdd. Er gwaetha’r tarfu a achoswyd gan bandemig Covid-19, roedd y staff Cyllid wedi llwyddo i drosglwyddo’r cyfrifon ar gyfer eu harchwilio ar amser. Fodd bynnag, byddai oedi gyda gwaith Swyddfa Archwilio Cymru o tua 4 i 5 wythnos.  

 

Defnyddiwyd y cario drosodd ar gyllid cyfalaf oddi mewn i’r cyfnod cytunedig o amser. Roedd amrywiad positif o £142k wedi’i sicrhau gan Blas Menai ar yr amcanestyniad gwreiddiol, er bod archebion wedi’u canslo ar ddiwedd un y flwyddyn ariannol. Roedd y gwaith gwelliannau cyfalaf a barhawyd pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym wedi’i gwblhau yn awr.    

 

Cyf. y Papur: SW(20)28

 

7.2 Diweddariad y Gyllideb 2020/21  

 

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am amcanestyniadau cychwynnol o effeithiau ariannol Covid-19 gan nodi’r camau a roddwyd ar waith i liniaru colli refeniw oherwydd cau’r Canolfannau Cenedlaethol. Roedd y sefyllfa ailagor fwyaf tebygol wedi cael ei defnyddio ar gyfer yr amcanestyniadau, gan gadw mewn cof bod ffynonellau’r diwydiant yn cefnogi’r rhagdybiaeth y byddai’r adferiad yn ymestyn ymhell i’r flwyddyn ariannol nesaf.  

 

Dangosodd y rhagolygon bod y refeniw allanol disgwyliedig yn 18% ar gyfer 2020/21, 78% ar gyfer 2021/22 a dychwelyd yn y diwedd gobeithio at 100% yn 2022/23. Dangosodd y rhagolygon ar gyfer costau gweithredol (ac eithrio cyfrifiadau cymorth grant) ddiffyg arian parod o tua £1.1m yn 2020/21, gan ostwng i tua £494k yn 2021/22 a thua £115m yn 2022/23.  

 

Wrth symud ymlaen, byddai’r rhagolygon ariannol ar gyfer y ddwy Ganolfan Genedlaethol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn adlewyrchu asesiad gwell o gapasiti a galw cwsmeriaid wrth i gyfyngiadau symud lacio, y gweithgareddau lliniaru costau, gan gynnwys ffyrlo, a’r buddsoddiadau gofynnol i hwyluso ailagor. Byddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â’r Grŵp Adolygu Cyfleusterau.          

 

Byddai £130k i £200k arall yn cael ei godi drwy’r Cynllun Cadw Swyddi ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Dylid nodi hefyd y byddai’r gyllideb yn cael ei diwygio i adlewyrchu’r dyfarniad tâl interim o 2.5% oedd wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.  

 

Cyf. y Papur SW(20)29

 

8.   Agenda Caniatâd  

 

8.1 Ailgynllunio Sefydliadol                  

 

Mae’r strwythur staffio newydd wedi bod ar gael i’r Bwrdd. Gan nad oedd yn bosib defnyddio cefnogaeth Buddsoddi i Arbed bellach, byddai’r recriwtio’n cael ei wneud fesul cam er mwyn lliniaru risgiau i’r gyllideb ac o ran ystyriaeth i gapasiti staffio’r adran Adnoddau Dynol.  

 

Cyf. y Papur: SW(20)30

 

9.    Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog  

 

Sicrhawyd bod cofnodion holl is-grwpiau’r Bwrdd ar gael i’r Aelodau a nodwyd y cynnwys. Roedd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi cael ei ohirio tan 31 Gorffennaf 2020.  

 

10. Unrhyw Fater Arall

 

Cafwyd trafodaeth fer am y ffyrdd o weithio sy’n newid a’r angen am edrych ar ‘ble rydym ni nawr’ mewn perthynas â’r platfformau digidol sy’n cael eu defnyddio a gweithio o gartref.  

 

11. Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 16 Medi.