Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Yn bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale, Ashok Ahir (Eitemau 1-5.2 a 7.1-10), Hannah Murphy (Eitemau 1-5.3)

Staff: Sarah Powell (Prif Swyddog Gweithredol), Brian Davies, Graham Williams, Emma Wilkins, Liam Hull, Rhian Evens (Eitem 5.1), Owen Hathway (Eitem 5.2), James Owens (Eitem 5.3), Owen Lewis (Eitem 5.4), Amanda Thompson (cofnodion)

Allanol: Paul Kindred (Llywodraeth Cymru), Sian Dorward a Janine Dube (Step to Non Exec)

1.    Croeso/ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Athro Leigh Robinson, Judi Rhys, Neil Welch (Llywodraeth Cymru) a Nicola Guy (Llywodraeth Cymru). Croesawodd Sian Dorward a Janine Dube o raglen Step to Non Exec Chwarae Teg.  

Llongyfarchodd y Cadeirydd Ashok Ahir ar ei benodiad yn Llywydd Dros Dro Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Diolchodd i Sarah Powell am ei blynyddoedd o wasanaeth ymroddedig i Chwaraeon Cymru a dymunodd yn dda iddi wrth iddi symud at Gymnasteg Prydain.

2.    Datgan Budd

Ni chafodd unrhyw fudd ei ddatgan. Nid oedd Phil Tilley yn bresennol ar gyfer Eitem 7.2.

3.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 7 Gorffennaf 2021

Roedd cywiriad i Eitem 4.3 gan fod 29 o athletwyr o Gymru wedi'u dewis ar gyfer Tîm Prydain Fawr. Wedyn derbyniwyd y cofnodion fel rhai manwl gywir

Materion yn codi: Eitem 4.4 Cynhwysiant Trawsryweddol mewn Chwaraeon: Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd ar 30 Medi.

4.    Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(21)41

Tynnodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw at y canlynol:

·         Cadarnhawyd £4m ar gyfer parhad y cyllid Adfer Chwaraeon a Hamdden sydd i fod i gael ei ddosbarthu drwy Gronfa Cymru Actif (BAWF).

·         Mae'r gwaith gyda'r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi parhau ar gyflymder yn ystod y ddau fis diwethaf gan edrych ar ddulliau o ddefnyddio a dosbarthu cyllid. Daethpwyd â sgiliau a dysgu ychwanegol i mewn drwy'r rhaglen Alpha.

·         Roedd y Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon a'r Is Gadeirydd wedi mynychu digwyddiadau Croesawu Gartref Tîm Prydain Fawr a Thîm Paralympaidd Prydain Fawr yn Llundain. Cynhaliodd y Senedd ddigwyddiad ar gyfer athletwyr Cymru hefyd, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru.

·         Roedd cyfarfodydd amrywiol gyda WSA wedi arwain at adlewyrchu a dysgu anffurfiol ond ni chredid ei bod yn angenrheidiol ar y pwynt hwn cael cyfarfodydd cynrychiolwyr y Bwrdd.

·         Cafwyd trafodaeth ynghylch y risg bosibl o'r cyhoedd yn colli diddordeb mewn cyflawniadau medalau, yn eironig oherwydd graddfa’r llwyddiant diweddar, a thrafodaeth ar y ffordd orau i gofnodi, dathlu a defnyddio treftadaeth ac archifau chwaraeon.

5.    Polisi a Strategaeth

5.1        Cynllun Busnes 2021/22 Ch2 – SW(21)42

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgarwch yr ail chwarter eleni ac amlinellodd gamau gweithredu i’w datblygu o'r gwaith hwnnw yn y dyfodol, gan dynnu sylw at y canlynol:

·         Meithrin rhwydweithiau EDI a mynd i'r afael â rhwystrau o ran cyfranogiad.

·         Trawsnewid y ffordd mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu darparu ar lefel ranbarthol.

·         Ffocws ar wytnwch y sector a meithrin hyder ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Croesawodd yr Aelodau y manylion a'r fformat, nodwyd yr adroddiad a chytunwyd i ofyn unrhyw gwestiynau dilynol i staff yn annibynnol.

5.2        Adolygu Blaenoriaethau’r Cynllun Busnes – SW(21)4

Parhaodd y meysydd blaenoriaeth yn gyson i raddau helaeth â chymeradwyaeth cynllun busnes gwreiddiol y Bwrdd, gyda'r diwygiadau'n cydnabod esblygiad y ddealltwriaeth yn y meysydd gwaith hyn.

Roedd y naratif wedi'i ddiweddaru o amgylch y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y canlynol:

·         Rhwydweithiau EDI a'r rhwystrau o ran cyfranogiad

·         Datblygiad diwylliannol a lles staff

·         Rheoli Plas Menai yn y dyfodol

·         Digideiddio mewn cydweithrediad â CDPS

·         Gwydnwch y sector yn y cyfnod ôl-bandemig gan gynnwys mesurau i gefnogi arweinyddiaeth, alinio gwasanaethau'r Athrofa ac ymgorffori'r strategaeth fuddsoddi.

·         Addysg Actif a safle chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm.

·         Gwella’r ddarpariaeth o chwaraeon cymunedol drwy'r rhaglen Partneriaethau Chwaraeon.

Cafodd yr eitem hon ei symud i ‘fusnes arferol’ yn hytrach na maes blaenoriaeth penodol:

·         Gwybodaeth bellach i fod yn ehangach ei chwmpas nag effaith uniongyrchol Covid19 ac ymateb i’r wybodaeth o’r ffrydiau cyllido ar lefel gymunedol.

Ychwanegwyd maes blaenoriaeth newydd:

·         Manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae Gemau Cymanwlad yn y DU, yn Birmingham yn 2022, yn eu cyflwyno i Chwaraeon Cymru ac i chwaraeon yng Nghymru.

Pwyntiau Trafod:

·         Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweld yr adroddiad hwn ac nid oedd ganddynt unrhyw ymholiadau na materion i'w codi. Roedd y blaenoriaethau'n cyd-fynd â'r Rhaglen Lywodraethu a pholisïau perthnasol.

·         Nid oedd arolygon Com Res yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer yr holl nodweddion a byddai Chwaraeon Cymru yn defnyddio'r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru a’r Arolwg Chwaraeon Ysgol i gael gwybodaeth helaeth.

·         Nid yw'r rhaglen ddigideiddio yn symud yn ddigon cyflym ac nid oes ganddi ddigon o adnoddau.

·         Dylid parhau i roi sylw i effaith Covid19 a pheidio â'i diystyru'n rhy gyflym.

·         Mae'r cyfleoedd a gyflwynir gan Birmingham 2022 yn cynnwys mentrau gwyrdd ac ysbrydoli ac annog cynulleidfaoedd newydd ar sail integredig.

Cymeradwywyd y blaenoriaethau diwygiedig gyda nodyn y byddai'r tîm Arweinyddiaeth yn mireinio'r ddogfen ar ôl adlewyrchu ar yr adborth a roddwyd.

5.3        Addysg Actif – SW(21)44

Edrychodd yr adroddiad hwn yn ôl ar y camau a gymerwyd, yr arsylwi a’r dysgu allweddol, a chynigiodd y camau neu'r ystyriaethau allweddol wrth symud ymlaen i gefnogi gweithredu'r cwricwlwm newydd a symud ymlaen gyda’r fenter ysgolion cymunedol. Dyma fyddai’r gwaith yn y dyfodol:

·         Cysylltu â rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif i weithio ar flaenoriaethau cyfalaf

·         Trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ail-lunio'r diwrnod ysgol

·         Datblygiad parhaus gyda chonsortia ac arweinwyr cwricwlwm gyda'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Pwyntiau Trafod:

·         Lles disgyblion a sicrhau bod pawb yn ôl yn yr ysgol yn ddiogel sydd wedi bod yn flaenoriaeth. Oherwydd y pwysau a achoswyd gan Covid19, roedd llawer o staff ysgolion yn teimlo'n flinedig gan ofyn am beidio â chael unrhyw waith ychwanegol yn gynnar ym mis Medi.

·         Defnyddio gweithgarwch corfforol i wella iechyd corfforol a meddyliol oedd y maes gwaith lle gallai Chwaraeon Cymru a'r sector chwaraeon ddylanwadu fwyaf ar genedlaethau’r dyfodol.

·         Mae pryder wrth glywed bod rhai ysgolion yn parhau i nodi diffyg hyder o ran darparu AG a chwaraeon, fodd bynnag, mae'r adnoddau y mae Chwaraeon Cymru wedi'u darparu wedi cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac wedi cael effaith gadarnhaol.

·         Nid yw grŵp rhanddeiliaid strategol Llywodraeth Cymru wedi'i ffurfio eto. Roedd swyddogion Chwaraeon Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogi’n fewnol lle bo modd.

·         Roedd gwrthwynebiad ysgolion i gyflwyno gweithgarwch corfforol oherwydd cyfyngiadau Covid19 yn ddealladwy ond ni ddylai hyn barhau dros y flwyddyn nesaf neu fwy.

·         Roedd dull cyfannol Ysgol y Goedwig o weithredu yn llwyddiannus iawn. Dylai Chwaraeon Cymru ystyried sefydlu rhaglen fel hon ar gyfer ysgolion cynradd ac arwain ar y maes gwaith hwn.

·         Dylai Chwaraeon Cymru gynnwys dylanwadu ar y cwricwlwm hyfforddi athrawon hefyd.

·         Dylai ffocws ar gynhwysiant fod yn ganolog i'r gwaith gydag ysgolion. Gall pam fod plant wedi'u heithrio a pha rwystrau a wynebwyd fod yn bwnc i'r Panel Ieuenctid edrych arno.

·         Roedd Chwaraeon Cymru wedi bod yn ceisio dylanwadu ‘yn gynnil’ ond, yn y pen draw, cyfrifoldeb y Consortia oedd cyflawni. Mae angen cyfeiriad cadarn yn y maes hwn gan y lefel uchaf o Weinidogion a Chomisiynwyr.

·         Trafodwyd a chadarnhawyd rôl Chwaraeon Cymru fel dylanwadwr effeithiol drwy gyfrwng y canlynol:

o    Cefnogi'n weithredol gyda'r adnoddau sydd gan Chwaraeon Cymru;

o    Darparu gwybodaeth, data a dysgu;

o    Meddwl yn arloesol.

5.4        Trosolwg o’r Athrofa – SW(21)45

Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Athrofa ers y cyflwyniad a roddwyd i'r Bwrdd ym mis Chwefror. Yn ystod y cylch blaenorol bu cyflawni llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd, Paralympaidd a’r Gymanwlad gydag agwedd gyfannol tuag at ‘sut rydym yn ennill’ yn ogystal â’r ‘hyn rydym yn ei ennill’. Cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy ddarparu cefnogaeth unigol i athletwyr. Fodd bynnag, roedd yr Athrofa wedi bod yn llai medrus wrth gefnogi a gwella datblygiad cynhwysol athletwyr ar raddfa, a oedd yn arwydd o angen yn y sector ehangach i flaenoriaethu'r maes gwaith hwn.

Y cam nesaf fyddai cefnogi newid ffocws ar draws y sector ar ddatblygiad cynhwysol athletwyr, gan ei wneud yn amlycach ac yn flaenoriaeth sy’n cael ei deall yn well. Byddai cefnogaeth bwrpasol i athletwyr unigol yn cael ei rhoi i athletwyr ar raglen Safon Byd UK Sport yn unig. Byddai hyn yn galluogi i'r Athrofa ganolbwyntio ei hadnoddau ar ddatblygiad cynhwysol athletwyr, gan olygu bod angen newid meddwl gan bartneriaid a oedd, yn draddodiadol, wedi cael cefnogaeth i athletwyr unigol ar gyfer lefel is o berfformiad. Yn ystod y cyfnod yn arwain at Birmingham 2022 byddai'r Athrofa yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod athletwyr nad ydynt yn WCP sydd â mynediad at gefnogaeth unigol fel rhan o'u paratoadau hyd yma yn cael eu cefnogi hyd at y Gemau.

Cymeradwyodd yr Aelodau eu cefnogaeth i'r dull fel y manylir yn y papur.

5.5        Cyflwyniad y Rhaglen Lywodraethu a’r Llythyr Cylch Gorchwyl – SW(21)46

Yn unol â chais Llywodraeth Cymru, roedd Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno cynnig cyllido tymor hwy gan ddefnyddio templed rhagnodol traws-lywodraeth newydd yn seiliedig ar y Rhaglen Lywodraethu sydd newydd ei chyhoeddi. Gofynnwyd am ffigurau pennawd cychwynnol a meysydd ffocws ar gyfer cyfalaf a refeniw am gyfnodau o 4 blynedd a 3 blynedd. Cynghorodd y swyddogion gynnwys cyllidebu llinell wastad a hefyd rhestru unrhyw feysydd ar gyfer twf posib. Craffwyd ar y gwaith hwn gan y Grŵp Llywodraethu Allweddol a gyfarfu ar 26 Gorffennaf.

O ran refeniw, gweithredwyd dull cymedrol gyda'r nod o gynyddu buddsoddiad mewn meysydd blaenoriaeth yn raddol, yn hytrach na sefydlu unrhyw feysydd gwaith newydd. Fodd bynnag, mewn perthynas â chyfalaf, cyflwynwyd cais sylweddol yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan ymchwil diweddar 4Global. Ers hynny, addaswyd hwn, fel yr eglurwyd yn yr adroddiad a'i ddangos yn yr atodiadau.

Byddai’r trafodaethau'n parhau gyda swyddogion o ystyried bod y cyflwyniad yn croesi sawl portffolio Gweinidogol. Byddai ystyriaeth Weinidogol yn cael ei rhoi cyn bo hir. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

6.    Panel Ieuenctid

6.1        Adroddiad y Panel Ieuenctid

Roedd y Panel Ieuenctid oedd newydd ei ffurfio wedi penodi Cadeirydd. Cyfarfu'r grŵp ddiwethaf ar 31 Awst a thrafod materion yn ymwneud ag Addysg a rhaglen y Llysgenhadon Ifanc. Gwnaed cais ganddynt am i'r Bwrdd gyfeirio materion atynt am eu mewnbwn. Gofynnodd y Bwrdd i'r Panel Ieuenctid gyflwyno atebion i'r heriau roeddent wedi'u nodi yn eu hadroddiad gan mai dyma'r math o wybodaeth y gallai Chwaraeon Cymru weithredu yn ei chylch, a hefyd i nodi unrhyw gyfleoedd yr hoffent eu cael.

7.    Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd

7.1        Crynodeb o Gyfarfodydd yr Is Grwpiau – SW(21)47

Nododd yr Aelodau yr adroddiad. Gellid cael cofnodion y cyfarfodydd amrywiol yn gyflym drwy ddefnyddio'r Traciwr Penderfyniadau

7.2        Grŵp Adolygiad Cyfleusterau (FRG) Cenedlaethol Chwaraeon Cymru - SW(21)48

Ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, roedd FRG wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda mewnbwn gan aelodau eraill y Bwrdd. Roedd eu gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu'r dull caffael, cyfathrebu ac ymgysylltu â staff. Cam nesaf y gwaith fyddai'r Cam Tendro a fyddai'n cychwyn ddechrau mis Hydref. Rhoddwyd cyflwyniad i ddangos yr wybodaeth a adolygwyd a'r penderfyniadau a wnaed gan FRG i lunio'r dull a awgrymwyd o gaffael.

Nodwyd bod Plas Menai yn eiddo i Ymddiriedolaeth Chwaraeon Cymru. Y Bwrdd fel grŵp oedd unig ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth. Byddai Cooke & Arkwright yn darparu tystiolaeth i ddangos bod y Bwrdd yn gweithredu er budd gorau'r Ymddiriedolaeth. Byddai'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn trafod y dull yn fuan gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon.

Cymeradwyodd y Bwrdd y dull caffael ar gyfer y model gweithredu ym Mhlas Menai yn y dyfodol. Nid oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yma am ddyddiad i ddechrau'r ymarfer caffael a byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn dilyn y cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog. Cytunwyd i drefnu cyfarfod arbennig o'r Grŵp Llywodraethu Allweddol yn dilyn y cyfarfod Gweinidogol.

8.    Cyllid, Risg a Sicrwydd

8.1        Adroddiad Cyllid – Ebrill i Awst 2021 – SW(21)49

Rhoddodd yr adroddiad grynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru am y pum mis a ddaeth i ben ar 31 Awst 2021. Roedd y ffigurau'n seiliedig ar gyfrifon rheolaeth fewnol drafft ac nid oeddent yn cynnwys addasiadau ar gyfer gofynion adrodd statudol.

·         Dyrannodd Llywodraeth Cymru £2m pellach i gronfeydd Cyfalaf a oedd bellach yn gyfanswm o £7m.

·         Rhoddodd Llywodraeth Cymru £4m i barhau ag elfen Cynnydd Cronfa Cymru Actif.

·         Addaswyd cyfraniad Chwaraeon Cymru at y Gronfa Iach ac Egnïol, fel y disgrifiwyd.

·         Defnyddiwyd y cynllun ffyrlo fel y dangosir, gan ddod i ben ym mis Medi.

·         Mae gwerthiant tocynnau'r Loteri Genedlaethol yn parhau i fod yn gadarn.

Noddodd yr Aelodau yr adroddiad.

8.2        Diweddariad y Gofrestr Risg Gorfforaethol – SW(21)50

Cyfarfu RAMG ar 15 Medi a gwnaeth y newidiadau canlynol i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

·         Uno'r ddwy risg o ran tarfu sylweddol ar weithrediadau oherwydd Covid19 a chynhyrchiant staff yn cael ei effeithio gan forâl a lles isel i'r canlynol: Cynnydd y Weledigaeth a'r Strategaeth yn cael ei lesteirio gan ddiffyg ymgysylltu a chynhyrchiant wrth i'r sefydliad barhau i addasu i weithio hybrid.

·         Archifo'r risg o ailgynllunio sefydliadol yn llesteirio cynnydd Strategaeth Chwaraeon Cymru wrth i'r derbyn gael ei gwblhau ac mae'r heriau a wynebir nawr yn cael eu hadlewyrchu yn y risg fel y dangosir uchod.

·         Archifo'r risg o fethu gweithredu'r strategaeth adnoddau newydd sy'n cyfyngu ar weithredu Strategaeth Chwaraeon Cymru gan fod y model buddsoddi wedi'i weithredu bellach. Byddai'r risg hon yn parhau i fod yn fyw ar lefel risg adrannol.

·         Ychwanegu risg newydd o fethu dod o hyd i bartner wedi'i gomisiynu ar gyfer gweithredu Plas Menai yn llesteirio cynnydd y Strategaeth, a gallai morâl a lles isel staff effeithio ar y gweithrediadau cyfredol tra bo'r prosiect yn parhau.

Roedd pryder ynghylch symud ymlaen o'r risgiau uniongyrchol a ddaeth yn sgil Covid19, ond teimlwyd ei bod yn briodol aileirio risgiau i adlewyrchu gwytnwch sefydliadol yn erbyn effeithiau tymor hwy y pandemig. Byddai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cyfarfod nesaf ar 1 Hydref ac yn trafod y cwestiynau a godwyd. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

9.    Unrhyw Fater Arall

Byddai rhagor o fanylion yn dilyn am y diwrnod i ffwrdd sydd i gael ei gynnal ar gyfer y Bwrdd.

10. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf

25 Tachwedd 2021

17 Chwefror, 13 Mai, 15 Gorffennaf, 16 Medi, 25 Tachwedd 2022

Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru ar 25 Tachwedd 2021.