Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar 25 Tachwedd 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar 25 Tachwedd 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Yn Bresennol: Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Leigh Robinson, Judi Rhys, Phil Tilley, Alison Thorne.              Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro), Graham Williams, Emma Wilkins, Liam Hull, Amanda Thompson (cofnodion), Jane Foulkes (Eitem 5.1), Owen Hathway (Eitem 5.2), Clare Roberts (Eitem 5.3).                                                                                                        Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Jac Chapman (Cadeirydd y Panel Ieuenctid)

1.    Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd yr Is Gadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Lawrence Conway, Dafydd Trystan Davies a Sian Dorward (Step to Non Exec). Roedd Martin Veale yn bresennol am awr gyntaf y cyfarfod gan drafod eitemau 1 i 4.1. Nid oedd Phil Tilley yn bresennol ar gyfer eitem 7.2.

2.    Datgan Buddiannau               

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau newydd.

3.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 17 Medi 2021

Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4.    Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth

4.1        Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(21)51

Nododd yr Aelodau yr adroddiad a thrafodwyd y canlynol yn fanylach:

·         Cyfarfu UK Sport a Chynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref ar 24 Tachwedd i drafod dilyniant i adroddiad TRARIIS ac i ddrafftio datganiad gwrth-hiliaeth ar y cyd. Roedd UK Sport hefyd yn ffurfio proses gwyno annibynnol. Bwriad Chwaraeon Cymru oedd sicrhau bod CRhC yn gwrando ar brofiadau byw o fewn eu campau ac yn gweithredu arnynt, a chael gwared ar unrhyw hiliaeth sefydliadol o fewn y sector. Clywyd am brofiadau o hiliaeth gan chwaraewyr criced yng Nghymru a byddai'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn eu trafod wrth gyfarfod â Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Criced Cymru ym mis Rhagfyr.

·         Trafodwyd yr adroddiad blynyddol integredig. Teimlai rhai aelodau nad oedd sut oedd y strategaeth yn cyd-fynd â nodau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddigon clir. Roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn fodlon gyda’r ddogfen ond byddai’r Prif Swyddog Gweithredol yn gofyn am gael trafod hyn ymhellach gyda hi. Teimlwyd yn eang bod Chwaraeon Cymru yn enghraifft flaenllaw yn y sector cyhoeddus. Roedd Archwilio Cymru wedi cwblhau rhywfaint o waith eisoes ar integreiddio amcanion y Ddeddf ac yn bwriadu cynnal adolygiad ffurfiol llawn i gyd-fynd â gwerthusiad mewnol o'r strategaeth yn y dyfodol.

·         Roedd y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol wedi cyfarfod yn ddiweddar â Phrif Swyddog Gweithredol newydd CBDC. Roedd wedi llywio newidiadau llywodraethu yn llwyddiannus a chroesawyd ei ffocws ar wella cyfleusterau. Hyd yn hyn nid oedd unrhyw gynllun ariannol terfynol, gan aros trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru, a byddai CBDC yn defnyddio ei chysylltiadau â FIFA ac UEFA gobeithio.

·         Gofynnodd yr Aelodau i’r diweddariad nesaf ar drawsnewid digidol gynnwys manylion ynghylch pa CRhC oedd yn ymgysylltu ag ef ai peidio, a gwybod ble oedd y lle gorau i gefnogaeth Chwaraeon Cymru.

·         Roedd staff llywodraethu a chyllid Chwaraeon Cymru yn cynorthwyo rhai CRhC gyda mater TAW hanesyddol.

5.    Polisi a Strategaeth

5.1        Adroddiad Ch3 y Cynllun Busnes – SW(21)52

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chyflawniad 2021/22 yn erbyn y cynllun busnes ac yn amlinellu camau gweithredu yn y dyfodol a ddatblygwyd o’r gwaith hwnnw. Y ddau faes blaenoriaeth yn y cynllun busnes a amlygwyd oedd:

•      Digideiddio a dirnadaeth o brosiect darganfod y Gronfa Buddsoddi Cymunedol mewn cydweithrediad â'r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

·         Gwydnwch y sector

Pwyntiau trafod:

·         Mae gan Chwaraeon Cymru rôl unigryw wrth ddod â phobl ynghyd. Mae sut rydym yn ymgysylltu â phartneriaid ac yn cefnogi gwydnwch yn cryfhau’r sector.

·         Trafodwyd sicrwydd ynghylch cadernid y broses, osgoi biwrocratiaeth, targedu cywir, iaith, cyrraedd cymunedau newydd a'r rhai mewn tlodi digidol.

·         Byddai’r aelodau'n croesawu mwy o wybodaeth am WIPHAS, dirnadaeth a thueddiadau’r sector. Byddai OH yn sicrhau bod yr adroddiad diweddaraf ar gael i Aelodau'r Bwrdd.

CAM GWEITHREDU: Gofynnodd Aelodau'r Bwrdd am ragor o wybodaeth am brosiect darganfod y Gronfa Buddsoddi Cymunedol.

5.2        Cyfleusterau Cyfalaf – SW(21)53

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gynnydd yn erbyn rhaglen cyllid cyfalaf £7m y flwyddyn ariannol hon. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gynlluniau ar gyfer proses mynegi diddordeb yn ystod y flwyddyn ac yn gofyn am farn yr Aelodau ar sefydlu panel ffurfiol (fel is-grŵp o’r Bwrdd) i oruchwylio’r cynllunio strategol tymor hwy ar gyfer cyfleusterau. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell cefnogaeth mewn egwyddor i brosiect felodrom Gogledd Cymru.

Pwyntiau trafod:

·         Buddsoddi mewn cae hoci: Roedd y cae presennol wedi mynd y tu hwnt i'w oes a heb un yn ei le ni fyddai unrhyw gemau hoci rhyngwladol pellach yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd. Byddai modd cludo'r cae newydd i leoliad arall pe bai unrhyw gyfleusterau yn cael eu hadleoli yn y dyfodol.

·         Tŷ Chwaraeon 3: Roedd CBDC wedi tynnu cysylltiad Futsal yn ôl felly nid oedd bellach yn bartner a oedd yn cyfrannu. Fodd bynnag, byddai cyfleuster pêl rwyd pwrpasol o fudd, a byddai Chwaraeon Cymru yn cyfrannu’r £150k angenrheidiol tuag at loriau a seddau. Nododd yr aelodau fod y prosiect wedi elwa o £1.7m o fuddsoddiad preifat.

·         BMX Caerdydd: Roedd y costau uwch yn ymwneud yn rhannol â Covid19, ond hefyd mewn perthynas â newid i'r fanyleb ar gyfer dŵr ffo, cloddiau a ffensio yr oedd British Cycling yn gofyn amdanynt. Gwrthodwyd y rampiau ychwanegol o 8m ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol.

·         Crowdfunder: Bu ymgysylltu da â’r prosiect peilot hwn ar gyfer arian cyfatebol gyda dull ‘cyffyrddiad ysgafn’ o weithredu. Byddai'r gwerthusiad yn cael ei rannu maes o law. Roedd Crowdfunder wedi'i ddewis ar gyfer y peilot yn unig a byddai angen proses gaffael bellach ar gyfer unrhyw barhad o'r cynllun.

·         Roedd angen rhyw fesur o asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar bob cais. Po uchaf y swm y gofynnwyd amdano, y mwyaf o wybodaeth oedd ei hangen.

·         Roedd StreetGames wedi'i ddewis ar gyfer prosiect peilot fel partner presennol lle'r oedd mesurau rheoli ariannol eisoes ar waith ac ar gyfer eu rhwydweithiau a'u parodrwydd i gyflawni ar unwaith. Roedd y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â WCVA a SportsEd. Dylid trafod unrhyw bryderon ynghylch ymgysylltiad cymunedau targed rhwng y partneriaid ac mae cyfathrebu o'r fath wedi’i sefydlu, gan aros am un ymateb terfynol.

·         Panel buddsoddi cyfalaf ffurfiol: Teimlai'r aelodau nad oedd hyn yn angenrheidiol gan ei fod yn fater gweithredol yn bennaf, a byddai'r Bwrdd yn fodlon ar adroddiadau yn manylu ar y rhesymeg fuddsoddi a sicrwydd bod diwydrwydd dyladwy wedi'i gyflawni.

·         Awgrymwyd y dylai Chwaraeon Cymru sefydlu strategaeth cyfleusterau genedlaethol ar gyfer Cymru a chysylltu digwyddiadau rhyngwladol / mawr â gofynion cymunedol. Byddai gan hyn fwy o rym ar gyfer tynnu ffrydiau cyllido amrywiol at ei gilydd.

·         Diolchodd y Prif Swyddog Gweithredol i Nicola Mead-Batten a Dafydd Trystan Davies am eu mewnbwn drwy'r cyfarfodydd panel anffurfiol.

CAMAU GWEITHREDU:

·         Felodrom Gogledd Cymru: Argymhelliad wedi'i gymeradwyo ar gyfer cefnogaeth mewn egwyddor.

·         Panel buddsoddi cyfalaf: Roedd yr aelodau o blaid is-grŵp Bwrdd ar gyfer Buddsoddiadau Cyfalaf Strategol os oedd y Cadeirydd yn cytuno.

·         Roedd trafodaeth bellach ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ei safbwynt.

5.3        Diweddariad Addysg Actif – SW(21)54

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Medi. Canmolodd yr Aelodau y cynnydd a oedd yn digwydd. Roedd y Comisiynydd Plant, a oedd yn cynnal cyfarfodydd bob pythefnos gyda’r Gweinidog Addysg, yn gwbl gefnogol i’r maes gwaith hwn.

5.4        Cydnabod Ffederasiwn Codi Pŵer Prydain Fawr – SW(21)55

Roedd yr adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ar y cais am gydnabyddiaeth gan Gorff Rheoli Cenedlaethol GB Powerlifting Federation Limited, sy'n masnachu fel British Powerlifting. Aseswyd y cais a chytunwyd arno gan Sport England gan fod y CRhC wedi’i leoli yn Lloegr a chytunwyd arno gan banel Cydnabod y DU. Roedd codi pŵer yn ddisgyblaeth codi pwysau ar hyn o bryd ac yn cael ei reoli gan British Powerlifting yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a Chodi Pwysau Cymru yng Nghymru. Fel y cytunwyd gyda British Powerlifting, byddai Codi Pŵer Paralympaidd yn parhau i gael ei lywodraethu gan British Powerlifting. Mae Codi Pwysau Cymru yn cefnogi argymhellion UKRP. Cymeradwyodd yr Aelodau yr argymhelliad ar gyfer cydnabyddiaeth.

6.    Panel Ieuenctid

6.1        Adroddiad y Panel Ieuenctid

Diolchodd Aelodau'r Bwrdd i Gadeirydd y Panel Ieuenctid am ei gyflwyniad a'i adroddiad cynhwysfawr.

Roedd y Panel wedi cyfarfod ar 9 Tachwedd a thrafodwyd y canlynol:

·         Arolwg Chwaraeon Ysgol gyda staff Dirnadaeth Chwaraeon Cymru: Rhoddodd y Panel Ieuenctid gyngor ar y dull, yr iaith a’r derminoleg i’w defnyddio, a oedd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r tîm Dirnadaeth. Buont hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallent hyrwyddo'r arolwg a sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei adlewyrchu.

·         Cwricwlwm Newydd – roedd y Panel Ieuenctid yn credu bod diffyg amser wedi’i neilltuo ar gyfer AG a hoffai weld ystod ehangach o weithgareddau’n cael eu cynnig yn ystod y diwrnod ysgol a chyflwynodd ystod o syniadau a dulliau newydd o weithredu.

·         Ysgolion gyda Ffocws Cymunedol – Hoffai’r Panel Ieuenctid weld cyfleoedd sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned (dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu)

·         Byddai cyfleoedd hyfforddi ar gyfer datblygiad personol aelodau'r Panel Ieuenctid (yn debyg i'r rhaglen Arweinyddiaeth Llysgenhadon Ifanc) yn cael eu croesawu.

Pwyntiau trafod:

·         Byddai gan Aelodau'r Bwrdd ddiddordeb mewn cael gwybod a oedd aelodau'r Panel Ieuenctid yn gallu cael effaith ar lefel llywodraethu eu coleg neu ysgol, neu a oedd angen cymorth arnynt i alluogi hyn.

·         Byddai Aelodau'r Bwrdd yn fodlon mentora aelodau'r Panel Ieuenctid os byddai hyn yn helpu eu datblygiad personol.

·         Dylai Chwaraeon Cymru ehangu llais y Panel Ieuenctid fel bod ei effaith hefyd yn cyrraedd y Comisiynydd Plant a’r Gweinidog Addysg er mwyn dylanwadu ar raglenni cenedlaethol.

·         A yw'r Panel Ieuenctid yn ymwybodol o symudiadau blaenorol (a adroddwyd yn flaenorol i'r Bwrdd gan Grŵp Llywio'r Llysgenhadon Ifanc) i greu ap i gofnodi gwirfoddoli?

·         Er ei fod yn syniad diddorol, ni fyddai darpariaeth addysg gorfforol a chwaraeon rhyw cymysg yn opsiwn i rai genethod a merched ifanc, felly byddai perygl o eithrio.

·         Gallai dysgu yn y dyfodol o syniadau'r Panel Ieuenctid, os gellir eu gweithredu, fod yn ddefnyddiol hefyd i wella’r ddarpariaeth chwaraeon a hamdden i oedolion.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol ei fod wedi mynychu Cynhadledd Genedlaethol y Llysgenhadon Ifanc yn ddiweddar a oedd wedi'i threfnu'n broffesiynol iawn.

7.    Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd     

7.1        Crynodeb o Gyfarfodydd yr Is-Grwpiau – SW(21)56

Nododd yr aelodau yr adroddiad. Roedd modd gweld cofnodion y gwahanol gyfarfodydd yn gyflym drwy ddefnyddio'r Tracrwr Penderfyniadau. Roedd Hywel Tudor wedi'i benodi'n ddiweddar yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

7.2        Adroddiad Grŵp Adolygu Cyfleusterau Chwaraeon Cymru (FRG) - SW(21)57

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith pellach a wnaed gydag Undeb y PCS ac yn adrodd ar y cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd a fyddai'n bwydo i ddatblygu’r dogfennau caffael. Roedd canlyniad y ddau yn golygu y byddai angen adolygu'r amserlen. Byddai partïon â diddordeb yn cael eu hysbysu drwy ryddhau datganiad cyffredinol. Diolchodd y Prif Swyddog Gweithredol i Aelodau'r FRG a'r staff am eu cefnogaeth barhaus. Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd yr amserlen ddiwygiedig.

7.3        Adroddiad y Grŵp Amrywiaeth – SW(21)58

Roedd yr adroddiad hwn yn gofyn i'r Bwrdd ystyried newid y Grŵp Amrywiaeth i grŵp sefydlog gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Gofynnwyd i'r Bwrdd hefyd drafod opsiynau i gynyddu capasiti staffio EDI sefydliadol ac i drafod y dull o weithredu gyda gallu EDI partneriaid.

•      Awgrymwyd croesgyfeirio gyda briff gwreiddiol y Cadeirydd a ragflaenodd ffurfio’r grŵp a gwirio’r cyd-fynd â phryderon blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.

•      Byddai'r Grŵp Amrywiaeth yn pennu’r strategaeth ac yn arwain ar graffu a oedd yn newid cadarnhaol.

•      Roedd digon o gapasiti o fewn swyddi presennol i greu uned EDI ond roedd llai o hyder ynghylch adnabod adnoddau ychwanegol i ariannu swydd(i) newydd.

•      Ymchwilio i weld a oes cyllid ychwanegol ar gael i gyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.

Cymeradwyodd yr aelodau'r newid i'r grŵp ddod yn bwyllgor sefydlog o'r Bwrdd a chael ei ailenwi'n Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDIC). Cymeradwyodd yr aelodau y cylch gorchwyl diwygiedig a'r cylch gorchwyl i adolygu EDI yn fewnol a gallu EDI o fewn partneriaid.

CAM GWEITHREDU:  Y Weithrediaeth i weithio ar ragor o fanylion ar arwain a darparu adnoddau ar gyfer EDI yn fewnol ac i gefnogi'r sector ehangach.

8.    Cyllid a Risg

8.1        Adroddiad Cyllid Ebrill - Hydref 2021/22 - SW(21)59

Roedd yr adroddiad hwn a’r cyfrifon rheoli cysylltiedig yn rhoi crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru am y saith mis a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2021. Roedd y ffigurau’n seiliedig ar gyfrifon rheoli mewnol drafft ac nid oedd yn cynnwys addasiadau ar gyfer gofynion adrodd statudol. Trafododd yr Aelodau incwm y Loteri yn gryno a nodwyd yr adroddiad.

8.2        Dyhead Risg – SW(21)60

Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r trefniadau rheoli risg sydd ar waith yn Chwaraeon Cymru ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd i ddyhead risg wedi’i ddiweddaru. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi rhoi mewnbwn i'r adroddiad. Roedd tri phwynt lefel uchel i’w nodi:

•      Roedd y trefniadau a'r dyhead risg yn seiliedig ar arfer gorau.

•      Roedd y sgôr yn adlewyrchu'r terfyn uchaf o ran lle'r oedd y Bwrdd eisiau bod, er enghraifft, roedd sgôr blaenorol o 3 i 4 bellach yn cael ei gynrychioli gan y lefel uchaf o 4. Roedd hyn yn atal amwysedd.

•      Llwyddodd y dull gweithredu i sicrhau cydbwysedd rhwng cymryd lefel uwch o risg i fod yn arloesol a chyflawni cyrhaeddiad ehangach a lefel is o risg fel gwarcheidwad arian cyhoeddus.

Trafodwyd y gofrestr risg yn fyr. Cymeradwyodd yr aelodau y dyhead risg gydag un newid i'r risg i enw da i gael ei gynyddu o fod yn ofalus i fod yn agored.

CAM GWEITHREDU:  Papur ar gyfer amgylchedd gwaith swyddfa tymor hwy yn y dyfodol i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Chwefror.

9.    Unrhyw Fater Arall

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

10. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf

17 Chwefror, 13 Mai, 15 Gorffennaf, 16 Medi, 25 Tachwedd 2022

Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru ar 17 Chwefror 2022.