Main Content CTA Title

Prisiau Aelodaeth a Thalu a Chwarae

Aelodaeth

Aur

Mae’r aelodaeth Aur yn daladwy bob mis drwy Ddebyd Uniongyrchol a dim ond £34.00 y mis ydi’r pris. Mae'r aelodaeth yn darparu mynediad i'r Gampfa Cardio a Phwysau Rhydd, dosbarthiadau Ffitrwydd, yn ogystal â Chwaraeon Raced, yn amodol ar argaeledd. 

Arian

Mae’r aelodaeth Arian yn daladwy drwy Ddebyd Uniongyrchol a dim ond £22.00 y mis ydi’r pris. Mae'r aelodaeth yn darparu mynediad i'r Gampfa Cardio a Phwysau Rhydd, Dosbarthiadau Ffitrwydd a gostyngiad ar archebion Chwaraeon Raced. 

Efydd

Mae’r aelodaeth Efydd yn aelodaeth 'Talu a Chwarae'. Mae ffi gychwynnol yn daladwy sy'n adnewyddadwy'n flynyddol am bris is. Wedyn mae'n ofynnol i Aelodau dalu am eu defnydd bob tro.

Ffi flynyddol:

  • Oedolion - £19.80
  • Dan 18 oed, Pensiynwyr (60+), Myfyrwyr - £14.85

Buddion Aelodaeth 

  • Nid oes unrhyw gontract tymor penodol, gellir canslo eich aelodaeth ar unrhyw adeg, yn amodol ar rybudd ysgrifenedig o fis.
  • Cyfleuster archebu 7 diwrnod ymlaen llaw ar gyfer dosbarthiadau chwaraeon raced a ffitrwydd
  • Llety preswyl am brisiau is i deulu a gwesteion.

Taliadau debyd uniongyrchol

Cesglir taliadau aelodaeth Debyd Uniongyrchol o’ch cyfrif banc ar y 1af o’r mis. Bydd cyfnod prosesu o fis cyn y gofynnir am y rhandaliad cyntaf o’ch cyfrif banc. Gofynnir i chi nodi fodd bynnag y bydd unrhyw aelodaeth yr ymrwymir iddi ar ôl y 15fed o’r mis yn atebol am daliad pro rata hirach gan na fydd posib ei gasglu ar y 1af o’r mis dilynol oherwydd yr amser prosesu sydd ei angen (enghraifft B).

Enghraifft A: Os ymrwymir i gontract aelodaeth ar 10 Ebrill, byddai taliad pro-rata am y cyfnod 10 Ebrill i 30 Ebrill yn daladwy. Byddai’r taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf yn cael ei gymryd ar 1 Mai ac yn berthnasol i fis Mai.

Enghraifft B: Os ymrwymir i gontract aelodaeth ar 16 Ebrill, byddai taliad pro-rata am y cyfnod 16 Ebrill i 31 Mai yn daladwy oherwydd byddai’r dyddiad cau ar gyfer prosesu wedi’i fethu. Byddai’r taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf yn cael ei gymryd ar 1 Mehefin ac yn berthnasol i fis Mehefin.

Tystiolaeth o statws

Mae angen tystiolaeth o statws fel sy’n dilyn:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (llythyr diweddar gan y corff dyfarnu)
  • Budd-dal Prawf Modd (llythyr diweddar gan y corff dyfarnu)
  • Pensiynwyr 60+ (dull adnabod gyda ffotograff)
  • Myfyriwr (cerdyn Undeb Myfyrwyr)

Cerdyn aelodaeth

  • Rhoddir cerdyn aelodaeth i bob aelod ac mae’n rhaid ei gyflwyno a’i sweipio wrth ddefnyddio’r ganolfan.
  • Dim ond deiliad yr aelodaeth sydd â chaniatâd I ddefnyddio’r cerdyn.
  • Tynnir ffotograff o’r aelod ar gyfer dibenion adnabod.
  • Codir ffi am gerdyn Newydd yn lle un sydd wedi’i golli, ei ladrata neu ei ddifrodi

Prisiau Talu a Chwarae     

Badminton

Prisiau am 55 munud.

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - £12
  • Efydd (Oedolyn) - £12
  • Efydd (Gostyngiad) - £9

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £13.50
  • Gostyngiad - £10

Sboncen

Prisiau am 40 munud.

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian – £10
  • Efydd (Oedolyn) - £10
  • Efydd (Gostyngiad) - £7.50

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £13
  • Gostyngiad - £9.80

Tennis

Prisiau am 55 munud.

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - £8.65
  • Efydd (Oedolyn) - £8.65
  • Efydd (Gostyngiad) - £6.50

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £11
  • Gostyngiad - £8

Tennis Bwrdd

Prisiau am 55 munud.

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - £6
  • Efydd (Oedolyn) - £6
  • Efydd (Gostyngiad) - £4.50

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £7
  • Gostyngiad - £5.30

Sesiynau Tennis Bwrdd Hŷn

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - £3
  • Efydd (Oedolyn) - £3

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £4.40

Campfa Cardio / Pwysau 

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Efydd (Oedolyn) - £6
  • Efydd (Gostyngiad) - £4.50

Dosbarthiadau Ffitrwydd 

Dosbarthiadau 45 munud 

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Efydd (Oedolyn) - £6.20

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £6.20

Defnydd o gyfleusterau newid 

Aelodau:

  • Aur – Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Arian - Wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth
  • Efydd (Oedolyn) - £1.20
  • Efydd (Gostyngiad) - £1

Unigolion sydd ddim yn aelodau: 

  • Oedolyn - £1.85
  • Gostyngiad - £1.40

Offer

I logi:

  • Raced Badminton - £1.20
  • Raced Sboncen - £1.20
  • Raced Tennis - £1.80
  • Bat Tennis Bwrdd - £1.00

I brynu:

  • Sialc - £1.80
  • Gwennol - £1.45
  • Pêl Sboncen - £2.90
  • Pêl Tennis Bwrdd - £0.50