Mae cynlluniau ailgylchu cit ac offer chwaraeon yn dod yn boblogaidd iawn ledled y DU wrth i sefydliadau chwilio am ffyrdd i helpu eu cymunedau i ddal ati i fod yn actif yn ystod yr argyfwng costau byw, a hefyd gwneud eu rhan i leihau gwastraff.
Un cynllun o’r fath yw’r ‘Ystafell Cit Gymunedol’ a lansiwyd ym Mlaenau Gwent fis Chwefror diwethaf. O esgidiau pêl droed i siorts, gwisgoedd nofio a leotards gymnasteg, mae'r Ystafell Cit Gymunedol wedi ailddosbarthu 307 o eitemau o esgidiau neu ddillad i 127 o bobl o bob oed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Arweiniodd effaith gadarnhaol y cynllun ato’n ennill gwobr ‘Iechyd a Lles y Meddwl’ Street Games hyd yn oed.
I helpu partneriaid sy’n ystyried sefydlu rhywbeth tebyg efallai, buom yn siarad â Cameron Herring, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, i ddarganfod sut aeth ati i greu’r Ystafell Cit Gymunedol a’r hyn mae wedi’i ddysgu hyd yn hyn…
Diwallu angen lleol
Fe ddaeth y syniad gwreiddiol gen i a fy nghydweithiwr Adam, sy’n gweithio fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol yr Ymddiriedolaeth. Fe fuon ni’n siarad i ddechrau am sefydlu 'Banc Esgidiau' tebyg i brosiect sy'n cael ei weithredu yn Abertawe ar hyn o bryd. Ar ôl cyfarfodydd cychwynnol, roedden ni’n credu mai'r syniad 'Ystafell Cit' fyddai'r opsiwn gorau oherwydd byddai'n ein helpu ni i gefnogi mwy o unigolion ym Mlaenau Gwent, nid dim ond y rhai oedd yn chwarae pêl droed a rygbi.
Sefydlu'r cynllun
Unwaith roedd y syniad wedi cael ei gymeradwyo, roedd rhaid i ni benderfynu ble i leoli’r Ystafell Cit Gymunedol a faint o arian y gellid ei roi tuag at y prosiect. Fe wnaethon ni ddewis hen storfa yng Nghanolfan Chwaraeon Abertileri a drawsnewidiwyd gennym ni a defnyddiwyd cyllid Ymgysylltu â Theuluoedd StreetGames Cymru i brynu silffoedd a rheiliau dillad ar gyfer yr ystafell, fel ein bod ni’n gallu hongian a chyflwyno’r eitemau rydyn ni’n eu cynnig.
Yn unol â’r thema chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fe wnaethon ni gysylltu â busnesau lleol a fu’n ddigon caredig i ddarparu toriadau o laswellt 3G i ni, sydd wedi’u gludo ar yr unedau silffoedd. Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio lloriau pren wedi'u hailgylchu yn lle'r hen garped oedd yn y storfa.
Cael y gair ar led!
Mae ein cysylltiadau agos ni gydag ysgolion, clybiau a sefydliadau lleol ar draws Blaenau Gwent wedi bod yn hynod bwysig. Mae gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd angen y gefnogaeth yn ymwybodol o’r Ystafell Cit Gymunedol wedi bod yn flaenoriaeth i ni o’r dechrau un. Mae creu cysylltiadau ag athrawon, Arweinwyr Diogelu, swyddogion Teuluoedd yn Gyntaf a ffrydiau cymorth eraill wedi bod yn hynod fuddiol.
Wrth i’r prosiect dyfu, rydyn ni hefyd wedi creu perthnasoedd newydd gydag unigolion sy’n gweithio ac yn cysylltu â’r cymunedau sy’n elwa o’r gwasanaeth.
Er ei fod wedi bod yn llwyddiant, fe all yr amser sy’n cael ei dreulio’n cysylltu ag ysgolion, clybiau, sefydliadau ac unigolion allweddol fod yn eithaf costus o ran oriau. Mae'r prosiect yn dibynnu'n fawr ar y bobl yma’n rhannu negeseuon allweddol y prosiect ac, yn aml, mae angen mynd ar ôl pobl ac ailanfon e-byst i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo'n gywir.