Main Content CTA Title

Atebolrwydd - trafod yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Ein dull ni o fuddsoddi
  4. Atebolrwydd - trafod yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd

Mae ein dull ni o weithredu gydag atebolrwydd yn cefnogi partneriaid i roi cyfrif gonest o'u gweithredoedd a sut mae'r rhain yn cyfrannu at strategaeth Chwaraeon Cymru. Mae'n caniatáu i bartneriaid flaenoriaethu casglu gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w helpu i ddysgu a gwella.

Mae ein dull ni’n ceisio annog gonestrwydd, dysgu a diwylliant lle mae yr un mor bwysig ac yn teimlo yr un mor gyfforddus i siarad am yr hyn sydd wedi mynd o'i le â'r hyn sydd wedi mynd yn dda.

Mae ymrwymiad i'r dull atebolrwydd yn ofyniad ar gyfer derbyn cyllid cyhoeddus ac mae'n ffurfio rhan 'werthfawr' o'r swm 'hyd at' y gall partner ei dderbyn.

Ei bwrpas yw:

  • cefnogi partneriaid i adlewyrchu ar eu gweithgareddau ac i ddysgu a gwella
  • disgrifio sut mae cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio
  • rhannu dysgu ac arfer ar draws y sector

Mae'n ofynnol i bob partner a gyllidir ystyried ei atebolrwydd bob chwarter, gyda chefnogaeth ei Reolwr Perthnasoedd. Mae arfer da a themâu sector yn cael eu nodi o'r gwaith hwn a'u hadrodd yn ôl i Fwrdd Chwaraeon Cymru a'r sector, fel sail i gynllunio yn y dyfodol.

Mae'r dull hwn o weithredu’n ein cefnogi ni i gyd i ddysgu a datblygu gyda'n gilydd fel sector.