35. Cydraddoldeb
Adolygiad diwethaf: Medi 2025
Adolygiad nesaf: Medi 2028
Rydym eisiau i'n staff ragori gan roi sylw dyledus i'w hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), cyfeiriadedd rhywiol, dewis o ran yr iaith Gymraeg a statws economaidd-gymdeithasol, ac felly rydym yn mynd ati i ddatblygu amgylchedd gwaith amrywiol a chynhwysol lle caniateir i staff fod yn nhw eu hunain, lle cydnabyddir eu gwahaniaethau a lle gwerthfawrogir eu cyfraniadau.
Mae'r polisi hwn yn nodi ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo, amrywiaeth yn cael ei pharchu, a phawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
Cydraddoldeb: Lle mae gan bob person hawliau cyfartal a lle mae gan bob person gyfle teg. Mae'n ddull o weithredu sy’n cydnabod bod gan wahanol bobl wahanol fannau cychwyn.
Tegwch: Yn cydnabod bod tegwch weithiau'n gofyn am wahanol ddulliau neu gefnogaeth i sicrhau canlyniadau cyfartal i bawb.
Amrywiaeth: Mae amrywiaeth yn golygu gwahanol. Rydym i gyd yn wahanol felly mae amrywiaeth yn ein cynnwys ni i gyd. Mae'r cysyniad o amrywiaeth yn cwmpasu derbyn a pharch. Mae'n golygu deall bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol.
Cynhwysiant: Lle mae pob person yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u bod yn ffitio i mewn ac yn cael eu cynnwys.
Dim ond pan fyddwn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth (amrywiaeth), yn mabwysiadu tegwch, ac yn cydweithio i greu cynhwysiant y bydd cyfleoedd i bawb (cydraddoldeb) yn bodoli mewn gwirionedd.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff, heb ystyried y math o gontract, ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, hyfforddi, dyrchafu ac amodau gwaith.
35.1. Ymrwymiadau
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chadw at arferion sy'n rhydd o unrhyw wahaniaethu.
Bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi unrhyw gyflogai sy'n destun gwahaniaethu, naill ai'n fewnol neu gan drydydd parti. Nid yw Chwaraeon Cymru, o dan unrhyw amgylchiadau, yn goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu, erlid na gwahaniaethu, gan ei gyflogeion nac yn eu herbyn.
Rydym yn ymdrechu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn chwaraeon a'n harferion gwaith ac rydym eisiau sicrhau bod y rhai sydd â'r dyhead i wneud cynnydd yn cael y cyfle i wneud hynny. Rydym eisiau gweld y cwsmer, gan gynnwys ein cyflogeion, wrth galon ein cynlluniau a'n penderfyniadau. Ond yn fwy na dim rydym eisiau i bawb deimlo eu bod yn cael eu derbyn a gallu bod yn nhw eu hunain.
Ailgynlluniwyd a diweddarwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill 2024. Rydym bellach yn symud ymlaen tuag at gwblhau'r amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun wedi'i ddiweddaru. Nod y Cynllun yw sbarduno newid diwylliannol sy'n ymgorffori cydraddoldeb yng ngwead Chwaraeon Cymru ac, yn y pen draw, mewn chwaraeon ledled Cymru.
Dyma ddolen i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS).
35.2. Cyfrifoldebau
Mae'r Bwrdd (y pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn benodol) yn atebol am gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Maent yn gyfrifol am gytuno ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru ac ymgymryd â rôl graffu mewn perthynas â hyn.
Y Tîm Arweinyddiaeth yw'r arweinydd strategol ar gyfer cydraddoldeb, gan bennu ac arwain amcanion cydraddoldeb, gan ymgorffori'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, a hyrwyddo cydraddoldeb ledled y sefydliad.
Bydd y Tîm Adnoddau Dynol a'r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cefnogi gweithredu a monitro'r polisi hwn ac yn cynnig arweiniad a hyfforddiant lle bo angen.
Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i ymddwyn mewn ffordd sy'n cefnogi cynhwysiant. Dylem fod yn ymwybodol bob amser o effaith yr hyn a ddywedwn neu a wnawn ar eraill, a pheidio â gwahaniaethu, aflonyddu na bwlio, na goddef gwahaniaethu, aflonyddu na bwlio gan eraill.
Bydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael yn ôl yr angen, e.e. o fewn y Cyfnod Sefydlu, i sicrhau bod staff yn ymwybodol o gymhwyso cydraddoldeb ac amrywiaeth yn Chwaraeon Cymru a'u cyfrifoldebau o fewn hyn. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau perthnasol i'r gyfraith neu'r polisi, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar hawliau trawsryweddol, mannau un rhyw, a'r gwahaniaeth rhwng gwarchodaeth rhyw ac ailbennu rhywedd.
35.3. Gofynion Cyfreithiol
Mae'n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, beidio â gwahaniaethu yn erbyn ein cyflogeion a chydnabod ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, a chydymffurfio â hwy.
O dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:
- Gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn unrhyw un a’i drin yn llai ffafriol nag eraill ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
- Gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn unrhyw un drwy gymhwyso maen prawf, darpariaeth neu arfer sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais ar sail: eu hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, oni bai fod y person sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth yn gallu ei chyfiawnhau fel modd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon.
- Aflonyddu ar rywun am resymau sy'n ymwneud ag oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy’n tramgwyddo unigolyn ar y sail hon hyd yn oed os nad yw'r ymddygiad wedi'i gyfeirio at yr unigolyn. Mae hefyd yn cynnwys methiant cyflogwr i gymryd camau rhesymol i warchod cyflogai rhag aflonyddu parhaus (3 achlysur neu fwy) gan drydydd parti.
- Erlid rhywun oherwydd ei fod wedi gwneud, neu'n bwriadu gwneud, cwyn neu honiad neu wedi rhoi neu'n bwriadu rhoi tystiolaeth mewn perthynas â chwyn am wahaniaethu yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried sut i gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a chysylltiadau da yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf yr Iaith Gymraeg a safonau i sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ogystal, o dan y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ystyried sut gall ein penderfyniadau strategol helpu i leihau anghydraddoldebau canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Nodyn: Yn unol â dyfarniad Goruchaf Lys y DU ym mis Ebrill 2025, rydym yn cydnabod bod y nodwedd warchodedig “rhyw” yn cyfeirio at ryw biolegol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i warchod a chefnogi unigolion yn llawn o dan y nodwedd “ailbennu rhywedd” fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amgylchedd cynhwysol i’r holl staff, waeth beth fo’u hunaniaeth o ran rhywedd.
35.4. Y nodweddion gwarchodedig a'n hymrwymiadau
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at naw Nodwedd Warchodedig. Rydym hefyd yn cydnabod y Gymraeg fel rhan allweddol o hunaniaeth a chynhwysiant yng Nghymru a'n cyfrifoldeb i leihau anfantais economaidd-gymdeithasol, fel y nodir isod:
Oedran
- sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu trin â pharch ac urddas
- sicrhau bod pobl o bob oed yn cael mynediad cyfartal i’n cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, datblygiad a dyrchafiad
- herio rhagdybiaethau gwahaniaethol am bobl iau a phobl hŷn
Anabledd
- darparu unrhyw addasiadau rhesymol i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad at ein gwasanaethau a’n cyfleoedd cyflogaeth
- herio rhagdybiaethau gwahaniaethol am bobl anabl
- ceisio parhau i wella mynediad at wybodaeth drwy sirchau bod hygyrchedd yn cael ei gynnal
Rhyw (Biolegol)
- Hyrwyddo cydraddoldeb i ferched a dynion ar draws cyflogaeth, cyflog a gwasanaethau.
- Rhoi polisïau un rhyw ar waith yn unol â gofynion cyfreithiol a gyda sensitifrwydd i anghenion yr holl staff.
- Herio gwahaniaethu a stereoteipiau ar sail rhyw.
- Cynnig mynediad cyfartal i ferched a dynion i gynrychiolaeth, gwasanaethau, cyflogaeth, hyfforddiant a chyflog ac annog ein partneriaid, cyrff rheoli cenedlaethol a chyflenwyr i wneud yr un peth.
Ailbennu Rhywedd
- Darparu cefnogaeth i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol sydd wedi neu sydd ar fin ailbennu eu rhywedd.
- Sicrhau bod ein gweithle ni’n gynhwysol heb gynnwys unrhyw drawsffobia.
- Egluro’r defnydd o eithriadau un rhyw, gan sicrhau triniaeth gyfreithlon a theg o dan y canllawiau cyfredol.
Beichiogrwydd a Mamolaeth
- Sicrhau bod pobl yn cael eu trin â pharch ac urddas a bod delwedd gadarnhaol yn cael ei hyrwyddo heb ystyried beichiogrwydd neu famolaeth
- Herio rhagdybiaethau gwahaniaethol ynghylch beichiogrwydd neu famolaeth ein cyflogeion
- Sicrhau nad oes unrhyw unigolyn dan anfantais a’n bod yn ystyried anghenion beichiogrwydd neu famolaeth ein cyflogeion
Hil / Ethnigrwydd
- Herio hiliaeth lle bynnag y mae’n digwydd
- Ymateb yn gyflym ac yn sensitif i ddigwyddiadau hiliol
- Mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb hil
Crefydd, Cred a Diwylliant
- Sicrhau bod crefydd neu gredoau cyflogeion a defodau cysylltiedig yn cael eu parchu a’u darparu lle bynnag y bo modd
- Hyrwyddo parch at ein gilydd gan sicrhau nad yw credoau’n amharu ar hawliau pobl eraill.
Cyfeiriadedd Rhywiol
- Sicrhau ein bod yn ystyried anghenion lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol
- Hyrwyddo delweddau cadarnhaol o lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol
Priodas a Phartneriaethau Sifil
- Sirchau bod pobl yn cael eu trin â pharch ac urddas a bod delwedd gadarnhaol yn cael ei hyrwyddo heb ystyried priodas neu bartneriaeth sifil;
- Herio rhagdybiaethau gwahaniaethol ynghylch priodas neu bartneriaeth sifil ein cyflogeion;
- Sicrhau nad oes unrhyw unigolyn dan anfantais a’n bod yn ystyried anghenion priodas neu bartneriaeth sifil ein cyflogeion.
Yr Iaith Gymraeg
- Sicrhau bod pobl yn cael eu trin â pharch ac urddas a bod delwedd gadarnhaol yn cael ei hyrwyddo waeth beth fo’u dewis iaith
- Herio rhagdybiaethau gwahaniaethol am siaradwyr Cymraeg
- Sicrhau nad oes unrhyw unigolyn dan anfantais a’n bod yn ystyried anghenion ein siaradwyr Cymraeg
Anfantais Economaidd-gymdeithasol
- Ymgorffori’r Ddylestwydd mewn gwneud penderfyniadau strategol
- Dangos sylw dyledus yn y broses gwneud penderfyiadau, nid dim ond cydymffurfiaeth weithdrefnol
- Deall a rhoi sylw i anghydraddoldebau canlyniad
- Ymgysylltu â chymunedau sy’n cael eu heffeithio
35.5. Cwynion
Disgwylir i bob aelod o staff fod wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant gwaith a gweithredol cynhwysol ac i godi pryderon ynghylch ymddygiad digroeso neu amhriodol yn y gweithle.
Gellir codi pryderon, a gellir gwneud cwynion, os ydych chi'n cael eich effeithio'n bersonol gan y gweithredoedd digroeso neu fel trydydd parti sy'n dyst i fwlio, aflonyddu, erlid a gwahaniaethu.
Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am sut i wneud cwyn yn y Polisi Cwynion.
35.6. Monitro
Cynhyrchir ein hadroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb yn flynyddol ac mae'n cynnwys ein data amrywiaeth a gwybodaeth monitro. Os canfyddir bod tueddiadau a phatrymau'n dod i'r amlwg, byddwn yn dadansoddi'r rhain ac yn defnyddio'r data i ddangos tystiolaeth o'n gwaith yn y dyfodol i greu sefydliad cynhwysol, cyfartal ac amrywiol yn Chwaraeon Cymru. Caiff effeithiolrwydd y polisi hwn ei fonitro ymhellach drwy arolygon staff sy'n canolbwyntio ar ymddygiadau profiadol.