Skip to main content
  1. Hafan
  2. Polisïau a Llywodraethu
  3. Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw ein bod yn “genedl actif lle gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon”. Lluniwyd y Weledigaeth yn dilyn sgyrsiau gydag unigolion o bob rhan o Gymru. Mae’n perthyn i bawb yng Nghymru ac angen cefnogaeth gan bawb – gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd.

Mae'r Weledigaeth yn sail i'n strategaeth ni, Strategaeth Chwaraeon Cymru. Rydym eisiau datgloi manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru ac rydym wedi siapio ein gwaith ar sail chwe datganiad o fwriad strategol. Mae’r datganiadau hyn hefyd yn gweithredu fel ein Hamcanion Lles ac yn dangos beth gallwch ddisgwyl ei weld o’r gwaith rydym yn ei gyflawni a’r gwaith rydym yn rhan ohono.

Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Strategaeth Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar greu system sy’n defnyddio pŵer chwaraeon i ddarparu system chwaraeon gynhwysol. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn canolbwyntio i ddechrau ar y camau y gall Chwaraeon Cymru eu cymryd o fewn ein sefydliad ein hunain. Fodd bynnag, ein huchelgais yw manteisio i’r eithaf ar yr ysgogiadau sydd ar gael i ni i gefnogi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o fewn y sector. Yn benodol, mae rhai o’n camau gweithredu ar gyfer y sector yn canolbwyntio ar y ffordd orau o ddefnyddio buddsoddiad a chyllid i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Fel sefydliad sy'n dysgu, rydym wedi ymrwymo i adolygu cydbwysedd ac effeithiolrwydd y camau gweithredu hyn drwy gydol oes y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Rhagair y Prif Swyddog Gweithredol

Ers cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn 2020, mae pob un ohonom wedi profi cyfnod cythryblus a newid sylweddol o ganlyniad i bandemig Covid-19. Bu cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, ein canolfan ni ein hunain, ar gau am gyfnodau sylweddol, gan leihau’r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae data arolygon yn dangos, o ganlyniad, bod anghydraddoldebau wedi ehangu o ran cyfranogiad ymhlith dynion a merched a rhwng y rhai sy'n gefnog a'r rhai nad ydynt yn gefnog. Mae pwysau parhaus costau byw yn gwneud yr anghydraddoldebau’n waeth, gan fygwth lleihau cyfranogiad ymhellach ar sail fforddiadwyedd.

Fodd bynnag, er bod yr amgylchedd macro yn cyflwyno heriau, rhaid i ni hefyd weld y cyfleoedd. Mae gan chwaraeon a gweithgarwch corfforol ran allweddol i'w chwarae wrth wella iechyd a lles corfforol a meddyliol y genedl. Rydym eisiau gwireddu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru – cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Gall chwaraeon fynd y tu hwnt i ffiniau, uno cymunedau, a grymuso unigolion i ragori ar eu potensial. Rhaid i ni barhau i fod yn benderfynol wrth ddefnyddio pŵer chwaraeon i ddarparu system chwaraeon gynhwysol, sy’n cael ei harwain gan angen a darparu profiad gwych i bawb.

Rhaid i ni hefyd gydnabod bod mwy i'w wneud o fewn ein sefydliad ein hunain. Rydym eisiau datblygu a meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi am eu doniau unigol a’r wybodaeth maent yn ei chyfrannu drwy eu profiad bywyd eu hunain.

Nid dogfen yn unig yw’r cynllun hwn; mae'n ymgorffori ein hymroddiad ar y cyd i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau. Mae’n adlewyrchu lleisiau ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan fynegi ein gweledigaeth ar y cyd ac adlewyrchu’r siwrnai rydym arni tuag at system chwaraeon fwy cynhwysol.

Amrywiaeth yw ein cryfder, a chynhwysiant yw ein conglfaen. Drwy feithrin amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn ein harferion, rydym yn paratoi’r ffordd ar gyfer tirlun chwaraeon bywiocach, gwytnach a chyfoethocach. 

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi cyfrannu at lunio’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn. Mae eich gwybodaeth, eich safbwyntiau a’ch ymrwymiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio map ffordd ar gyfer y siwrnai sydd wir yn adlewyrchu ethos o gydraddoldeb a thegwch.

Brian Davies

Prif Swyddog Gweithredol

Chwaraeon Cymru

Cydnabyddiaeth  

Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau amhrisiadwy ein cyfeillion beirniadol. Mae eich adborth craff, eich cwestiynau heriol, a’ch cefnogaeth ddiwyro wedi ein helpu ni i lunio map ffordd mwy uchelgeisiol a chynhwysfawr ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant yn Chwaraeon Cymru.  

Estynnwn ein diolch hefyd i bawb yn Chwaraeon Cymru sydd wedi rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i’r ymdrech hollbwysig hon.