Skip to main content

Cynnydd gyda’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024) a dysgu ar gyfer y dyfodol

  1. Hafan
  2. Polisïau a Llywodraethu
  3. Cynllun Cydraddoldeb Strategol
  4. Cynnydd gyda’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024) a dysgu ar gyfer y dyfodol

Lansiwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024) yn ystod cyfnod o ffocws cymdeithasol uwch a disgwyliadau cynyddol yn ymwneud â phob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Amlygodd y ddadl, y ddeialog a’r sgwrs a ddilynodd bod gwaith blaenorol wedi methu â newid y tirlun yn ddigonol na symud o ymrwymo i gyflawni newid i gyflawni newid mewn gwirionedd.

Ein hymrwymiad ni dros gyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd gwrando, dysgu a chynnwys y rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr anghydraddoldebau hyn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir i sicrhau newid ystyrlon, tymor hir.

Fel sail i’n pedwerydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-2028, rydym wedi manteisio ar y cyfle i adlewyrchu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud a’r meysydd ffocws pellach.

Sefydlu Sylfeini

Rydym yn gwybod bod llywodraethu da yn sbarduno ac yn dylanwadu ar gynnydd. Mae'n hwyluso craffu effeithiol ar ddiwylliant sefydliadol yn ogystal â chydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol. Yn ystod cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn, sefydlwyd ein Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel is-grŵp ffurfiol o'r Bwrdd. Roedd hyn yn cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein holl weithgareddau. Mae'r Pwyllgor wedi chwarae rhan allweddol wrth fonitro a herio cynnydd yn erbyn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi buddsoddi mewn rôl Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i ychwanegu arbenigedd a gwybodaeth at ein gwaith. Yr hyn rydym yn ei ddysgu o hyn yw ei bod wedi bod yn fuddiol cael arbenigedd pwnc mewnol wrth law i gefnogi datblygu adnoddau a darparu cyngor ac arweiniad ad hoc i staff. Mae hyn wedi ein cefnogi ni i symud oddi wrth gomisiynu cynghorwyr allanol yn gyson ar gyfer darnau o waith tymor byr ac ymgorffori newid mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Ymgysylltu â staff a chymunedau

Fel rhan o’n hymrwymiad i wrando a dysgu, cynhaliodd Chwaraeon Cymru arolwg staff yn 2021. Yr amcan oedd deall ein hamgylchedd gwaith yn well a nodi meysydd ar gyfer newid. Nododd canfyddiadau’r arolwg hwn bod angen i ni wneud mwy i wneud Chwaraeon Cymru yn lle deniadol i bobl o gefndiroedd amrywiol. Amlygodd yr arolwg hefyd nad oedd y rhan fwyaf o staff yn teimlo’n gyfforddus yn rhoi gwybod am wahaniaethu. Mewn ymateb i ganfyddiadau’r arolwg, sefydlodd Chwaraeon Cymru Grŵp Ymgysylltu â Staff i ddatblygu a gweithredu camau gwella.

Cynhaliwyd arolwg staff dilynol yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mis Rhagfyr 2023 i helpu gyda’n dealltwriaeth o gynnydd ac fel sail i ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Amlygodd yr arolwg hwn gynnydd sylweddol o ran sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn lle cynhwysol i weithio ynddo. Nododd hefyd bod y staff yn llawer mwy tebygol o roi gwybod am weithredoedd o wahaniaethu ac yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i herio cydweithwyr eraill neu gontractwyr pe bai sylwadau neu ymddygiad amhriodol yn digwydd. Nododd yr arolwg bod angen gwneud mwy o waith i fabwysiadu agwedd gynhwysol at ddigwyddiadau cymdeithasol staff, i wella amrywiaeth mewn swyddi arweiniol, i ymateb i anghenion staff, fel darparu ystafell ffydd, ac i greu amgylchedd cefnogol a diogel lle gall pobl ddysgu.

Yn 2022, cynhaliwyd Arolwg Chwaraeon Ysgol gennym, un o arolygon mwyaf y byd o bobl ifanc, gan roi gwybodaeth gyfoethog i ni am lefelau cyfranogiad, ymddygiadau ac agweddau. Sicrhaodd amseriad yr arolwg hefyd ein bod yn cael gwybodaeth am effaith pandemig Covid-19 ar arferion gweithgarwch pobl ifanc. Cymerodd mwy na 116,000 o ddisgyblion ran yn yr arolwg a amlygodd wahaniaethau mewn cyfranogiad ar draws ystod o nodweddion gwarchodedig, daearyddiaeth a demograffeg. Mae'r data o'r arolwg hwn wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ddyrannu ein hadnoddau.

Rydym wedi gweithio gyda’r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau nad oeddent yn ymgysylltu’n rheolaidd â Chwaraeon Cymru nac yn gwneud cais am gyllid. Nododd yr ymgysylltu hwn gyfres o welliannau i gefnogi sefydliadau i wneud cais am gyllid, meithrin perthnasoedd ag ymgeiswyr, a symleiddio a chyflymu prosesau ymgeisio. Derbyniwyd a gweithredwyd yr argymhellion hyn yn raddol ochr yn ochr â system rheoli grantiau newydd.

Cynyddu Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu

Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn ymgorffori amcan i amrywio ein gweithlu. Rydym wedi addasu rhai o’n harferion recriwtio i ddenu ceisiadau gan ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr. Mae’r ystod o wahanol arferion a fabwysiadwyd yn cynnwys sefydlu cynllun prentisiaeth digidol, hysbysebu swyddi’n ehangach, gan gynnwys drwy rwydweithiau amrywiaeth, gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol a chynnal sesiynau galw heibio anffurfiol ar-lein i gynorthwyo gyda dealltwriaeth o swyddi.

Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran creu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu. Yn benodol, nododd ein data gweithlu a adroddwyd ar 31 Mawrth 2023 bod cyfran y gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ac LGBTQ+ yn uwch na chyfartaledd y boblogaeth genedlaethol. Rydym yn gwybod, fodd bynnag, bod mwy i’w wneud i wella amrywiaeth ar lefel arweinyddiaeth o fewn Chwaraeon Cymru ac i sicrhau bod pobl ag anabledd yn cael eu cynrychioli’n well yn ein gweithlu.

Mae gennym lygad hefyd ar weithlu’r dyfodol. Rydym wedi gweithio gydag ysgolion lleol i siarad â disgyblion am yrfaoedd mewn chwaraeon ac wedi cynnal dyddiau agored peilot yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Mae disgyblion wedi cael y cyfle i brofi sesiynau cryfder a chyflyru, cynigion maeth a swyddi gweithredol. Mae ein gwaith gydag ysgolion wedi canolbwyntio’n arbennig ar bobl mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac mae hefyd wedi cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru. Ein nod ni yw creu llif o dalent, gan ysbrydoli pobl ifanc i archwilio cyfleoedd gyrfaol yn y byd chwaraeon.

Un elfen allweddol o greu amrywiaeth yn ein gweithlu yw sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn darparu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo ymdeimlad o berthyn. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi canolbwyntio ar wella gwybodaeth a sgiliau ein staff drwy fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant misol gyda chynnwys amrywiol, gan gynnwys sesiynau a hwylusir gan siaradwyr allanol fel Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae'r sesiynau hefyd wedi cynnwys cefnogi staff gydag adnoddau yn amlinellu sut i herio ac ymateb i wahaniaethu a sut i ddefnyddio iaith gynhwysol. Nododd ein harolwg staff yn 2023 bod 97% o’r staff yn teimlo bod rhai neu lawer o gyfleoedd wedi bod i ddysgu a thrafod mwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

Rydym wedi sefydlu caffi misol ‘Adlewyrchu a Chysylltu’ lle mae staff yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth a sgwrs ar faterion cyfiawnder cymdeithasol perthnasol. Mae hyn wedi helpu i feithrin diwylliant o ddeialog agored, dadl, empathi a dealltwriaeth.

Sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn adlewyrchu anghenion (unigol) 

Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cynnwys ymrwymiad i roi model buddsoddi newydd ar waith a oedd yn gosod cyllid ochr yn ochr â’n grwpiau blaenoriaeth, yn enwedig pobl o leiafrifoedd ethnig, merched a genethod, amddifadedd economaidd-gymdeithasol a phobl ag anabledd. Mae’r model hwn yn seiliedig ar yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, sy'n rhoi gwybodaeth am anghenion pobl ifanc. Rydym yn gwybod na fydd effaith y model newydd hwn i’w theimlo yn y tymor byr uniongyrchol ond rydym wedi ymrwymo i adolygu hyn drwy gydol cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i sicrhau bod y model yn addas i’r diben ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae cyllid yn eu darparu.

Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi ceisio blaenoriaethu rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, lansiwyd rhaglen Crowdfunder i alluogi clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud cais am gyllid ar gyfer gwelliannau ‘oddi ar y cae’. Mae Chwaraeon Cymru yn addo cyfateb unrhyw arian mae’r gymuned yn ei godi gyda chyfran uwch o gyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi demograffeg sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon, a mwy o gyllid eto ar gyfer ardaloedd sydd â’r lefelau amddifadedd uchaf. Mae'r dull hwn o weithredu wedi sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio at brosiectau sydd â chefnogaeth leol sylweddol, gan adlewyrchu anghenion y gymuned honno.

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Yn ystod cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, rydym wedi meithrin perthnasoedd ac wedi cyllido partneriaethau newydd fel y Bartneriaeth Awyr Agored a'r Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon. Mae'r perthnasoedd hyn wedi rhoi gwybodaeth newydd ac wedi cefnogi ein nod o fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn o weithredu, gan ymestyn ein cyrhaeddiad a'n heffaith.

Ymgorffori cydraddoldeb mewn caffael a chomisiynu

Mae Chwaraeon Cymru wedi’i sefydlu’n gadarn fel cyflogwr chwarae teg, gan dalu’r Cyflog Byw Real i’w holl staff a mynnu bod ein contractwyr yn gwneud yr un fath, gan sicrhau cyflog teg i bawb.

Yn ystod y cyfnod, ymgymerwyd ag ymarfer tendro cystadleuol i benodi partner a gomisiynwyd i weithredu Plas Menai. Roedd y caffael yn cynnwys y darpariaethau a oedd yn dod i'r amlwg yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym. Roedd y caffael yn cynnwys ffocws ar amcanion cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, cynyddu cyfranogiad a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.

Mae ein templedi caffael yn cefnogi ein staff i gynnwys disgwyliadau cydraddoldeb yn ein prosesau caffael, gan ysgogi cwestiynau ynghylch y camau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith gan y cynigwyr, Polisïau Cydraddoldeb, bylchau cyflog yr adroddwyd amdanynt ac ati. Mae mwy y gallwn ei wneud i ymgorffori’r dull hwn o weithredu yn ein prosesau caffael ac adlewyrchir hyn yn ein hamcanion ar gyfer y cyfnod 2024-2028.