Skip to main content

Amcanau

Amcan 1: Ymgorffori gwerthoedd cydraddoldeb yn niwylliant sefydliadol Chwaraeon Cymru

Mae diwylliant cadarn o gydraddoldeb yn sicrhau triniaeth deg i’r holl staff, yn meithrin ymdeimlad o berthyn, ac yn denu a chadw talent amrywiol. Mae’n cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gymdeithas deg a chynhwysol ac â’r nod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru fwy cyfartal.

Camau Gweithredu:                                                                                                                                

Tymor byr (6 mis i 18 mis):

  • Meithrin amgylchedd croesawgar, diogel a chynhwysol o fewn ein sefydliad, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo rhyngweithio parchus.
  • Sicrhau bod ein hadeiladau yn gwbl hygyrch ac yn diwallu anghenion ein pobl fel maent yn newid, ac anghenion y rhai sy'n defnyddio ein cyfleusterau, gan roi ystyriaeth briodol i'r Model Cymdeithasol o anabledd.
  • Parhau i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu cynhwysfawr ar gyfer ein staff i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o werthoedd cydraddoldeb.
  • Sicrhau bod ein deunyddiau hyfforddi, ein sianeli cyfathrebu, a’n digwyddiadau yn hygyrch i bob unigolyn.
  • Darparu profiadau gyrfa ar y safle i blant mewn ysgolion o statws economaidd-gymdeithasol is.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o geisiadau amrywiol ar gyfer aelodau newydd o'n Bwrdd.
  • Cynnal hunanasesiad gan ddefnyddio'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant a nodi bylchau a chyfleoedd i gyflymu cynnydd.
  • Cynnal adolygiad beirniadol o'n dull Asesu Effaith i sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag unrhyw arferion newydd ac arloesol.
  • Parhau i greu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, gan greu cyfleoedd cadarnhaol i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a dangynrychiolir.
  • Darparu cefnogaeth a dealltwriaeth i bobl drwy gydol y cylch iechyd y mislif.

Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):

  • Parhau i greu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, gan greu cyfleoedd cadarnhaol i bobl sydd â nodweddion a dangynrychiolir.
  • Datblygu rhaglen adnabod ymddygiadau i ddathlu ac ymgorffori ein gwerthoedd ymhellach.
  • Sefydlu rhaglenni mentora cymheiriaid ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu.

Pwrpas: 

  • Cydnabod er ein bod wedi gwneud cynnydd o ran creu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, bod angen i ni wneud mwy.
  • Yr angen am feithrin ymdeimlad o berthyn o fewn Chwaraeon Cymru lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi am eu doniau a'u gwybodaeth drwy brofiad byw.

Dolen i’n Bwriad Strategol

  • Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon

Monitro Cynnydd

  • Data amrywiaeth y gweithlu a recriwtio (Nod: cynyddu amrywiaeth y gweithlu ac ymgeiswyr i Chwaraeon Cymru)
  • Hyfforddiant (Nod: datblygu casgliad cynhwysfawr o gynnwys hyfforddiant hygyrch a sicrhau’r cyfraddau cwblhau gorau posibl ar gyfer unrhyw hyfforddiant gorfodol)
  • Rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu neu ragfarn (Nod: lleihau / dileu gweithredoedd o wahaniaethu a hefyd meithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo eu bod yn gallu herio a / neu roi gwybod am ddigwyddiadau pan fyddant yn dyst iddynt)
  • Archwiliadau o'n cyfleusterau (Nod: sicrhau bod ein cyfleusterau'n gwbl hygyrch)
  • Arolygon ymgysylltu â staff (Nod: ymgorffori diwylliant sefydliadol cynhwysol o fewn Chwaraeon Cymru gyda lefelau uchel o ymgysylltu â staff)

Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru 2023-2026 yn nodi “byddwn yn gweithio i greu Cymru fwy cynhwysol a theg, lle mae gan bawb gyfle i ffynnu”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o greu gweithle mwy cynhwysol.

Mae Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol 2021-2026 Llywodraeth Cymru yn nodi “byddwn yn gweithio i greu Cymru fwy cyfiawn a chynhwysol, lle mae gan bawb gyfle cyfartal i lwyddo”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o greu cymdeithas fwy cynhwysol.

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymhwyso’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Amcan 2: Dileu bylchau cyflog

Mae bylchau cyflog sy’n seiliedig ar nodweddion gwarchodedig yn creu annhegwch ac yn rhwystro cadw talent. Mae dileu bylchau cyflog yn cryfhau ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gydraddoldeb ac yn gosod esiampl ar gyfer y sector chwaraeon ehangach.

Mae'r camau gweithredu isod (ac o dan amcan 1) yn ymgorffori ein Cynllun Gweithredu Tâl Rhywedd.

Camau Gweithredu:

Tymor byr (6 mis i 18 mis):

  • Cynnal archwiliadau bwlch cyflog rheolaidd wedi'u dadgyfuno yn ôl nodweddion gwarchodedig.
  • Parhau i dalu'r Cyflog Byw Real.
  • Mynd ati’n gadarnhaol i annog ymgeiswyr benywaidd, lleiafrifoedd ethnig ac anabl ar gyfer swyddi arweinyddiaeth uwch.

Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):

  • Archwilio adroddiadau am fylchau cyflog ethnigrwydd / anabledd / cyfeiriadedd rhywiol ochr yn ochr ag adroddiadau rhywedd.
  • Cynnig cyfleoedd mentora wedi'u targedu ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Cynllunio cynnydd ac olyniaeth ar draws cyfarwyddiaethau gyda ffocws ar lif o dalent amrywiol.
  • Rhaglen datblygu arweinyddiaeth fenywaidd / Cael gwared ar unrhyw rwystrau i annog ymgeiswyr benywaidd i gymryd rhan mewn rhaglenni datblygu arweinyddiaeth (yn dibynnu ar ganfyddiadau’r camau gweithredu tymor byr).
  • Gweithredu ymyriadau wedi'u targedu i gau bylchau cyflog a nodwyd.

Pwrpas:

  • Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a adroddwyd gan Chwaraeon Cymru ar 31 Mawrth 2023 oedd 7%. Er bod hyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i ddileu'r bwlch hwn.
  • Mae data'n dangos bod bylchau cyflog sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol, er nad yw'r wybodaeth hon yn bodloni'r lefelau adrodd ystadegol gofynnol eto.

Dolen i’n Bwriad Strategol:

  • Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
  • Tymor hir
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn

Monitro Cynnydd

  • Adroddiad blynyddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (Nod: dileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nodwyd)
  • Data amrywiaeth y gweithlu gan gynnwys ar lefel arweinyddiaeth (Nod: cyflawni gweithlu mwy amrywiol ar draws Chwaraeon Cymru)
  • Data bwlch cyflog wedi'i ddadansoddi yn ôl nodweddion gwarchodedig (Nod: dileu bylchau cyflog ar draws nodweddion gwarchodedig)

Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi

Mae Cynllun Gweithredu Cyflog Teg i Ferched yng Nghymru 2022-2025 Llywodraeth Cymru yn nodi “byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod merched yn cael eu talu’n deg a bod bylchau cyflog yn cael eu cau”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Amcan 3: Ymgorffori caffael cymdeithasol gyfrifol yn Chwaraeon Cymru

Mae integreiddio ystyriaethau cyfrifoldeb cymdeithasol yn rhan o gaffael yn meithrin effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Camau Gweithredu:

Tymor byr (6 mis i 18 mis):

  • Adolygu ein prosesau a'n gweithdrefnau caffael i'w gwneud yn haws i fusnesau bach weithio gyda ni.
  • Datblygu Strategaeth Gaffael gyffredinol sy'n ymgorffori ystyriaeth i werth cymdeithasol a chynaliadwyedd.
  • Hyfforddi staff ar y dull caffael newydd (os yw'r fframwaith presennol eisoes wedi'i ddatblygu).
  • Cydweithredu â sefydliadau partner fel WRAP Cymru i rannu arferion gorau a nodi arferion da sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd.

Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):

  • Rhoi gweithdrefnau symlach ar waith a mecanweithiau cefnogi i fusnesau bach gymryd rhan ym mhrosesau caffael Chwaraeon Cymru.
  • Monitro effaith mentrau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar werth cymdeithasol, cynaliadwyedd ac ymgysylltu â busnesau bach.

Pwrpas:

  • Rydym eisiau bod yn batrwm o sefydliad ar gyfer mabwysiadu dull cymdeithasol gyfrifol o weithredu wrth gaffael, gan ddefnyddio ein dylanwad i wella lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru.

Dolen i’n Bwriad Strategol:

  • Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn

Monitro Cynnydd

  • Cofrestr Contractau (Nod: mwy o dryloywder o ran gweithgarwch caffael)
  • Data am gadwyni cyflenwi, gan gynnwys dyfarniadau contract ‘lleol’ a gwariant BBaCh (Nod: cefnogi dull economi gylchol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol)
  • Allyriadau carbon a adroddwyd (Nod: llai o allyriadau carbon).

Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi

Mae Deddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru roi lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth galon gweithgarwch caffael.

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru 2023-2026 yn nodi “byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru yr wybodaeth a’r sgiliau i roi egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol ar waith.” Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Amcan 4: Meithrin diwylliant o welliant parhaus o fewn Chwaraeon Cymru a gyda sefydliadau partner

Mae diwylliant o welliant parhaus yn sicrhau addasu i anghenion sy’n newid, yn cofleidio arloesi, ac yn ysgogi rhagoriaeth wrth gyflawni amcanion strategol. Mae'n cyd-fynd â ffocws Llywodraeth Cymru ar ragoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a dull y Fframwaith Symud at Gynhwysiant o hunanadlewyrchu a gwelliant parhaus.

Camau Gweithredu:

Tymor byr (6 mis i 18 mis):

  • Cynnal profion defnyddwyr trylwyr o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol i sicrhau cynhwysiant a hygyrchedd i bob person ifanc.
  • Defnyddio data a gwybodaeth o arolygon staff i nodi meysydd ar unwaith i'w gwella ac addasiadau i wasanaethau.
  • Gweithredu'r hyn a ddysgwyd o'n hadolygiad o'r dull buddsoddi cymunedol i sicrhau bod ein proses ar gyfer derbyn a monitro cyllid yn hygyrch i bob cymuned.
  • Adolygu effaith newidiadau i'r model buddsoddi ar bartneriaid i sicrhau bod y canlyniad a fwriedir o fynd i'r afael â bylchau cyfranogiad mewn cymunedau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn gwneud cynnydd. 
  • Datblygu Fframwaith Gallu diwygiedig, gan gefnogi gwelliant parhaus sefydliadau partner fel eu bod yn gynaliadwy ac yn barod i gyflawni eu potensial. Bydd hyn yn cynnwys ystyried amrywiaeth a diwylliannau'r bwrdd.
  • Ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithredu gan bartneriaid o'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant.

Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):

  • Meithrin diwylliant o gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth i sbarduno cynnydd tuag at degwch a chynhwysiant.
  • Defnyddio ein tîm dylunio gwasanaethau i fabwysiadu dull seiliedig ar anghenion defnyddwyr o weithredu gyda phrosiectau allweddol a meysydd o newid, yn enwedig yn y gofod digidol.
  • Sefydlu system ar gyfer tracio effaith dymor hir newidiadau ac ymyriadau ar fynd i'r afael â nodau tegwch a hygyrchedd.

Pwrpas:

  • Rydym yn sefydliad sy'n dysgu ac wedi ymrwymo i ymateb mewn ffordd hyblyg i anghenion ein staff a phobl Cymru.
  • Rydym wedi ymrwymo i'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant, sy'n annog datblygu arfer cynhwysol drwy hunanadlewyrchu a gwelliant parhaus.
  • Rydym eisiau manteisio i’r eithaf ar effaith popeth rydym yn ei wneud i gyflawni'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

Dolen i’n Bwriad Strategol:

  • Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer y tymor hir
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr

Monitro Cynnydd

  • Sefydliadau newydd a gwahanol / ceisiadau am gyllid (Nod: cynyddu ein cyrhaeddiad a buddsoddi mewn sefydliadau mwy amrywiol nad ydynt fel arfer wedi cysylltu â ni am gyllid)
  • Cyfraddau cyfranogiad (Nod: lleihau bylchau cyfranogiad fel y nodwyd mewn arolygon cenedlaethol perthnasol)
  • Twf o ran amrywiaeth a chynhwysiant mewn swyddi arwain a gweithlu'r sector chwaraeon yng Nghymru.

Cyd-fynd â Llywodraeth Cymru

Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.