Skip to main content

Monitro ac Adrodd yn Ôl

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol data a gwybodaeth i fonitro a sbarduno cynnydd yn ystod cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Rydym yn casglu amrywiaeth eang o ddata cadarn ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys gweithlu (ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig), cyfraddau cyfranogiad, galw a buddsoddiadau. Rydym hefyd yn gweithio'n rheolaidd gyda'r byd academaidd ar brosiectau ymchwil penodol sy'n ein cynorthwyo i ystyried agweddau croestoriadol ar anghydraddoldeb.

Bydd Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol yn ei adroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb Cyhoeddus blynyddol:

  1. Diweddariad ar gynnydd yn erbyn amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
  2. Data am amrywiaeth y staff
  3. Data am amrywiaeth aelodau'r Bwrdd
  4. Monitro amrywiaeth recriwtio
  5. Data am amrywiaeth y staff sy’n dechrau o’r newydd / gadael 
  6. Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
  7. Bwlch cyflog yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig eraill (lle bo hynny'n ystadegol bosibl)
  8. Cwynion, Anfodlonrwydd, Disgyblu
  9. Gwybodaeth am hyfforddiant
  10. Data cyfranogiad (gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru a'r Arolwg Chwaraeon Ysgol)
  11. Buddsoddiadau wedi'u dadansoddi ar draws meysydd blaenoriaeth

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn chwarae rhan allweddol wrth fonitro a herio cynnydd drwy gydol cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Asesiad Effaith Integredig

Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio adnodd Asesiad Effaith Integredig i ddeall effaith bosibl newidiadau arfaethedig i bolisi neu arferion. Mae hon fel arfer yn ddogfen gydweithredol ac ailadroddus sydd â’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a’n dyletswyddau cyhoeddus ehangach. Mae’r adnodd yn galluogi Chwaraeon Cymru i ddatblygu camau lliniaru os caiff unrhyw effaith negyddol ei nodi neu i nodi cyfleoedd i ystyried sut gellir gwella unrhyw effaith gadarnhaol ymhellach.