Skip to main content

Ein Dull o Weithredu

Rydym wedi mabwysiadu dull pum cam o weithredu ar gyfer datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2024-2028):-

  1. Manteisio ar Brofiad: Cynhaliwyd adolygiad beirniadol gennym o'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024), gan adeiladu ar y dysgu gwerthfawr a'r cynnydd a gyflawnwyd. Aseswyd ei gryfderau a'r meysydd i'w gwella yn gynhwysfawr. Sicrhaodd yr hunanwerthusiad beirniadol hwn bod y cynllun newydd yn adeiladu ar sylfaen gadarn.
  2. Cyd-fynd â'r Tirlun: Gan gydnabod y cyd-destun ehangach, cynhaliwyd adolygiad manwl gennym o'r fframweithiau polisi a deddfwriaethol perthnasol, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu LGBTQ+, Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol 2021-2026, Cynllun Gweithredu Cyflog Teg i Ferched 2022-2025, a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023-2026. Datblygwyd ein Cynllun hefyd yng nghyd-destun lansio'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant ym mis Medi 2023. Roedd hwn yn cymryd lle’r Safonau Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon blaenorol. Sicrhaodd hyn bod ein Strategaeth yn cyd-fynd ag amcanion polisi ehangach ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.
  3. Gwybodaeth yn Arwain: Gan gydnabod pŵer data fel sail i strategaethau effeithiol, adolygwyd ein data perfformiad a'n llwybrau yn ystod cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2020-2024). Dadansoddwyd data yn ymwneud ag amrywiaeth staff a byrddau, bylchau cyflog a'r wybodaeth a ddarparwyd gan ein harolygon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant staff. Sicrhaodd hyn bod ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol yn adlewyrchu ein gwybodaeth ein hunain a meysydd penodol i'w gwella.
  4. Ymgorffori Safbwyntiau Amrywiol: Rydym yn gwybod bod gwir gynhwysiant yn gofyn am leisiau amrywiol. Buom yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfeillion beirniadol yn cynrychioli'r sbectrwm llawn o nodweddion gwarchodedig. Galluogodd eu safbwyntiau gwerthfawr ni i fireinio ein dull o weithredu a sicrhau bod ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn adlewyrchu anghenion ein sefydliad a safbwyntiau amrywiol.
  5. Cydweithredu: Gan gydnabod cryfder cydweithredu, buom yn ymgysylltu’n weithredol â Phartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r bartneriaeth ar feysydd o ddiddordeb a rennir. Mae ein hamcanion wedi'u teilwra i anghenion penodol Chwaraeon Cymru a'n cymunedau ond maent yn parhau i fod yn gysylltiedig ag amcanion cyffredinol y Bartneriaeth.

Mae’n anochel bod ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn canolbwyntio ar gamau gweithredu y gall Chwaraeon Cymru eu rhoi ar waith o fewn ein sefydliad ein hunain. Fodd bynnag, ein huchelgais yw defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i gefnogi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o fewn y sector. Rydym yn credu y bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon, lle daw Cymru yn “genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes”. Yn benodol, mae rhai o'n camau gweithredu allanol yn canolbwyntio ar y ffordd orau o ddefnyddio buddsoddiad a chyllid i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Fel sefydliad sy'n dysgu, rydym wedi ymrwymo i adolygu cydbwysedd ac effeithiolrwydd y camau hyn drwy gydol oes y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Rydym yn feiddgar o uchelgeisiol ynghylch yr hyn rydym eisiau ei gyflawni drwy gydol oes y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn. Fodd bynnag, dywedodd ein cyfeillion beirniadol y byddai'n ddefnyddiol cydbwyso ein huchelgais a'n hamserlenni ar gyfer cyflawni camau gweithredu i roi mwy o hyder i ni bod ein Cynllun yn gyraeddadwy. Felly, rydym wedi ceisio categoreiddio’r camau gweithredu yn y tymor byr a'r tymor canolig / hir. Nid yw'r dull hwn o weithredu’n lleihau pwysigrwydd y camau gweithredu tymor hwy ond, yn hytrach, mae'n cydnabod bod angen cynllunio a chyfresu rhai newidiadau.