Am y swydd wag hon
Adran a chyflog
Adran – System Chwaraeon: Llywodraethu, Pobl a Moeseg
Cyflog – £49,734.98 - £53,277.34 (Graddfa 9)
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg)
Hyd y Contract - Contract tymor penodol o 12 mis o leiaf gyda chyfle am secondiad
Lleoliad – Swyddfeydd Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd neu Lanelli
Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi dysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i chi ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm.
Sut byddwch chi'n cyfrannu
Ar ran y sector, mae Chwaraeon Cymru yn chwilio am unigolyn (unigolion) hynod fedrus, llawn cymhelliant sy’n cael ei sbarduno gan werthoedd ac sydd â'r gallu i arwain a chefnogi'r sector chwaraeon yng Nghymru i gryfhau ei wydnwch — hynny yw, ei allu i addasu, cydweithredu a ffynnu yn wyneb heriau ariannol a gweithredol.
Bydd y rôl hon yn gweithio gyda sefydliadau partner a gyllidir, ochr yn ochr â staff Chwaraeon Cymru, mewn ymdrech gydweithredol i ddatblygu a rheoli rhaglen strategol sy'n canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd ariannol tymor hir y sector.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol, Partneriaethau Chwaraeon a Phartneriaid Cenedlaethol i feithrin arloesedd, sbarduno cydweithredu a lleihau dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus.
Mae hon yn rôl gydweithredol gyffrous, wedi'i chynllunio i weithio mewn partneriaeth â'r sector. Bydd cynnal pwrpas cyffredin drwy gydol y swydd hon yn hanfodol i'w llwyddiant.
Fel rhan o'r gwaith hwn, sefydlir gweithgor sector i ddarparu goruchwyliaeth a chyfeiriad strategol. Byddwch yn cysylltu â'r grŵp hwn i ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r sector ac ohono er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo mewn ffordd amserol a chyson.
Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio
Byddwch yn gweithio gyda rhwydwaith eang o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Partneriaid Cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon i ddeall anghenion y sector a gweithredu pecynnau gwaith a fydd yn cefnogi Gwydnwch y Sector.
Bydd ymgynghorwyr allanol a sefydliadau sydd ag arbenigedd arbenigol yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gwaith hwn hefyd, felly byddwch yn cysylltu â'r rhain, gan nodi a gweithredu cefnogaeth yn ôl yr angen.
Yn fewnol byddwch yn gweithio fel aelod o’r Tîm System Chwaraeon, Llywodraethu, Pobl a Moeseg, gan gysylltu'n agos â Rheolwr Perthnasoedd Chwaraeon Cymru a fydd yn parhau i gefnogi'r gwaith hwn, yn ogystal â gweithio ar y cyd â chydweithwyr ym mhob rhan o Chwaraeon Cymru i sicrhau bod materion sy'n ymwneud â gwydnwch y Sector yn cael eu cefnogi'n llawn.
Beth fydd angen arnoch
Rydym yn chwilio am unigolyn (unigolion) gwybodus sydd â phrofiad o reoli prosiectau cymhleth, aml-randdeiliaid o'r cynllunio hyd at y cyflawni. Byddai dealltwriaeth o'r sector chwaraeon yng Nghymru yn fanteisiol ochr yn ochr â phrofiad o gynhyrchu incwm, gwasanaethau a rennir a gweithrediadau busnes chwaraeon. Bydd angen profiad o adeiladu a chynnal perthnasoedd cydweithredol, diwallu anghenion partneriaid a chyflawni mewn amgylchedd gwaith hyblyg.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth, gan sicrhau bod cynhwysiant a chydraddoldeb wedi'u hymgorffori mewn rhaglenni gwaith, prosiectau a chyfleoedd gwydnwch y sector.
Beth sy'n digwydd nesaf
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).
Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i susie.osborne@sport.wales
Dyddiad cau
07/07/2025 12pm
Dyddiad dros dro y cyfweliad
22/07/2025
Disgrifiad Swydd Llawn
Yn atebol i
Pennaeth Llywodraethu, Datblygu Pobl a Moeseg
Pwrpas y Swydd
Ar ran y sector, mae Chwaraeon Cymru yn chwilio am unigolyn medrus a llawn cymhelliant sydd â'r gallu i gefnogi a chynghori'r sector chwaraeon yng Nghymru i gryfhau ei wydnwch — hynny yw, ei allu i addasu, cydweithredu a ffynnu yn wyneb heriau ariannol a gweithredol. Bydd y rôl hon yn gweithio ochr yn ochr â'r sector chwaraeon i ddatblygu a rheoli rhaglen strategol sy'n canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd ariannol tymor hir y sector. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol, Partneriaethau Chwaraeon a Phartneriaid Cenedlaethol i feithrin arloesedd, sbarduno cydweithredu a lleihau dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus. Gellid ymgymryd â'r rôl hon fel rhannu swydd.
Main Duties
Adnabod Cyfleoedd – gweithio'n agos gyda'r sector (ar lefel uwch) i nodi meysydd cydweithio a fydd naill ai'n cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd sefydliadau neu'n archwilio opsiynau sy'n sicrhau eu bod yn wydn yn ariannol.
Rheoli Prosiectau: Datblygu, arwain a chefnogi nifer o brosiectau ledled y sector, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno'n amserol, gwneud y mwyaf o adnoddau a sefydlu dulliau i ddeall sut mae'r gwaith yn datblygu a gweithio tuag at ganlyniad cyffredin.
Cefnogaeth Weithredol: Darparu canllawiau ymarferol i bartneriaid lle bo hynny'n berthnasol a dod o hyd i arbenigedd o fewn y sector neu'n allanol i gefnogi meysydd fel:
- Gwasanaethau a rennir ac arweinyddiaeth
- Rheoli digwyddiadau
- Cymorth digidol a data
- Caffael
- Cynllunio cyfleusterau
- Meysydd eraill
Hwyluso Cydweithredu: Datblygu a chefnogi cydweithredu traws-sector a mentrau a rennir. Cynnal pwrpas cyffredin ar gyfer y gwaith gyda sefydliadau'r sector.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Meithrin perthnasoedd cadarn gydag ystod eang o bartneriaid i sicrhau cydlynu a chynaliadwyedd.
UKSport a gwledydd cartref eraill – cysylltu â phartneriaid eraill ledled y DU i nodi a rhannu arferion sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn
Cymorth Busnes yng Nghymru - nodi a datblygu perthnasoedd cadarnhaol â sefydliadau yng Nghymru sy'n gallu cefnogi ac arwain y gwaith hwn.
Monitro ac Adrodd: Tracio cynnydd, gwerthuso effaith, ac adrodd ar ganlyniadau i'r sector.
Ein gwerthoedd
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
Person Specification
Maes ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Profiad | Profiad clir yn y maes gwaith hwn ac yn y prif ddyletswyddau a restrir. Profiad o weithio gyda neu ar draws nifer o sefydliadau neu adrannau. Profiad o weithio ar lefel uwch, gan gyfrannu at neu ddylanwadu ar gyfeiriad strategol gan gynnwys ar lefel bwrdd. Profiad o ddod o hyd i neu reoli ymgynghorwyr allanol neu arbenigedd penodol i'r sector. Dealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd a wynebir ar draws y sector.
| Dealltwriaeth o’r tirlun chwaraeon yng Nghymru. Enw da am gefnogi sefydliadau drwy fentrau newid neu gynaliadwyedd ariannol. Dealltwriaeth o dirlun chwaraeon ehangach y DU. Cyfarwydd â modelau gwasanaethau a rennir, trawsnewid digidol, neu strategaethau cyllido cydweithredol.
|
Skills, Aptitudes & Abilities | Profiad clir o reoli prosiectau cymhleth, aml-randdeiliaid. Gallu clir i ddylanwadu ar lefel uwch. Sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu rhagorol. Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif. Craffter ariannol cadarn.
| Cefndir cadarn mewn datblygu sefydliadol, cynhyrchu incwm, neu effeithlonrwydd gweithredol. Mae profiad o weithio o fewn neu ochr yn ochr â sector chwaraeon y DU yn ddymunol iawn. |
Special Circumstances | Gallu gweithio’n hyblyg. Gallu teithio ledled Cymru (gyda sawl partner wedi’u lleoli yn Ne Cymru). |