Main Content CTA Title

Cynllun Graddedigion Maethegydd Perfformiad

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Swyddi Gwag Diweddaraf - Chwaraeon Cymru
  4. Cynllun Graddedigion Maethegydd Perfformiad

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG

Adran – System Chwaraeon – Chwaraeon Cymru – Tîm Gwasanaethau’r Athrofa 

Cyflog – Graddfa 4, £26,582.64 - £29,307.36 a ffioedd hyfforddi sy’n cael eu talu gan Chwaraeon Cymru i gwblhau'r Cwrs Meistr Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Oriau Gwaith – 37 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos fel rheol yn astudio yn y Brifysgol, 2 ddiwrnod yr wythnos yn Chwaraeon Cymru, 1 diwrnod yr wythnos ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd)

Hyd - 18 mis (Bydd unrhyw amser sy'n weddill o fewn y contract 18 mis ar ôl cwblhau'r Gradd Meistr wedi'i leoli yn Chwaraeon Cymru fel gweithiwr llawn amser)

Lleoliad – Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae gan Dîm Gwasanaethau’r Athrofa y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru nod o greu’r system chwaraeon fwyaf gwyddonol yn y byd, gan alluogi pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud ‘ennill yn dda’ yn fwy tebygol. Rydym yn weithwyr Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon proffesiynol sy’n credu bod ymdrechu am berfformiad uchel a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn brofiad cadarnhaol yn elfennau hanfodol o system chwaraeon Cymru.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.  

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.  

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi dysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i chi ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm.

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU 

I'r rhai sy'n gymwys, mae hwn yn gyfle cyffrous i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer wedi'i gyllido’n llawn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wrth ennill profiad amhrisiadwy drwy ymuno â Thîm Gwasanaethau’r Athrofa y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru.

Bydd y cynllun graddedigion Maethegydd Perfformiad yma’n darparu cyfleoedd i arwain eich datblygiad drwy weithio dan oruchwyliaeth yn Chwaraeon Cymru, Met Caerdydd a TASS ochr yn ochr â chwblhau MSc mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer.

Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy'n gysylltiedig â maeth perfformiad (er enghraifft iechyd athletwyr benywaidd, argaeledd egni, sgiliau coginio). Byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd effeithiol i alluogi cyflwyno prosiectau athletwyr, chwaraeon a phrosiectau system gyfan yn effeithiol. Byddwch yn hyrwyddo rôl bwyd a maeth mewn cefnogi datblygiad athletaidd, iechyd a lles athletwyr ac amgylcheddau athletwyr. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid perthnasol i ddysgu, esblygu a datblygu arfer maeth yn barhaus.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Ein ffocws allweddol yw mynd i'r afael â materion system a materion penodol i chwaraeon sy'n digwydd dro ar ôl tro, gan greu diwylliant o hanfodion gwych. Gan weithio gyda'n partneriaid, aelodau eraill o dîm gwasanaethau Athrofa’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach yn Chwaraeon Cymru, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy'n seiliedig ar egwyddorion maeth perfformiad.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth strategol allweddol i Chwaraeon Cymru ac rydym yn ceisio amrywio ein gweithlu ymhellach. Bydd ymgeiswyr o gefndir amrywiol, yn benodol pobl ag anabledd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, yn cael gwarant o gyfweliad fel rhan o'r dull hwn o weithio. Rydym wedi ymrwymo i leihau'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel.

Mae'r Cynllun Graddedigion Maethegydd Perfformiad hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gyfle i'r rhai sy'n profi anfanteision economaidd-gymdeithasol gael profiad gwaith ymarferol a gradd meistr mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni'r meini prawf economaidd-gymdeithasol a amlinellir ar y ffurflen gais.

Bydd angen i chi fod â gradd israddedig mewn pwnc sy'n bodloni gofynion mynediad y Radd Meistr mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer (fel rheol BSc (Anrh) mewn Maeth, Deieteteg, Gwyddorau Biofeddygol, Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer, Bioleg).

Bydd angen i chi fod â’r hawl i weithio yn y DU.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

DYDDIAD CAU

10/06/2025

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

25/06/2025

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

YN ATEBOL I

Maethegydd Perfformiad Arweiniol

PWRPAS Y SWYDD

I'r rhai sy'n gymwys, mae hwn yn gyfle cyffrous i astudio ar gyfer gradd MSc mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer wedi'i gyllido’n llawn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wrth ennill profiad amhrisiadwy drwy ymuno â Thîm Gwasanaethau’r Athrofa y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru.

Mae gan Dîm Gwasanaethau’r Athrofa y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru nod o greu’r system chwaraeon fwyaf gwyddonol yn y byd, gan alluogi pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud ‘ennill yn dda’ yn fwy tebygol. Rydym yn credu bod ymdrechu am berfformiad uchel a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn brofiad cadarnhaol yn elfennau hanfodol o system chwaraeon Cymru.

Ein ffocws allweddol yw mynd i'r afael â materion system a materion penodol i chwaraeon sy'n digwydd dro ar ôl tro, gan greu diwylliant o hanfodion gwych. Gan weithio gyda'n partneriaid, aelodau eraill o dîm gwasanaethau Athrofa’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach yn Chwaraeon Cymru, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy'n seiliedig ar egwyddorion maeth perfformiad.

Bydd y cynllun graddedigion Maethegydd Perfformiad yma’n darparu cyfleoedd i arwain eich datblygiad drwy weithio dan oruchwyliaeth yn Chwaraeon Cymru, Met Caerdydd a TASS ochr yn ochr â chwblhau MSc mewn Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy'n gysylltiedig â maeth perfformiad, a all gynnwys; 

Iechyd athletwyr benywaidd   

Argaeledd egni / tanwydd  

Sgiliau coginio a chynllunio

Meithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol i alluogi cyflwyno prosiectau athletwyr, chwaraeon a phrosiectau system gyfan yn effeithiol. 

Hyrwyddo rôl bwyd a maeth mewn cefnogi datblygiad athletaidd, iechyd a lles athletwyr ac amgylcheddau athletwyr. 

Gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid perthnasol i ddysgu, esblygu a datblygu arfer maeth yn barhaus. 

Gweithio o fewn rheolau Codau Ymddygiad proffesiynol y DU a CRhC yn ogystal â'r safonau a'r canllawiau a nodir yng Nghod Ymddygiad y Gofrestr Maeth Chwaraeon ac Ymarfer (SENr) gyda sylw arbennig i’r 'Datganiad Safbwynt Atchwanegiadau Maeth' gan y Grŵp o Arbenigwyr Maeth Chwaraeon.

Cadw dogfennaeth gynhwysfawr o'r gwaith sy’n cael ei wneud gydag athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon gan ddefnyddio porthol prosiect perfformiad Chwaraeon Cymru a chadw cofnodion manwl o'r gwaith sy’n cael ei wneud gydag athletwyr unigol gan ddefnyddio PDMS.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             

Addysg 

 

Gradd israddedig mewn Maeth, Gwyddoniaeth Chwaraeon, Dieteteg neu bwnc cysylltiedig 

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol

 

Aelodaeth myfyriwr neu gyswllt o gorff proffesiynol

Profiad

 

Dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu athletwyr sy'n datblygu

 

Profiad gwirfoddol o fewn camp, clwb, tîm neu sefydliad mewn unrhyw rôl

 

Profiad fel Maethegydd neu Ddeietegydd cofrestredig sy’n ymarfer

 

Profiad o ddatblygu adnoddau a rhaglenni addysgol i hwyluso newid ymddygiad

 

Profiad o gefnogi athletwyr ifanc a'u rhieni

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno effeithiol

 

Y gallu i fod yn gyfrifol am eich datblygiad personol eich hun, a cheisio cefnogaeth ac arweiniad gan eraill yn rhagweithiol

 

Dealltwriaeth o anghenion athletwyr sy'n datblygu a'u hyfforddwyr

 

Y gallu i gyfathrebu mewn ieithoedd ychwanegol (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd)

 

Dealltwriaeth o'r gwahanol ddisgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon a sut gall y rhain gyfrannu at ddatblygiad athletwyr

 

Dealltwriaeth o sut gellir addasu cyfathrebu i ddylanwadu ar y gynulleidfa darged

 

Y gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda staff cefnogi, athletwyr a hyfforddwyr 

Arall

Trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

 

Yn gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol

 

Yn gallu teithio pan fo angen

 

Efallai y bydd gofyn gweithio gydag athletwyr dan 18 oed ac oedolion sydd mewn perygl (mae angen archwiliad DBS)