Am y swydd wag hon
Adran a chyflog
Adran – Gweithrediadau
Cyflog – £14,520 (a lwfans shifftiau o 16%) (Graddfa 2)
Oriau Gwaith – 22 awr yr wythnos (wedi'i gyfartaleddu dros batrwm shifftiau 3 wythnos)
Lleoliad – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd
Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi dysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i chi ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm.
Sut byddwch chi'n cyfrannu
Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn un o brif leoliadau hyfforddi a chystadlu chwaraeon y DU. Defnyddir y cyfleusterau gan athletwyr elitaidd, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yn ogystal â bod ar gael i'r gymuned leol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwy-ydd Gweithrediadau rhan amser ymuno â'r tîm yn y Ganolfan. Byddwch yn unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'n defnyddwyr. O dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Dyletswydd ac fel rhan o dîm o staff Gweithrediadau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y Ganolfan Genedlaethol yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel, fel sefydlu a dadansoddi digwyddiadau chwaraeon, a chyflwyniadau i aelodau newydd.
Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio
Byddwch yn gweithio'n agos gydag eraill o fewn y tîm gweithrediadau a thîm rheoli'r ganolfan i sicrhau bod cyfleusterau'r Ganolfan Genedlaethol yn gallu cael eu defnyddio'n ddiogel ac i safon uchel. Byddwch hefyd yn cysylltu ag unigolion yn amrywio o athletwyr elitaidd i'r cyhoedd yn gyffredinol, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol bob amser.
Beth fydd angen arnoch
Mae cymhwyster Hyfforddwr Campfa Lefel 2 cydnabyddedig (neu'r gallu i'w sicrhau o fewn 12 mis) a thystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith gyfredol (neu'r gallu i'w sicrhau o fewn 3 mis) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae cymhwyster BTEC sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu gyfatebol yn ddymunol. Mae angen profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad chwaraeon a hamdden ynghyd â'r gallu i weithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd a gallu blaenoriaethu tasgau. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol a byddwch yn gallu dangos lefel uchel o ofal am gwsmeriaid.
Natur y swydd yw bod gofyn i ddeiliad y swydd weithio patrwm shifftiau sy'n cynnwys oriau afreolaidd ac anghymdeithasol, gan gynnwys boreau cynnar, gyda’r nosau, penwythnosau a gwyliau banc, cyhoeddus a gwyliau penodol eraill os oes angen. Mae agwedd hyblyg at eich oriau gwaith i gefnogi anghenion y Ganolfan yn hanfodol a bydd cyfleoedd rheolaidd i weithio shifftiau cyflenwi ychwanegol a thros amser.
Beth sy'n digwydd nesaf
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).
Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i mero.estephan@sport.wales
Dyddiad cau
03/07/2025 12pm
Dyddiad dros dro y cyfweliad
16/07/2025