Skip to main content

Disgrifiad Swydd - Swyddog Buddsoddiadau

Disgrifiad Swydd Llawn 

Yn atebol i 

Uwch Swyddog Buddsoddiadau 

Pwrpas y swydd 

Fel rhan o strategaeth newydd Chwaraeon Cymru, mae ein dull o ymdrin â buddsoddiadau yn newid. Mae angen i'r ffordd mae buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn cael eu dyrannu fod yn rhan o adnodd datblygu chwaraeon rhagweithiol. Yn y rôl hon bydd gennych gyfrifoldeb cynnar dros ysgogi'r newid hwnnw.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth, cymorth ac arweiniad i Bartneriaid (yn enwedig ymgeiswyr, Awdurdodau Lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a'r System Chwaraeon a Thimau Datblygu Chwaraeon) ar bob mater sy'n ymwneud â buddsoddi, byddwch yn monitro'r buddsoddiadau a wneir, gan nodi a deall y bylchau yn y buddsoddiadau hynny.

Bydd gan y rôl hon swyddogaeth bwysig o ran cydnabod lle gellir addasu dull wedi'i dargedu o ymdrin â'n buddsoddiadau er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth o gymunedau Cymru yn erbyn bwriadau strategol Chwaraeon Cymru. Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gydag eraill o fewn y tîm buddsoddiadau, a lle bo angen gyda'r tîm dirnadaeth, i ddatblygu trosolwg o ble mae ein ceisiadau buddsoddi yn dod a ble mae angen ymgysylltu'n well.

Darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer y rôl ac felly dull yr ymgeisydd o ymdrin ag ymddygiadau a sgiliau fydd elfen fwyaf hanfodol y broses recriwtio.

Prif ddyletswyddau 

  1. Gweinyddu cyllid grant i ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau Loteri lleol (Cronfa Cymru Actif ar hyn o bryd), ein ffrydiau buddsoddi cyfalaf, ac unrhyw ffrydiau cyllido eraill y bernir eu bod yn briodol (ceisiadau partner fel prosiectau Cydweithredu, Cydraddoldeb ac ati), o dderbyn cais hyd at gau buddsoddiadau, fel amodau buddsoddi, cydymffurfiaeth a thaliadau (gan gynnwys asesu ac argymhellion, sy'n cwmpasu pob agwedd ar y broses fuddsoddi ar lefel ariannol briodol, ac eithrio dyfarnu grant).
  2. Cefnogaeth a chymorth llinell gyntaf i bartneriaid (yn enwedig ymgeiswyr, Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a'r System Chwaraeon a Thimau Datblygu Chwaraeon) ar ddefnyddio'r System Rheoli Buddsoddiadau Ar-lein (OIMS).
  3. Darparu cyfarwyddyd i ymgeiswyr ar faterion cysylltiedig â buddsoddiadau.
  4. Diweddaru basau data a chadw cofnodion i sicrhau integriti ein data buddsoddi.
  5. Echdynnu data allweddol o’r System Rheoli Buddsoddiadau Ar-lein i greu adroddiadau buddsoddi ar gyfer partneriaid a chydweithwyr Chwaraeon Cymru fel ei gilydd.
  6. Adolygu a gwerthuso yn achlysurol brosesau a gweithdrefnau’r Tîm buddsoddiadau a diweddaru’r nodiadau desg proses perthnasol at ddiben gwelliant parhaus.
  7. Nodi tueddiadau mewn ceisiadau, gan dynnu sylw at lle gellir gwneud gwaith mwy rhagweithiol i annog mwy o fuddsoddiadau mewn meysydd sy'n rhan annatod o gyflawni yn erbyn bwriadau strategol Chwaraeon Cymru. Gall hyn fod yn cydnabod yr amrywiadau mewn ceisiadau gan wahanol bartneriaid, clybiau a chymunedau o safbwynt daearyddol, rhywedd, ethnigrwydd neu chwaraeon.
  8. Gweithio ar draws y timau buddsoddiadau a dirnadaeth i dynnu sylw at y bylchau buddsoddi er mwyn helpu i ddylanwadu ar y portffolio buddsoddi ehangach ar gyfer y sefydliad.
  9. Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  10. Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’r raddfa.

Ein Gwerthoedd

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.

Drwy wneud y canlynol:

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Maes ffocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

Isafswm o 5 TGAU - Gradd C neu uwch  

Profiad:

 

 

 

1 i 2 flynedd o brofiad o weithio’n weinyddol mewn swyddfa                   

 

1 i 2 flynedd o brofiad o weithio mewn swydd / sefydliad dyfarnu grantiau                 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd:

 

Agwedd frwdfrydig a rhagweithiol. Parodrwydd i weithio mewn ffordd bositif a chalonogol sy’n canolbwyntio ar atebion.     

 

Gallu cyfathrebu’n effeithiol, dros y ffôn, wyneb yn wyneb, ac yn ysgrifenedig / ar e-bost 

 

Gallu cyfathrebu’n glir ac yn hyderus, meithrin perthnasoedd gydag eraill ar bob lefel             

 

Dull trefnus ac effeithlon o weithio, gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ac yn gydweithredol gydag amrywiaeth eang o bobl dan bwysau i gadw at derfynau amser llym a lluosog                   

 

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

 

Amgylchiadau Arbennig: 

 

Gallu gweithio’n hyblyg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rota ar alwad.