Am y swydd wag hon
Adran a chyflog
Adran – Buddsoddiadau
Cyflog – Graddfa 3 - £24,420 - £25,362
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg)
Lleoliad – Swyddfa yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd
Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru â'r Loteri Genedlaethol.
Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau ar raglen groesawu wedi'i theilwra a byddwch yn cael cynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddiant a mentora, a chyfleoedd astudio tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni.
Sut byddwch chi’n cyfrannu
Adnodd polisi mwyaf effeithiol Chwaraeon Cymru yw ein ffrydiau buddsoddi cymunedol. Mae gan y gwaith hwn y potensial i newid bywydau unigolion, grwpiau a chymunedau drwy rymuso newid cymdeithasol. Mae hon yn rôl gyffrous sy’n flaenllaw yn y gwaith hwnnw, gan gefnogi gweinyddu’r broses ymgeisio.
Dylai deiliad y swydd fod â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol a gallu darparu gwasanaeth sy'n hyrwyddo gwasanaethau cwsmeriaid da.
Ni fydd arnoch angen unrhyw wybodaeth flaenorol am gyllid na systemau Chwaraeon Cymru oherwydd bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu fel rhan o gyfnod croesawu llawn. Agwedd yr ymgeisydd at ymddygiadau a sgiliau fydd yr elfen bwysicaf yn y broses recriwtio.
Gyda phwy fyddwch chi’n gweithio
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr yn y tîm buddsoddi i gefnogi clybiau a sefydliadau cymunedol yn uniongyrchol i gael mynediad at ein cyfleoedd buddsoddi cymunedol, gan gysylltu â hwy o ddydd i ddydd.
Beth fydd arnoch ei angen
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod â phrofiad blaenorol o weithio mewn rôl gwasanaethau cwsmeriaid, sgiliau meithrin perthnasoedd cadarn a'r gallu i ymateb ac addasu'n gadarnhaol i amrywiaeth o sefyllfaoedd a phobl er mwyn bodloni blaenoriaethau sy'n newid.
Bydd angen i chi fod yn drefnus ac wedi ymrwymo i weithio fel rhan o dîm.
Y nodwedd bwysicaf yw brwdfrydedd yn eich dull o weithio gyda'r cyhoedd i gefnogi canlyniadau cadarnhaol drwy sgiliau sydd â ffocws cadarn ar gwsmeriaid.
Beth sy’n digwydd nesaf
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn
Gallwch wneud cais am y swydd yma nawr (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).
Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost i annaliese.lewis@sport.wales
Dyddiad cau
10/07/2025 9am
Dyddiad dros dro y cyfweliadau
24/07/2025
Disgrifiad Swydd Llawn
Yn atebol i
Annaliese Lewis
Pwrpas y Swydd
Adnodd polisi mwyaf effeithiol Chwaraeon Cymru yw ein ffrydiau buddsoddi cymunedol. Mae gan y gwaith hwn y potensial i newid bywydau unigolion, grwpiau a chymunedau drwy rymuso newid cymdeithasol. Mae hon yn rôl gyffrous sy’n flaenllaw yn y gwaith hwnnw, gan gefnogi gweinyddu’r broses ymgeisio.
Dylai deiliad y swydd fod â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol a gallu darparu gwasanaeth sy'n hyrwyddo gwasanaethau cwsmeriaid da.
Ni fydd arnoch angen unrhyw wybodaeth flaenorol am gyllid na systemau Chwaraeon Cymru oherwydd bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu fel rhan o gyfnod croesawu llawn. Agwedd yr ymgeisydd at ymddygiadau a sgiliau fydd yr elfen bwysicaf yn y broses recriwtio.
Prif Ddyletswyddau
Darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol i'r cyhoedd drwy roi cyngor ac arwain ymgeiswyr drwy gamau cyntaf y broses ymgeisio, gan sicrhau profiad cadarnhaol i bawb.
Rheoli'r holl ymholiadau ffôn ac e-bost cychwynnol a dderbynnir gan y Tîm Buddsoddi, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Goruchwylio'r broses Mynegi Diddordeb ar gyfer Buddsoddiad Cymunedol, gan ddarparu mynediad i ymgeiswyr at ffurflenni cais ar-lein lle maent wedi dangos eu bod yn gymwys i gael cyllid gan Chwaraeon Cymru.
Diweddaru cronfeydd data, fel y System Rheoli Buddsoddiadau Ar-lein, a chadw cofnodion i sicrhau integriti ein data buddsoddi.
Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.
Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle mae hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.
Ein Gwerthoedd
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
Manyleb y Person
Maes ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg
| 5 TGAU. | |
Profiad | Profiad o weithio mewn rôl gwasanaethau cwsmeriaid.
| Profiad o weithio'n weinyddol mewn amgylchedd swyddfa. Profiad o weithio mewn swyddogaeth creu grantiau / sefydliad dyfarnu grantiau. |
Sgiliau, Doniau a Galluoedd | Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Sgiliau meithrin perthnasoedd cadarn. Agwedd frwdfrydig a rhagweithiol. Yn barod i ymdrin â gwaith mewn ffordd gadarnhaol a chalonogol sy'n canolbwyntio ar atebion. Gallu i ymateb ac addasu'n gadarnhaol i amrywiaeth o sefyllfaoedd a phobl i fodloni blaenoriaethau sy'n newid. Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu eich baich gwaith eich hun, yn enwedig o dan gyfyngiadau amser gyda gofynion sy'n gwrthdaro. Sgiliau cyfathrebu rhagorol gan ddefnyddio iaith ac arddull briodol sy'n berthnasol i'r gynulleidfa, gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol, dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy gyfathrebu yn ysgrifenedig. Gallu defnyddio blaengaredd a gweithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd. Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm. Ffocws cadarn ar gwsmeriaid. | |
Amgylchiadau Arbennig | Gallu gweithio’n hyblyg. |