Main Content CTA Title

Swyddog Cefnogi Llywodraethu a Gwydnwch Sector

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Swyddi Gwag Diweddaraf - Chwaraeon Cymru
  4. Swyddog Cefnogi Llywodraethu a Gwydnwch Sector

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog 

Adran –  Llywodraethu, Datblygu Pobl a Moeseg

Cyflog – Graddfa 5 - £30,772.72 - £33,926.93

Oriau Gwaith – 37 (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg)

Math o Gontract – tymor penodol o 12 mis (gyda'r cyfle i gael secondiad)

Lleoliad – Caerdydd  

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.  

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.  

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi dysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i chi ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm.

Sut byddwch chi’n cyfrannu 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y Tîm Llywodraethu, Pobl a Moeseg. Mae cael sefydliadau sy'n cael eu rhedeg a'u harwain yn dda yn sylfaen allweddol ar gyfer llwyddiant unrhyw sefydliad ac, felly, eu gallu i sicrhau’r cyfraniad gorau posib at y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Rydym eisiau sicrhau bod ein holl waith yn cyfrannu at genedl actif lle mae cymaint o bobl â phosib yn cael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Fel y Swyddog Cefnogi Llywodraethu a Gwydnwch Sector, byddwch yn cefnogi'r Tîm Llywodraethu a Datblygu Pobl drwy, ymhlith gweithgareddau eraill: datblygu a gweithredu Fframwaith Gallu newydd (i'w lansio yn 2025); cydlynu ceisiadau gan bartneriaid am gymorth llywodraethu drwy gysylltu ag ymgynghorwyr ac arbenigwyr pwnc eraill; rheoli risgiau llywodraethu wrth iddynt ddigwydd i'w lliniaru'n effeithlon ac yn effeithiol; a chefnogi'r gwaith 'gwydnwch sector' sy'n cynnwys cyfarfod â phartneriaid i nodi eu hanghenion a'u gofynion cefnogi dilynol.

Bydd y swydd hon yn rhoi cyfle gwych i chi ddatblygu profiad o arwain ar feysydd gwaith sy'n cyfrannu at alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.

Gyda phwy fyddwch chi’n gweithio 

Byddwch yn gweithio gyda rhwydwaith eang o sefydliadau fel ein bod, gyda'n gilydd, yn gallu creu amgylcheddau sy'n hyrwyddo llywodraethu da a gwelliant parhaus. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar lefel uwch gyda phartneriaid strategol allweddol gan gynnwys: Partneriaid Cenedlaethol, Partneriaethau Chwaraeon a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, amrywiaeth o 'Arbenigwyr Pwnc' a llawer mwy.

Yn fewnol, byddwch yn gweithio fel aelod o’r Tîm System Chwaraeon, Llywodraethu, Pobl a Moeseg yn ogystal â gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Chwaraeon Cymru i sicrhau bod materion sy'n ymwneud â llywodraethu da, moeseg ac integriti’n cael eu cefnogi'n llawn.

Yn ogystal, byddwch yn cynrychioli Cymru ar lefel y DU ar faterion sy'n ymwneud â llywodraethu, moeseg ac integriti.

Beth fydd arnoch ei angen 

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth dda o fewn diwylliant sefydliadol cryf a moesegol, ac sy'n cael eu cymell gan chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cyflawni ein Fframwaith Gallu newydd. Efallai nad oes gennych chi lawer o brofiad ym maes Llywodraethu neu Systemau Chwaraeon, ond os ydych chi'n unigolyn sy'n cael ei arwain gan ddysgu gyda sgiliau trosglwyddadwy ac yn awyddus i adeiladu eich gwybodaeth yn y meysydd hyn, mae'r swydd hon yn gyfle datblygu gwych.

Bydd gan yr ymgeiswyr addas y gallu i feithrin perthnasoedd agored a gonest wrth fod yn fodelau rôl cadarn o'n gwerthoedd i sefydliadau allanol. Byddwch hefyd yn gallu cydbwyso baich gwaith gwrthgyferbyniol yn effeithlon, bydd gennych sgiliau cynllunio da a byddwch yn gyfforddus â systemau cyllid.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, er nad yw'n hanfodol.

Os oes gennych chi’r presenoldeb a'r bersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel yn ogystal â'r angerdd a'r dyhead i lwyddo, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Beth sy’n digwydd nesaf 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).   

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

 

Dyddiad cau 

16/06/2025 - 9am

Dyddiad dros dro y cyfweliad 

02/07/2025

 

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Uwch Swyddog Llywodraethu

Pwrpas y Swydd 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol ar draws Cyfarwyddiaeth y System Chwaraeon ac yn benodol o fewn y Tîm Llywodraethu. Byddwch yn cael y cyfle i arwain ar feysydd gwaith a hefyd darparu cefnogaeth ar draws y tîm, a helpu i ddatblygu systemau a gweithdrefnau sy'n cefnogi'r sefydliad a'i bartneriaid i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.

Prif Ddyletswyddau 

Cefnogi'r tîm llywodraethu a datblygu pobl gyda datblygu a gweithredu fframwaith gallu newydd ar gyfer yr holl bartneriaid mae Chwaraeon Cymru yn eu cyllido.

Rheoli a chefnogi risgiau llywodraethu wrth iddynt ddigwydd a chefnogi partneriaid yn rhagweithiol i sicrhau bod modd lliniaru risgiau cyn gynted â phosibl.

Cydlynu ceisiadau partneriaid am gymorth llywodraethu a chysylltu ag ymgynghorwyr, neu arbenigwyr pwnc, i gefnogi partneriaid. Bydd hyn ar draws nifer o bartneriaid a mecanweithiau cefnogi.

Cefnogi'r gwaith 'gwydnwch sector' drwy drefnu cyfarfodydd, cynnal sgyrsiau un i un gyda phartneriaid i nodi anghenion datblygu a chefnogi'r gwaith yn ôl yr angen.

Cefnogi'r prosesau ar gyfer dyfarnu a monitro buddsoddiad a chefnogi'r tîm i sicrhau eu bod yn cael eu dilyn gyda llythyrau cynnig manwl gywir, bod taliadau’n cael eu gwneud, a bod pob gofyniad archwilio yn cael ei fodloni.

Casglu gwybodaeth ariannol gan gynnwys darparu gwybodaeth gyllidebol a chynorthwyo gyda chynllunio ariannol a gwybodaeth reoli ar gyfer pob maes busnes.

Darparu cymorth gweinyddol ar draws y tîm gan gynnwys trefnu a mynychu cyfarfodydd, cymryd nodiadau, cynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau, a threfnu gofynion teithio a llety.

Ysgwyddo cyfrifoldeb am bob anfoneb allanol gan gynnwys taliadau’r contract ymgynghori a’r cysoni misol ar gyfer cerdyn credyd y cwmni.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

Ein Gwerthoedd

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y Person     

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol            

Addysg 

 

Isafswm o 5 TGAU neu gyfatebol gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.  

Profiad

 

Profiad o reoli sawl maes gwaith yn effeithiol.

Wedi gweithio gyda sawl sefydliad neu adran gyda phrofiad o feithrin perthnasoedd hynod effeithiol a'r gallu i gyfathrebu ag uwch randdeiliaid.

Deall y byd chwaraeon yng Nghymru. 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

Sgiliau trefnu a chynllunio eithriadol.

Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarn sydd wedi'u hadeiladu ar ymddiriedaeth a gonestrwydd a’r gallu i wrthsefyll sgyrsiau heriol ac anodd.

Y gallu i weithio dan bwysau, gwneud penderfyniadau a chwrdd â therfynau amser.

Gwybodaeth am Microsoft Word ac Excel.

Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Y gallu i drin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif.

Aelod cadarn a pharod o dîm.

Sgiliau rhifedd a llythrennedd da.

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Gwybodaeth am systemau Cyllid (e.e. IRIS, CCGT a Barclaycard).

Gwybodaeth am weinyddu cyllidebau.

 

Amgylchiadau ArbennigY gallu i weithio’n hyblyg.