Skip to main content

Swyddog Cyfathrebu Digidol – Arweinydd Marchnata Digidol

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Swyddog Cyfathrebu Digidol – Arweinydd Marchnata Digidol

Gallwch wneud cais am rôl y Swyddog Cyfathrebu Digidol nawr. 

Am y swydd wag yma 

Adran a Chyflog

Adran - Cyfathrebu a Digidol.

Cyflog - Graddfa, 6 £29,716.51.

Oriau gwaith - 37.

Pwy ydym ni?

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein gweithlu ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad cynyddol gyda manteision rhagorol i gyflogeion. Rydym yn hybu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg o weithredu i’ch cefnogi chi. Os ydych chi’n dymuno gweithio’n hyblyg, manylwch am hyn ar eich ffurflen gais.

Beth fyddwch yn ei wneud?

Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol ym mherthynas pobl gyda thechnoleg. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru bod 30% o bobl wedi cymryd rhan mewn ymarfer gartref yn ystod y cyfyngiadau symud a bod 66% o’r rhain wedi defnyddio You Tube.

Os ydynt yn hybu chwaraeon neu’n darparu hyfforddiant neu gyfarwyddyd, mae sesiynau ffitrwydd ar-lein neu ymgysylltu â chwsmeriaid, technoleg a datrysiadau ar-lein yn elfen allweddol yn awr o’r sector chwaraeon yng Nghymru.                      

Mae hon yn rôl newydd yn nhîm digidol Chwaraeon Cymru, gan arwain ar farchnata digidol. Bydd gennych gyfrifoldeb am waith sy’n cynnwys

  • Datblygu ein presenoldeb ar y we
  • Dysgu ar-lein
  • Rheoli perthnasoedd cwsmeriaid

Mewn tîm bach ond prysur, bydd eich rôl yn cefnogi ein gwaith yn estyn allan at chwaraeon ar lawr gwlad ac elitaidd, gan chwarae rhan hefyd mewn cefnogi ein partneriaid allweddol. 

Beth fydd arnoch ei angen?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel mewn capasiti proffesiynol yn ogystal â gwybodaeth arbenigol am greu cynnwyswedi’i optimeiddio gan SEO, PPC, marchnata ar e-bost a thracio a dadansoddi metrigau sy’n effeithio ar draffig y wefan. Bydd rhaid i chi fod â 2 flynedd o brofiad mewn rôl cyfathrebu digidol.      

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Gallwch wneud cais am y swydd yma nawr.

Disgrifiad Swydd Llawn.

Am fwy o wybodaeth am y rôl anfonwch e-bost i [javascript protected email address].

Dyddiad Cau

13/05/1979.

Dyddiad Dros Dro y Cyfweliad

20/05/1979.