Main Content CTA Title

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran – Cyfathrebu a Digidol  

Cyflog - Graddfa 5: £30,772.72 - £33,926.93

Oriau Gwaith – 37 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg)

Lleoliad - Caerdydd

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.  

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.    

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.    

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.    

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.    

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.  

Mae Chwaraeon Cymru yn gryf o blaid dysgu a gwelliant parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un o waith, byddwch yn cychwyn ar raglen sefydlu wedi'i theilwra ac yn cael cynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i'ch rhoi chi ar ben ffordd. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant swydd-benodol, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni. 

Sut byddwch chi'n cyfrannu

Mae hwn yn gyfle cyffrous mewn rôl newydd sbon i gael gwir effaith o fewn tîm Cyfathrebu a Digidol prysur yn Chwaraeon Cymru. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau fel gweithiwr cyfathrebu digidol proffesiynol i sicrhau bod sianeli cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Cymru yn arddangos gwerth chwaraeon i fywydau pobl ac yn cyfathrebu negeseuon allweddol i'n cynulleidfaoedd targed. 

Gyda dealltwriaeth gadarn o wahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn cydlynu cynnwys amrywiol sy'n ddifyr ac yn berthnasol, gan ddefnyddio ein cynllun cyfathrebu cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ac arwain eich ffordd o feddwl. 

Byddwch yr un mor gyfforddus yn creu eich cynnwys eich hun ag yr ydych yn gweithio gydag asiantaethau creadigol digidol, a byddwch yn cefnogi gyda mesur effeithiolrwydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol fel ein bod yn parhau i gysylltu'n effeithiol â'n cynulleidfaoedd ar-lein.

Fel aelod ymroddedig o dîm, mae disgwyl i chi hefyd gyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau, gan gefnogi cydweithwyr lle bo angen.

Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio

Byddwch yn aelod pwysig o'n Tîm Cyfathrebu a Digidol. Fel rhan o'n grŵp cynnwys, bydd eich syniadau ar gyfer llunio stori a'ch gallu i weithio gydag eraill yn cael eu gwerthfawrogi. 

Disgwylir i chi fod yn rhagweithiol, gan ffurfio cysylltiadau cadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad fel eich bod yn sicrhau dealltwriaeth gadarn o'r gwahanol agweddau ar waith Chwaraeon Cymru a sut gellir cyfathrebu ein negeseuon allweddol ar gyfryngau cymdeithasol. 

Bydd angen i chi ffurfio a datblygu cysylltiadau da o fewn y sector chwaraeon ehangach, gan gydweithio â'n sefydliadau partner i gynhyrchu cynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd ag amcanion ein partneriaid a'n hamcanion ni ein hunain. 

Byddwch hefyd yn gweithio gydag asiantaethau a chyflenwyr allanol, gan gynhyrchu briffiau prosiect a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau i safon uchel ac o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

Beth fydd arnoch ei angen

Gyda chymwysterau perthnasol a phrofiad o weithio mewn rôl gyfathrebu neu gyfryngau cymdeithasol, byddwch yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa a byddwch yn angerddol am y gwerth y gall gweithgarwch cyfathrebu ei gyfrannu at sefydliad. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â digon o syniadau a all wneud cyfraniad cryf i'n tîm. Dylech fod â phrofiad o gyflwyno strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar ran sefydliad a bod â gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. 

Bydd angen i chi fod yn addas ar gyfer yr her sy'n rhan o fod yn aelod o dîm mewnol bach ond prysur. Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio eich creadigrwydd a'ch sgiliau i wneud byd o wahaniaeth i bobl yng Nghymru.

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl ymanawr.

Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]

Dyddiad cau

30/07/2025 9am

Dyddiad dros dro y cyfweliadau

13/08/2025

 

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Uwch Arweinydd Cyfathrebu

Pwrpas y swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y tîm Cyfathrebu a Digidol. Gan weithio ar y cyd ar draws Chwaraeon Cymru, byddwch yn cyflwyno cynllun cyfathrebu cyfryngau cymdeithasol sy'n arddangos gwerth chwaraeon ac yn cefnogi cyflawni ein strategaeth.

Gan fabwysiadu rôl gydlynu yn natblygiad yr holl allbwn cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau fel gweithiwr cyfathrebu digidol proffesiynol i sicrhau bod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol presennol yn parhau i fod yn berthnasol i'n cynulleidfaoedd targed. Gan weithio ar y cyd â'r tîm cynnwys ehangach, byddwch yn cynhyrchu cynllun cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â chynlluniau cynnwys a chyfathrebu ehangach, gan ddefnyddio'r strategaeth cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ac arwain gwneud penderfyniadau.

Byddwch yn defnyddio dirnadaeth a dadansoddeg fel sail i ffordd o feddwl yn y dyfodol ynghylch cynnwys cymdeithasol a mabwysiadu dull rhagweithiol o weithio ar draws y sefydliad i ddatblygu cynnwys newydd sy'n gysylltiedig â'r strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yr un mor gyfforddus yn creu eich cynnwys eich hun ag yr ydych yn gweithio gydag asiantaeth greadigol ddigidol i droi syniadau cymhleth yn straeon sy'n procio’r meddwl.

Byddwch yn gweithio gyda'r uwch swyddogion cyfathrebu i nodi tueddiadau ar y cyfryngau ac ymateb gyda chynnwys sy'n procio’r meddwl ac yn addysgiadol ar draws ein sianeli cymdeithasol.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn adran Gyfathrebu a Digidol brysur a bydd disgwyl i chi gyfrannu at ystod eang o brosiectau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, gan gefnogi cydweithwyr lle bo angen.

Prif ddyletswyddau

Rheoli cynllun cynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n cefnogi cyflawni strategaeth Chwaraeon Cymru ac yn denu cynulleidfaoedd newydd.

Cefnogi gyda chanfod a rheoli adnoddau i fesur effeithiolrwydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a defnyddio dadansoddeg fel sail i ffordd o feddwl yn y dyfodol.

Gweithio ar draws y sefydliad gan chwilio'n rhagweithiol am syniadau newydd ar gyfer cynnwys a mynd â’r syniadau hynny i'r grŵp cynnwys i'w hystyried ar gyfer cynhyrchu.

Rheoli asiantaethau creadigol ar brosiectau allweddol Chwaraeon Cymru a sicrhau eu bod yn cyflwyno cynnwys cyfryngau cymdeithasol manwl gywir sy'n procio’r meddwl.

Cefnogi cyflwyno ymgyrchoedd a digwyddiadau cyfathrebu, gan gymryd yr awenau lle mae cyfryngau cymdeithasol yn cael eu nodi fel blaenoriaeth.

Gweithio gyda'r tîm Dirnadaeth i drosi dirnadaeth a data cymhleth yn straeon a fydd yn annog pobl i feddwl yn wahanol am chwaraeon a Chwaraeon Cymru.

Cynhyrchu testun a chynnwys arall ar gyfer gwefan Chwaraeon Cymru a phlatfformau digidol eraill yn ôl yr angen.

Nodi cyfleoedd i gydweithredu â sefydliadau ac unigolion drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Monitro a nodi materion sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i enw da a, lle mae angen, gweithio gydag uwch swyddogion cyfathrebu ar ymateb a gweithredu priodol.

Gweithio ar draws y sector gan gynnig cefnogaeth a chyngor i weithwyr cyfathrebu proffesiynol a helpu'r sector i ddeall y rôl bwysig y gall cyfathrebu ei chwarae.

Cysylltu'n agos â chydweithwyr ar draws y sefydliad i nodi a llunio straeon newyddion cadarnhaol ar gyfer ein sianeli digidol ac ymdrin ag ymholiadau'r cyfryngau.

Cymryd rhan mewn rota ar alwad sy'n cynnig cefnogaeth cyfathrebu y tu allan i oriau gwaith.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu patrwm o wasanaeth i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

Ein gwerthoedd

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manlyeb y person

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol            

Addysg 

 

Gradd mewn Cyfathrebu, Marchnata a / neu gymhwyster neu brofiad.

 

 

Profiad

 

Rhywfaint o brofiad mewn rôl Gyfathrebu neu Gyfryngau Cymdeithasol.

 

Profiad o gyflwyno strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar ran sefydliad.

 

Gwybodaeth fanwl am ystod eang o blatfformau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys sut mae rhanddeiliaid targed yn ymgysylltu â nhw a'r ffordd orau i ddefnyddio'r sianeli hynny i gyrraedd y gynulleidfa darged gyda'r neges gywir.

 

Profiad o ffilmio a golygu fideos i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel mewn swyddogaeth broffesiynol.

 

Profiad o weithio gyda a rheoli contractau gydag asiantaethau creadigol i gyflwyno allbwn o ansawdd uchel i amcanion a therfynau amser y cytunwyd arnynt.

 

Profiad o ymdrin ag ymholiadau gan y cyfryngau a chynhyrchu testun ar gyfer straeon cyfryngau/newyddion.

 

Profiad o weithio yn y sector chwaraeon neu'r sector cyhoeddus.

 

Cysylltiadau yn y diwydiant creadigol digidol.

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

Gallu cynllunio ac amserlennu cynnwys ar gyfer sianeli cymdeithasol lluosog yn unol â chynlluniau cyfathrebu ehangach.

 

Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

 

Gallu cynhyrchu cynnwys cryno, difyr a manwl gywir ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

 

Gallu trosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol.

 

Gallu briffio a rheoli cyflenwyr.

 

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif.

 

Gallu trefnu eich gwaith eich hun a chynllunio, amserlennu a blaenoriaethu tasgau yn effeithiol.

 

Gallu defnyddio ystod o systemau CRM.

 

Gallu defnyddio ystod o adnoddau cyfathrebu digidol gan gynnwys facebook, X, LinkedIn, Instagram.

 

Gallu cynhyrchu cynnwys digidol o ansawdd uchel ar gyfer ystod o blatfformau.

 

Gallu trosi data cymhleth yn straeon llawn cymhelliant.

 

Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys gwybodaeth weithredol ragorol am ystod o blatfformau CMS

 

Sgiliau dylanwadu / trafod. 

 

Gallu gweithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.

 

Agwedd hyblyg at oriau gwaith.

 

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

 

Amgylchiadau Arbennig

Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rotas ar alwad.

 

Gallu teithio yn ôl yr angen.

 

Gallu gweithio patrwm shifftiau ar gylchdro / sefydlog.