Main Content CTA Title

Badminton Cymru

Cyfarwyddwyr Bwrdd (X7)

Badminton Cymru yw'r Corff Rheoli Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer Badminton fel camp. Mae Cymuned Badminton Cymru yn cynnwys y Bwrdd Cyfarwyddwyr, Is-bwyllgorau, Tîm Gweithredol a rhwydwaith o glybiau cystadleuol, clybiau cymdeithasol, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau ledled y wlad, sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y gamp, o gyfranogiad ar lawr gwlad i berfformiad.

 

Mae Bwrdd Badminton Cymru yn un o'r rhai mwyaf blaengar a deinamig yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Drwy ymuno â ni, rydych chi'n cynnig eich arbenigedd ac am hynny'n ennill profiad gwerthfawr o weithio o fewn Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol modern.

 

Rydyn ni'n chwilio am dri i saith o unigolion ymroddedig i ddod yn Gyfarwyddwyr am dymor o hyd at dair blynedd.

 

Mae gennym ni dair rôl newydd ar gael:

  • Cyfarwyddwr Cyfreithiol
  • Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm
  • Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu

 

Rydyn ni hefyd yn recriwtio ar gyfer pedwar portffolio presennol:

  • Hyfforddi a Datblygu (De / Gorllewin Cymru)
  • Hyfforddi a Datblygu (Gogledd / Canolbarth Cymru)
  • Perfformiad
  • Digwyddiadau

 

Dyddiad cau- Dydd Llun 7fed Gorffennaf