Main Content CTA Title

Canolfan Tennis a Padel Wrecsam

Ymddiriedolwyr

Mae Canolfan Tennis a Padel Wrecsam yn chwilio am unigolion brwdfrydig i gefnogi’n bwrdd o ymddiriedolwyr profiadol.  Rydym yn arbennig o awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad o  gyfathrebu a marchnata digidol, codi arian, neu adnoddau dynol.

Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol yn gwneud yn siŵr bod y Ganolfan yn cyflawni ei phwrpas craidd.  Maent yn goruchwylio rheolaeth a gweinyddiaeth gyffredinol yr elusen, ac yn sicrhau bod gan y ganolfan strategaeth glir.  Yr un mor bwysig, maent yn cefnogi ac yn herio’r tîm gweithredol i alluogi’r Ganolfan i dyfu a ffynnu, a thrwy hynny, i gefnogi ein cwsmeriaid a’n defnyddwyr yn y ffordd orau bosib.

Dyddiad Cau: 20/07/2025