Main Content CTA Title

Criced Cymru

Swyddog Diogelu

Yn Criced Cymru, mae diogelu yn fwy na chyfrifoldeb, mae’n elfen sylfaenol a chreiddiol o’n sefydliad ac yn flaenoriaeth ddiamod.  Fel un o’r tair colofn sy’n greiddiol i bopeth a wnawn, mae diogelu yn ganolog i’n nod o wireddu ein gweledigaeth o wneud Criced yn Gêm i Bawb.  Mae hyn yn golygu creu amgylchedd lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion deimlo’n ddiogel, a theimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys, lle bynnag a sut bynnag maent yn cymryd rhan mewn criced ledled Cymru.  Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, mae’r Swyddog Diogelu yn arwain gwaith diogelu rhagweithiol ac adweithiol, gan gefnogi rhwydwaith o swyddogion clybiau a chynghreiriau i sicrhau bod yna gydymffurfio â safonau’r ECB a’r CPSU, ac i sicrhau bod arfer da yn rhan annatod o’r gêm trwyddi draw.

Dyddiad Cau: 13 Mehefin 2025