Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Llywodraethu
  4. Arwain Cymru:Fframwaith Llywodraethu a Datblygu Pobl

Arwain Cymru:Fframwaith Llywodraethu a Datblygu Pobl

Mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi arian cyhoeddus i helpu sefydliadau i dyfu a llwyddo i gyflawni'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac yn creu gwir effaith.

Mae Fframwaith Arwain Cymru yn ein helpu ni i wneud y canlynol:  

  • Meithrin hyder yn y sefydliadau rydym yn eu cyllido.
  • Cefnogi partneriaid i wella llywodraethu ac arweinyddiaeth.
  • Annog diwylliannau, ymddygiadau ac integriti cadarn.

Beth yw Arwain Cymru?  

Mae Arwain Cymru yn cyfuno dau fframwaith blaenorol:  

  • Fframwaith Gallu
  • Fframwaith Llywodraethu ac Arweinyddiaeth ar gyfer Cymru (GLFW)

Mae'n adlewyrchu’r canlynol:  

  • Newidiadau mewn cymdeithas.
  • Gwersi o ddigwyddiadau llywodraethu byd-eang.
  • Yr angen am welliant parhaus.

Nid dim ond ticio bocsys yw llywodraethu da. Mae'r fframwaith yma’n adnodd ymarferol a datblygiadol i helpu sefydliadau i gryfhau perfformiad a thyfu.

Beth Mae'n ei Gynnwys?  

  • Mae'r fframwaith yma’n ymgorffori elfennau craidd ac arfer da
  • Elfennau craidd = Safonau gofynnol y mae'n rhaid i bob partner sy’n cael ei gyllido eu bodloni.
  • Arfer da = Enghreifftiau o arloesedd ac arweinyddiaeth i ysbrydoli gwelliant.

Mae gan y fframwaith 5 egwyddor allweddol:  

  1. Cyfreithiol a chydymffurfiaeth sefydliadol
  2. Pobl a diwylliannau
  3. Dirnadaeth, ymgysylltu a strategaeth
  4. Sefydliad sy’n cael ei weithredu yn effeithiol
  5. Cyllid

Sut i ddefnyddio'r Fframwaith?

I gael y gorau o Arwain Cymru, dylai’r partneriaid sy’n cael eu cyllido wneud y canlynol:

1. Adolygu'r Fframwaith                                                                                                                  

Deall y gofynion craidd a'r enghreifftiau o arfer da.

2. Hunanddatgan                                                 

Gwirio eich sefydliad yn erbyn elfennau'r fframwaith.

3. Creu Cynllun Gwella                                                                                                     

Datblygu Cynllun Llywodraethu a Gwella Pobl i gefnogi datblygiad parhaus.

Angen Help?                                                                     

Os oes gennych chi gwestiynau, anfonwch e-bost atom ni ar: governance@sport.wales