Main Content CTA Title

Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA)

  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Partneriaid Cenedlaethol
  4. Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA)

Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA), sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yw'r corff aelodaeth annibynnol ar gyfer y sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Mae’n gweithio ledled y wlad, gan ddarparu llais cyfunol i'r sector a grymuso sefydliadau i fod yn wydnach ac yn fwy llwyddiannus a chynaliadwy.

Mae'n chwarae rhan bwysig mewn chwaraeon a hamdden ym mywyd Cymru drwy eiriolaeth, gwasanaethau arbenigol a chydweithredu ar draws y sector.

Beth yw prif amcanion Cymdeithas Chwaraeon Cymru?

Mae'r WSA wedi ymrwymo i gryfhau'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru, gan ei alluogi i ffynnu nawr ac i'r dyfodol.

Ei nodau yw:

  • Bod yn llais unedig, annibynnol sy'n siapio polisïau a phenderfyniadau
  • Grymuso aelodau drwy hyfforddiant, llywodraethu a chefnogaeth ariannol
  • Cynnig adnoddau ymarferol fel archwiliadau DBS dwyieithog a gwasanaethau caffael
  • Sbarduno arloesedd, cynhwysiant a chynaliadwyedd  

Sut mae gwaith y WSA yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Drwy gefnogi'r seilwaith y tu ôl i chwaraeon a hamdden, mae'r WSA yn helpu i greu sylfaen gref ar gyfer Cenedl Actif. Mae’n cefnogi clybiau a sefydliadau ledled Cymru. Felly, gall mwy o bobl ddal ati i fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon.

Sut gall y WSA gefnogi'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Fel llais cyfunol ar gyfer chwaraeon a hamdden yng Nghymru, mae'r WSA yn cynnig cymorth arbenigol a chyfleoedd partneriaeth sy'n gwella gwaith sefydliadau ar draws y sector.

Mae’n cefnogi partneriaid drwy wneud y canlynol:

  • Eiriol ar ran aelodau gyda Llywodraeth Cymru, gweinidogion a swyddogion polisi
  • Darparu gwasanaethau ar draws y sector, fel y Gwasanaeth Archwilio DBS dwyieithog drwy'r partner CBS, a'r Porth Caffael Chwaraeon a Hamdden drwy 2buy2
  • Cynnig arbenigedd mewn gwydnwch busnes, cydraddoldeb a chynhwysiant, a gweithio sy'n sensitif i'r hinsawdd
  • Cydweithredu â chyrff tebyg ledled y DU i rannu gwybodaeth a sicrhau bod ymdrechion yn cyd-fynd

 

Mae aelodaeth y WSA yn cwmpasu'r wlad, ac mae ei chyrhaeddiad a'i dylanwad yn ymestyn ar draws y gwledydd cartref. Mae’n gweithio ochr yn ochr â chyrff fel y Sport and Recreation Alliance a’r Scottish Sports Association.

Enghreifftiau o waith y WSA

Cysylltwch â Chymdeithas Chwaraeon Cymru

Gwefan: Cymdeithas Chwaraeon Cymru
E-bost: [javascript protected email address]
Cyfathrebu: [javascript protected email address][javascript protected email address]
Twitter: @WelshSportAssoc
LinkedIn: Cymdeithas Chwaraeon Cymru