Mae’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) yn elusen ledled y DU sy'n gweithio ar hyd a lled Cymru i wneud amgylcheddau dŵr yn fwy cynhwysol. Wedi'i lansio yn 2020, sefydlwyd y BSA i fynd i'r afael â'r rhwystrau hirhoedlog y mae cymunedau Duon ac Asiaidd yn eu hwynebu o ran nofio, diogelwch dŵr a chyfranogiad mewn dŵr.
Ers cenedlaethau, mae'r cymunedau yma wedi cael eu heithrio o weithgareddau dŵr, gan arwain at risgiau uwch o foddi a lefelau is o hyder. Mae'r BSA yn mynd i'r afael â hyn drwy gynnig addysg, ymchwil a rhaglenni cynhwysol ymwybodol yn ddiwylliannol sy'n grymuso unigolion i gymryd rhan yn ddiogel ac yn hyderus mewn gweithgareddau dŵr.
Beth yw prif amcanion y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon?
Nod y BSA yw sicrhau bod pawb, dim ots beth yw eu cefndir, yn gallu mwynhau'r manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol o fod yn y dŵr ac o'i gwmpas. Eu ffocws yw:
- Lleihau cyfraddau boddi ymhlith cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli
- Cynyddu cyfranogiad a chynrychiolaeth mewn nofio ac arweinyddiaeth dŵr
- Creu llefydd dyfrol diogel a chroesawgar drwy ymgysylltu sy'n sensitif yn ddiwylliannol
Maen nhw’n cyflawni hyn drwy ddau ddull allweddol: tîm Rhaglen a Chyflenwi sy'n gweithio gyda’r gymuned, a thîm Ymchwil a Dirnadaeth sy'n casglu ac yn rhannu data i ddylanwadu ar newid ar lefel systemig.
Sut mae gwaith y BSA yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?
Yng Nghymru, mae'r BSA yn cyfrannu at weledigaeth o Genedl Actif drwy weithio gyda rhai o'r grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fwyaf a mwyaf segur. Mae eu rhaglen Together We Can, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn meithrin hyder yn y dŵr ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymhlith unigolion a theuluoedd, gyda llawer ohonyn nhw’n newydd i nofio neu'n dychwelyd at nofio ar ôl profiadau negyddol yn y gorffennol.
Mae'r BSA yn helpu i greu amgylcheddau diogel a chefnogol sy'n gwneud y canlynol:
- Mynd i'r afael ag ofn a stigma o amgylch dŵr
- Meithrin sgiliau tymor hir a hunan-gred
- Cefnogi lles meddyliol a chysylltiad cymunedol
Mae eu model yn cael ei arwain gan y gymuned ac yn hyblyg, gan roi cyfle iddyn nhw gyrraedd pobl mewn ffyrdd ystyrlon. Yn Ne Cymru, mae gwirfoddolwyr lleol wedi cael eu hyfforddi fel athrawon nofio, gydag un bellach yn gwasanaethu ar fwrdd Nofio Cymru gan ddangos sut gall cyfranogiad arwain at arweinyddiaeth a chynrychiolaeth.
Sut gall y BSA gefnogi'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?
Mae'r BSA yn dod ag arbenigedd a phrofiad byw i'r sector chwaraeon ehangach. Maen nhw mewn sefyllfa dda i gefnogi cyrff rheoli cenedlaethol, ymddiriedolaethau hamdden, awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol sydd eisiau gwneud eu darpariaeth o weithgareddau dŵr yn fwy cynhwysol.
Maen nhw’n cefnogi partneriaid drwy wneud y canlynol:
- Cynghori ar ddylunio a chyflwyno rhaglenni cynhwysol, sy'n ymwybodol yn ddiwylliannol
- Hyfforddi a mentora pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i swyddi gweithgareddau dŵr
- Defnyddio ymchwil a data byd real i amlygu ac ymdrin ag anghydraddoldeb mewn gweithgareddau dŵr
- Rhannu adnoddau a chanllawiau ymarferol i wella allgymorth, iaith a chyflwyno
Gyda phresenoldeb cynyddol yng Nghymru a thu hwnt, mae'r BSA yn gydweithredwr dibynadwy, sy'n agored i bartneriaethau sydd â ffocws cymunedol ac yn cael eu harwain gan dystiolaeth.
Esiamplau o waith y BSA
- Rhaglen diogelwch dŵr Together We Can yn Ne Cymru
- Aelod cymunedol wedi’i benodi i fwrdd Nofio Cymru
- Ymchwil genedlaethol i anghydraddoldeb mewn mynediad at ddŵr
Cysylltu â’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon.
Gwefan: The Black Swimming Association
E-bost: [javascript protected email address]
Instagram: @theblackswimmingassociation
LinkedIn: The Black Swimming Association