Main Content CTA Title

Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 - 25

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg sampl ar hap ar raddfa fawr o oedolion (16 oed a hŷn) sy'n byw yng Nghymru. Rheolir yr arolwg gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru. 

Mae'r arolwg wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol am bobl Cymru hyd at lefel awdurdod lleol.

Prif Ganfyddiadau:

Cyflwynir y canfyddiadau allweddol o adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif Arolwg Cenedlaethol Cymru isod. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion, fel cyfrifiadau poblogaeth a daearyddiaeth, ym mhrif adrannau'r adroddiad.

Cyfranogiad:

  • Cymerodd 59% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol [1] yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf.
  • Cymerodd 35% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol Rhif 38). Mae hyn yn is nag yn 2022-23 pan oedd y ganran yn 39%.

Lefel Cyfranogiad [2]:

  • Mae 79% o oedolion sy'n cymryd rhan yn gwneud hynny heb fod yn gystadleuol, er enghraifft ar gyfer iechyd neu hamdden.
  • Cystadlodd 18% ar lefel amatur.
  • Cystadlodd 2% ar lefel broffesiynol neu led-broffesiynol.

Galw:

  • Yn gyffredinol, dywedodd 35% o’r holl oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Nododd 27% o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos diwethaf y byddent yn hoffi cymryd rhan. Mae hyn yn cyfateb i 11% o gyfanswm poblogaeth oedolion Cymru.

Rhesymau a fyddai’n annog cyfranogiad yn y dyfodol:

  • Nid oedd tua thri o bob deg oedolyn (31%) wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf ac nid oedd ganddynt unrhyw alw am wneud hynny.
  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Y tri phrif reswm a fyddai’n annog cyfranogiad yn y dyfodol oedd ‘Pe bawn i’n llai prysur gyda gwaith’ (44%), ‘Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i’ (41%), a ‘Pe bai’n costio llai’ (31%).

Cyfleusterau Chwaraeon:

  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Roedd bron i bedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru (38%) wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol o fewn y 12 mis diwethaf.
  • Roedd 27% o'r rhai nad oeddent wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol wedi bod eisiau gwneud hynny.

Gwirfoddoli mewn chwaraeon:

  • Roedd canran yr oedolion roddodd amser am ddim i helpu gyda gweithgaredd chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, h.y. gwirfoddoli mewn chwaraeon, yn llai nag un o bob deg oedolyn (9%).

Gwylio Chwaraeon:

  • Roedd 37% o oedolion wedi mynychu un digwyddiad chwaraeon o leiaf fel gwylwyr yn ystod y 12 mis diwethaf.

Agweddau tuag at Weithgarwch Corfforol:

  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Roedd 85% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr gyda 'Mae gen i’r cyfle i fod yn actif yn gorfforol' ac 'Mae gen i'r hyder i fod yn actif yn gorfforol' ac yn yr un modd, roedd 84% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â'r datganiad 'Rydw i'n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus'.

Bydd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'r canfyddiadau manwl o'r adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y fethodoleg, edrychwch ar y dudalen Cyflwyniad.

Troednodiadau

  • [1] - Ar gyfer yr adroddiad hwn, mae'r term “Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol” yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sydd wedi'u rhestru yn Atodiad A1. Gall oedolion gymryd rhan mewn dim un, un, neu fwy nag un o'r gweithgareddau sydd wedi'u rhestru yn y diffiniad hwn.
  • [2] - Ni ofynnwyd y cwestiwn hwn, ynglŷn â lefel cyfranogiad, i bawb a gymerodd ran. Yn fwy penodol, ni ofynnwyd y cwestiwn i'r rhai a gymerodd ran mewn un o'r canlynol yn unig: Ymarfer corff gartref, neu fel rhan o ddosbarth ar-lein / Mynd i ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff wyneb yn wyneb, er enghraifft dosbarth ioga, pêl tegell neu sbin / Mynd i'r gampfa, ond nid ar gyfer dosbarth ffitrwydd / Dosbarthiadau dawns / Beicio / Cerdded mwy na 2 filltir / Aerobics dŵr / Tynnu rhaff / Tai Chi / Achub bywyd neu achub bywyd syrff.