Main Content CTA Title

2. Cenedl Actif: Pa mor actif yw oedolion?

Y weledigaeth yw creu cenedl actif, gyda chymaint o bobl â phosibl yn cael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol gan oedolion Cymru. Mae'r canlyniadau'n helpu i archwilio’r cynnydd tuag at Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

2.1 Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae poblogaeth Cymru tua 3.19 miliwn o bobl [1], ac mae 2.49 miliwn ohonynt wedi'u diffinio fel oedolion (y rhai 16+ oed at ddiben yr adroddiad hwn) ac wedi'u cynrychioli yn ACC 2024-25 [2].

Cymerodd bron i chwech o bob deg oedolyn ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sy'n cynrychioli 59% o'r holl oedolion (1,449,000 o oedolion).

Gellir categoreiddio chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn grwpiau eang. Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio tri grŵp eang: 'Gweithgareddau Ffitrwydd', 'Chwaraeon a Gemau' a 'Gweithgareddau Awyr Agored'.

  • Mae gweithgareddau ‘ffitrwydd’ yn cynnwys rhedeg / loncian, beicio, nofio, mynd i’r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, dosbarthiadau dawns, cerdded mwy na 2 filltir, ac ymarferion gartref.
  • Mae ‘chwaraeon a gemau’ yn cynnwys Chwaraeon Tîm, Chwaraeon Raced, Golff, Athletau, Bowlio, Gemau Dan Do a Chwaraeon Ymladd.
  • Mae ‘gweithgareddau awyr agored’ yn cynnwys chwaraeon Mynydd (e.e. dringo neu sgïo), Chwaraeon Modur, Pysgota neu enweirio, Marchogaeth Ceffylau, Sglefrio neu sglefrfyrddio, a Chwaraeon Dŵr (e.e. caiacio, syrffio, hwylio).

Cymerodd 56% o oedolion (1,366,000 o oedolion) ran mewn ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd bron i un o bob pump o oedolion (19%) ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ (477,000 o oedolion), a chymerodd 6% ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos flaenorol (143,000 o oedolion). 

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf yn debyg i 2022-23 (56% a 6% yn y drefn honno). Fodd bynnag, roedd canran yr oedolion oedd wedi cymryd rhan mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ wedi cynyddu ychydig. Yn 2024-25 roedd yn 19% ac roedd yn 16% yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i 65,000 yn fwy o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ unwaith o leiaf yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

2.2 Amledd Cyfranogiad Cenedlaethol

Yn ystod 2024-25, cymerodd ychydig dros draean o oedolion (35%) ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae hyn yn cyfateb i 868,000 o oedolion. Roedd 1,586,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mor aml, gyda’r rhan fwyaf yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos (fel y dangosir yng Ngraff 2.1).

Graff 2.1: Amledd Cenedlaethol Cyfranogiad Oedolion 

Siart bar gyda 4 bar yn dangos % yn ôl amledd cyfranogiad. O'r chwith i'r dde mae'r siart yn dangos: Llai nag unwaith yr wythnos 48% (1,167,000), unwaith yr wythnos 10% (244,000), dwywaith yr wythnos 7% (175,000), a 3 gwaith yr wythnos neu fwy 35% (868,000).

Mae canran yr oedolion a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos bedwar pwynt canran yn is nag yr oedd yn 2022-23. Mae hyn yn golygu bod 118,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25 o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mae Tabl 2.1 yn dangos bod canfyddiadau amledd cyffredinol y cyfranogiad ar gyfer Cymru yn cael eu gyrru gan gyfranogiad rheolaidd mewn 'Gweithgareddau Ffitrwydd'. Cymerodd canran uwch o oedolion ran mewn 'Gweithgareddau Ffitrwydd', ac fe wnaethant hynny'n amlach o gymharu â 'Chwaraeon a Gemau' neu 'Gweithgareddau Awyr Agored'.

Tabl 2.1: Amledd cyfranogiad yn ôl grwpiau gweithgarwch eang:

 Llai nag unwaith yr wythnosUnwaith yr wythnosDwywaith yr wythnosTair gwaith neu fwy yr wythnos
Gweithgareddau Ffitrwydd51%10%7%32%
Chwaraeon a Gemau88%6%4%3%
Gweithgareddau Awyr Agored98%1%<1%1%
Cymru yn Gyffredinol48%10%7%35%

Cymerodd ychydig llai na thraean o oedolion (32%) ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ystod 2024-25. Mae hyn yn cyfateb i 787,000 o oedolion. Cymerodd canran lawer is o oedolion ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ dair gwaith neu fwy yr wythnos (3%), sy’n cynrychioli 66,000 o oedolion. Yn is eto oedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ eraill dair gwaith neu fwy yr wythnos (1%; 16,000 o oedolion). Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos y rôl allweddol y mae ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ yn ei chwarae wrth gadw oedolion yn actif yn rheolaidd.

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ dair gwaith neu fwy yr wythnos yn unol â 2022-23, fodd bynnag, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi gostwng. Yn 2024-25 roedd yn 32% ac roedd yn 36% yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i 133,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau 'Ffitrwydd' dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mae dadansoddiad pellach yn dangos bod y dirywiad yn cael ei yrru'n bennaf gan lai o oedolion yn cerdded mwy na dwy filltir. Yn 2024-25, nododd 38% o oedolion eu bod wedi cerdded mwy na dwy filltir yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf (edrychwch ar Adran 6), o gymharu â 41% o oedolion yn 2022-23. Yn ogystal, gwnaeth oedolion a gymerodd ran yn y gweithgaredd hwn hynny'n llai aml dros y cyfnod o bedair wythnos, gyda gostyngiad yn y rhai a oedd yn cerdded sawl gwaith yr wythnos.

2.3 Lefel y Cyfranogiad

Gofynnwyd i'r rhai a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol [3] yn 2024-25 asesu'r lefel uchaf roeddent wedi cymryd rhan ynddi o ran cystadlu. Roedd hyn yn amrywio o'r rhai oedd yn cael eu talu i gystadlu'n broffesiynol i'r rhai a gymerodd ran mewn gweithgareddau heb fod yn gystadleuol yn unig, fel ar gyfer iechyd neu hamdden (Tabl 2.2).

Tabl 2.2: Lefel y cyfranogiad 

Lefel y cyfranogiad [4]Canran yr OedolionNifer yr Oedolion
Cystadlu’n broffesiynol / lled-broffesiynol2%14,000
Cystadlu mewn chwaraeon amatur18%152,000
Cymryd rhan heb gystadlu 79%658,000

Fel y dangosir yn Nhabl 2.2, roedd y rhan fwyaf o'r oedolion a gymerodd ran wedi gwneud hynny mewn gweithgarwch heb fod yn gystadleuol (79%; 658,000 o oedolion), ac felly roeddent wedi cymryd rhan am resymau eraill fel iechyd a / neu hamdden[5]. Cystadlodd tua 18% ar lefel amatur (152,000 o oedolion) a chystadlodd 2% ar lefel broffesiynol neu led-broffesiynol (14,000 o oedolion).

Cymerodd canran is o fenywod ran yn gystadleuol (naill ai'n broffesiynol / lled-broffesiynol / neu fel amatur) o gymharu â gwrywod (13% a 24% yn y drefn honno). Yn ogystal, ac er gwaetha’r ffaith bod ychydig mwy o fenywod na gwrywod yn byw yng Nghymru[6], dim ond 46,000 o fenywod a gystadlodd tra bo nifer y gwrywod a oedd wedi cystadlu yn 116,000.

Nid yw'r anghydraddoldebau hyn mewn cyfranogiad wedi'u cyfyngu i gymryd rhan yn gystadleuol neu i wrywod a benywod yn unig. Bydd hyn yn cael ei amlygu yn yr adran nesaf.

Troednodiadau

  1. Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2024 yn LLYW.CYMRU
  2. Mae’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2024 yn awgrymu 2.64 miliwn o oedolion, fodd bynnag, nid oedd pob oedolyn 16 oed a hŷn yn rhan o fframwaith y sampl ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru. Edrychwch ar adroddiad technegol Llywodraeth Cymru.
  3. Nid yw'n cynnwys gweithgareddau nad ydynt yn gystadleuol (e.e. Cerdded am 2 filltir, Ymarfer corff o gartref ac ati). Gofynnwyd y cwestiwn hwn i 58% o oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon (h.y. 835,000 allan o 1,449,000 a gymerodd ran).
  4. Sylwch: Nododd 1% o ymatebwyr a gymerodd ran nad oeddent yn gwybod 
  5. Mae'n bwysig nodi na ofynnwyd y cwestiwn hwn i 42% o'r rhai a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch, oherwydd natur heb fod yn gystadleuol y gweithgareddau y gwnaethant gymryd rhan ynddynt. Yn ei dro, gallai'r ganran wirioneddol sy'n cymryd rhan heb fod yn gystadleuol fod mor uchel ag 88% pe bai'r 614,000 o oedolion ychwanegol hyn yn cael eu hystyried.
  6. Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (2024): Benywod: 1,625,100 (51%); Gwrywod: 1,561,480 (49%)