Cefndir Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2024-2025. Mae’r canlyniadau’n seiliedig yn bennaf ar gyfweliadau dros y ffôn a holiaduron ar-lein hefyd.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg sampl ar hap ar raddfa fawr o oedolion (16 oed a hŷn) o bob cwr o Gymru. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon ar raddfa fawr cyrff cyhoeddus wedi cael eu casglu at ei gilydd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw.
Gan ddechrau yn 2016, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn gyfrifol am y cwestiynau am gyfranogiad a galw am chwaraeon sydd wedi’u hymgorffori yn ACC. Cyfeirir at y cwestiynau hyn bellach fel adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yr arolwg ac maent yn ffocws yr adroddiad hwn.
Mae ACC yn arolwg blynyddol. Cesglir data yn barhaus drwy gydol y flwyddyn, o fis Ebrill i'r mis Mawrth canlynol.
Ers 2021, mae'r arolwg wedi mabwysiadu cynllun ffôn-yn-gyntaf o weithredu, sy'n golygu bod y cwestiynau'n cael eu gofyn dros y ffôn yn bennaf yn hytrach na wyneb yn wyneb (ac o ganlyniad maent yn cael eu gweinyddu heb ddefnyddio cardiau dangos). Bydd yr arolygon yn y dyfodol yn cael eu gweinyddu fel holiaduron ar-lein.
Mae ymatebwyr yr arolwg yn cael eu samplu a'u pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua 2.5 miliwn o oedolion (16+).
Mae prif ganfyddiadau pennaf a gwybodaeth gefndir bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
- Yn 2024-25, cymerodd tua 6,000 o oedolion (16+ oed) ledled Cymru ran yn yr arolwg. Mae hyn yn sylweddol is nag yn ystod blynyddoedd blaenorol yr arolwg.
- Defnyddir pwysau'r arolwg i ddod â'r sampl yn nes at y boblogaeth o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau a gynhaliwyd yn ystod pob chwarter. Mae'r pwysau'n lleihau effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o gymharu â blynyddoedd blaenorol a gyda'r boblogaeth gyffredinol.
- Bob blwyddyn, cyflwynir adran "Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif" yr arolwg ac mae'n edrych ar gyfranogiad a galw mewn "Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol". Cynhwysir pynciau ychwanegol bob hyn a hyn hefyd. Yn 2024-25 roedd y rhain yn cynnwys gwirfoddoli a gwylio mewn chwaraeon, cyfleusterau chwaraeon, ac agweddau at fod yn actif. Mae holiadur yr arolwg ar gael ar-lein (Tudalennau 156-181).
- Ar gyfer yr adroddiad hwn, mae'r term "Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cyfeirio at y gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn Atodiad A1. Gall oedolion gymryd rhan mewn dim un, un, neu fwy nag un o'r gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn y diffiniad hwn.
- Er mwyn casglu ffigurau “Cyfranogiad”, gofynnir i ymatebwyr am eu hymddygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol o fewn y “…pedair wythnos flaenorol”, gan fod hyn yn rhoi syniad o ymddygiad nodweddiadol yr unigolyn hwnnw.
- Drwy gydol yr adroddiad, mae “Amledd cyfranogiad” yn cyfeirio at gyfanswm yr achlysuron y cymerodd oedolyn ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, ar sail cyfartaledd i ddarparu amcangyfrif o gyfranogiad wythnosol.
- Mae gwaith maes yr arolwg yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn sy'n sicrhau, yn gyffredinol, bod yr ymatebion blynyddol yn ystyried amrywiadau tymhorol mewn lefelau gweithgarwch.
- Mae crynhoi’r cwestiynau amledd cyfranogiad ar gyfer pob gweithgaredd o fewn yr adran “Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif” yn yr arolwg yn ein galluogi i adrodd ar “Canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos”. Dyma Ddangosydd Cenedlaethol (Rhif 38) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dehongli'r Data:
- Mae pob adran o'r adroddiad yn darparu ystadegau disgrifiadol o adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif ACC 2024-25.
- Mae cymariaethau'n bosibl rhwng ACC 2024-25 a'r ddau arolwg cenedlaethol blaenorol (ACC 2021-22 ac ACC 2022-23). Mae'r adroddiadau hyn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru. Nodyn: dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol oherwydd y cyfraddau ymateb is a gafwyd yn 2024-25 [1] .
- Yn y gorffennol bu bylchau yn y data tueddiadau rhwng yr arolwg Oedolion Actif ac ACC 2016-17, a rhwng ACC 2019-20 a 2021-22.
- Mae gwahaniaethau rhwng grwpiau poblogaeth, ac mewn newid dros amser, wedi'u hamlygu pryd bynnag y mae newid ystadegol arwyddocaol [2] .
- Mae data coll (er enghraifft, ymateb ‘gwrthod’ neu ‘ddim yn gwybod’) yn cael eu heithrio o’r canlyniadau gan fwyaf. Weithiau gall hyn achosi mân wahaniaethau bach yng nghyfansymiau’r tablau. Enghraifft arall o ble gallai hyn ddigwydd yw pan ofynnir cwestiwn penodol i is-sampl gynrychioliadol o’r arolwg. Bydd y canrannau a’r cyfansymiau’n seiliedig ar yr is-sampl hwn.
- Mae’r canrannau’n cael eu talgrynnu i’r ganran agosaf, ac mae’r ffigurau poblogaeth yn cael eu talgrynnu i’r mil agosaf.
Strwythur yr Adroddiad
Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro yn adrannau sy'n gysylltiedig â'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Yr adrannau hyn yw:
- Cenedl Actif: adran sy'n cynnwys y brif wybodaeth am ymddygiadau cymryd rhan.
- Pawb: adran sy'n archwilio ymddygiadau cymryd rhan gwahanol fathau o oedolion yng Nghymru.
- Gydol Oes: adran sy'n canolbwyntio ar wahaniaethau yn ôl grwpiau oedran y boblogaeth a ffactorau ffordd o fyw eraill.
- Mwynhad: mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y galw i wneud mwy o chwaraeon ledled Cymru a faint o'r galw hwn sy'n cael ei fodloni.
Troednodiadau
- Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau - Stephanie Howarth i Ed Humpherson: Cais Arolwg Cenedlaethol Cymru am ohirio statws Ystadegau Swyddogol Achrededig
- Lle mae testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng dau ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw’r cyfyngau hyder (sy’n cael eu galw weithiau yn “lwfans gwallau”) ar gyfer y ddau ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol, h.y. bod llai na 5% neu 1 mewn 20 siawns bod y canlyniadau oherwydd rhyw fath o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Lle nad oes unrhyw wahaniaeth wedi’i nodi, mae’r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd