4. Gydol Oes: Sut mae oedolion yn ymgysylltu â chwaraeon drwy gydol eu bywyd?
Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd.
Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl oedran, ochr yn ochr â phynciau ychwanegol sy'n dangos sut mae pobl yn cymryd rhan ac yn rhyngweithio â chwaraeon yn ystod gwahanol gyfnodau yn eu bywyd.
4.1 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran.
Fel yr arolygon blaenorol (ACC 2021-22 a 2022-23) yn 2024-25, mae canran yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn tueddu i ostwng wrth i grŵp oedran ymatebwyr yr arolwg gynyddu. Dangosir hyn yng Ngraff 4.1.
Graff 4.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran.
Mae Graff 4.1 yn dangos canran yr oedolion ym mhob grŵp oedran a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2024-25.
Cymerodd canran uwch o oedolion o fewn y grwpiau oedran 16-24 oed, 25-34 oed, 35-44 oed, a 45-54 oed ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (59%) a grwpiau oedran hŷn. I'r gwrthwyneb, cymerodd canran is o oedolion ran ymhlith y rhai 55-64 oed, 65-74 oed, a 75+ oed o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac â grwpiau oedran iau. Canfuwyd tuedd debyg hefyd yn 2021-22 a 2022-23.
Mae Tabl 4.1 yn dangos nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2024-25 ochr yn ochr â chanrannau.
Tabl 4.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran
Grŵp Oedran
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
16-24
76%
167,000
25-34
75%
280,000
35-44
72%
270,000
45-54
67%
255,000
55-64
54%
232,000
65-74
48%
171,000
75+
23%
74,000
Cyfanswm Cymru
59%
1,449,000
4.2 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran
Wrth archwilio hyn yn fanylach, gwelwyd fod canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn aml (h.y. dair gwaith neu fwy yr wythnos) hefyd wedi gostwng wrth i oedran yr ymatebwyr gynyddu (Graff 4.2).
Graff 4.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran
Mae Graff 4.2 yn edrych ar y gwahaniaethau yn ôl grŵp oedran ar gyfer y rhai a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos.
Cymerodd canran uwch o oedolion 16-24 oed, 25-34 oed, a 35-44 oed ran dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (35%), ac o gymharu â grwpiau oedran hŷn. I'r gwrthwyneb, cymerodd canran is o oedolion ran dair gwaith neu fwy yr wythnos ymhlith y rhai 65-74 oed, a 75+ oed o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac o gymharu â grwpiau oedran iau. Oedolion rhwng 55 a 64 oed gymerodd ran agosaf at y cyfartaledd cenedlaethol.
Mae Tabl 4.2 yn dangos nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25 ochr yn ochr â'r canrannau hyn.
Tabl 4.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran
Grŵp Oedran
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
16-24
52%
114,000
25-34
45%
167,000
35-44
42%
158,000
45-54
39%
149,000
55-64
33%
141,000
65-74
28%
99,000
75+
12%
40,000
Cyfanswm Cymru
35%
868,000
Mae canfyddiadau Adrannau 4.1 a 4.2 yn awgrymu, wrth i oedolion symud drwy wahanol gyfnodau yn eu bywyd, bod lefel eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn tueddu i ostwng. Mae'r adran nesaf yn edrych ar rai o'r ffactorau a allai gyfrannu at y gostyngiad hwn. Bydd hefyd yn dangos rhai o'r gwahanol ffyrdd y mae oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu hwnt i gyfranogiad.
4.3 Rhesymau sy'n annog cyfranogiad yn y dyfodol
Gofynnwyd i oedolion [1] beth fyddai'n eu hannog i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gallai oedolion awgrymu sawl rheswm a fyddai'n eu hannog i fod yn fwy actif. Awgrymodd 31% un rheswm, awgrymodd 33% ddau neu dri rheswm, a nododd 36% fwy na thri rheswm a fyddai'n eu hannog i wneud mwy o chwaraeon. Dangosir y canlyniadau manwl ar gyfer 2024-25 yng Ngraff 4.3.
Graff 4.3: Rhesymau sy'n annog cyfranogiad yn y dyfodol [2]
Yn 2024-25 y rheswm a grybwyllwyd amlaf oedd ‘Pe bawn i’n llai prysur gyda gwaith’ (44%). Roedd y ganran a grybwyllodd ‘Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i’ yn uchel hefyd (41%). Roedd ‘Pe bai’n costio llai’ yn un o’r tri phrif reswm hefyd. Dangosir dadansoddiad llawn yn Nhabl 4.3.
Tabl 4.3: Rhesymau sy’n annog cyfranogiad yn y dyfodol
Rheswm
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Pe bawn i'n llai prysur gyda gwaith
44%
377,000
Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i
41%
353,000
Pe bai'n costio llai
36%
307,000
Pe bawn i'n teimlo mwy o gymhelliant
35%
298,000
Pe bawn i'n gallu mynd gyda rhywun arall
30%
262,000
Pe bawn i'n teimlo'n fwy heini
28%
240,000
Pe bai gen i lai o ymrwymiadau teuluol neu ofalu
26%
227,000
Pe bai'n haws teithio i glybiau / cyfleusterau / grwpiau
24%
211,000
Pe bawn i'n teimlo'n fwy hyderus yn gwneud chwaraeon
19%
165,000
Pe bai cyfleusterau, clybiau neu grwpiau a oedd yn diwallu fy anghenion hygyrchedd
15%
131,000
Pe bawn i'n gwybod sut i gymryd rhan
14%
123,000
Arall
6%
47,000
4.4 Cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Cafodd cwestiynau newydd am gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ardal leol [3] a oedd wedi cael eu defnyddio yn ystod y 12 mis diwethaf eu gofyn [4] yn 2024-25.
Canfuwyd bod bron i bedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru (38%) wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 658,000 o bobl. Mae hyn hefyd yn dangos nad oedd y 960,000 o oedolion y gofynnwyd y cwestiwn hwn iddynt wedi defnyddio'r cyfleusterau lleol hyn.
O'r 960,000 o oedolion nad oeddent wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol lleol yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd mwy na chwarter (27%) wedi bod eisiau defnyddio'r cyfleuster.
I edrych ar hyn ymhellach, gofynnwyd i oedolion a oedd wedi defnyddio neu a oedd eisiau defnyddio cyfleusterau lleol yn ystod y 12 mis diwethaf gyfres o ddatganiadau agwedd yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth o gyfleusterau. Cyflwynir y canlyniadau isod.
Dangosir lefel y cytuno â'r datganiad 'Rydw i'n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen' yng Ngraff 4.4.
Graff 4.4: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen.’
Mae Graff 4.4 yn dangos bod mwy na hanner y cyfranogwyr yn cytuno’n llwyr â’r datganiad (53%), gyda 33% ychwanegol yn tueddu i gytuno. Roedd canrannau’r rhai oedd ddim yn cytuno nac yn anghytuno i gyd yn llawer is (roedd pob un yn agos at 5% neu is). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.4.
Tabl 4.4: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen’.
‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen’
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
53%
486,000
Tueddu i gytuno
33%
300,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
5%
44,000
Tueddu i anghytuno
5%
45,000
Anghytuno’n llwyr
4%
34,000
Amherthnasol
1%
13,000
Nesaf, dangosir lefel y cytuno â'r datganiad 'Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.' yng Ngraff 4.5.
Graff 4.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’
Mae Graff 4.5 yn dangos bod y farn yn fwy cymysg, gyda thua thraean yn cytuno'n llwyr â'r datganiad (32%), gydag ychydig mwy yn tueddu i gytuno (37%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (8%, 14% ac 8% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.5.
Tabl 4.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’
‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
32%
289,000
Tueddu i gytuno
37%
340,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
8%
69,000
Tueddu i anghytuno
14%
125,000
Anghytuno’n llwyr
8%
77,000
Amherthnasol
-
-
Er bod y rhan fwyaf o oedolion yn cytuno â ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol,’ roedd ychydig mwy yn anghytuno â’r datganiad hwn (Graff 4.5) o gymharu â’r datganiad blaenorol (edrychwch ar Graff 4.4), sy’n golygu bod rhywfaint o anghysondeb o ran bod digon o gyfleusterau ar gael a gallu cyrraedd y cyfleusterau oedd eu hangen i fod yn actif.
Un rheswm efallai dros y gwahaniaeth yw oherwydd hepgor ‘ardal leol’ yn y datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen.’ ac o ganlyniad gallai ddangos bod rhai’n teithio y tu hwnt i’w hardal leol i gael mynediad at y cyfleusterau sydd arnynt eu hangen os nad oes digon yn eu hardal leol.
Nesaf roedd asesiad o lefel y cytuno â’r datganiad ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’ (Graff 4.6).
Graff 4.6: Cytuno â’r datganiad: ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’
Mae Graff 4.6 yn dangos bod tua chwarter yn cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn (26%), gyda mwy yn tueddu i gytuno (39%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (16%, 10% a 6% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.6.
Tabl 4.6: Cytuno â’r datganiad ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’
‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
26%
230,000
Tueddu i gytuno
39%
350,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
16%
142,000
Tueddu i anghytuno
10%
85,000
Anghytuno’n llwyr
6%
49,000
Amherthnasol
3%
30,000
Yn olaf, dangosir lefel y cytuno â’r datganiad ‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’ yng Ngraff 4.7.
Graff 4.7: Cytuno â’r datganiad: Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.
Mae Graff 4.7 yn dangos bod ychydig dros draean yn cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn (35%), gyda lefelau tebyg yn tueddu i gytuno (36%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (12%, 10% a 4% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.7.
Tabl 4.7: Cytuno â’r datganiad ‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’
‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
35%
312,000
Tueddu i gytuno
36%
326,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
12%
107,000
Tueddu i anghytuno
10%
91,000
Anghytuno’n llwyr
4%
35,000
Amherthnasol
3%
30,000
Roedd y patrymau a ddangoswyd yn y canlyniadau ar gyfer datganiadau am ansawdd (Graff 4.6) a fforddiadwyedd (Graff 4.7) yn debyg yn fras, gyda theimlad ychydig yn fwy cadarnhaol tuag at fforddiadwyedd, gan awgrymu nad yw ansawdd a fforddiadwyedd yn gysylltiedig o reidrwydd mewn ffordd syml (h.y. mae cyfleusterau o ansawdd gwell yn llai fforddiadwy).
Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o oedolion sy'n defnyddio cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gallu cyrraedd y rhai sydd arnynt eu hangen. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf yn meddwl bod digon yn eu hardaloedd lleol a bod y rhai sydd ar gael yn cael eu hystyried o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy. Fodd bynnag, ni ddylai hyn guddio'r ffaith nad yw'r rhan fwyaf o oedolion yn cymryd rhan yn aml, nad oes ganddynt alw am wneud mwy, ac nad oeddent wedi defnyddio, neu'n wir eisiau defnyddio, cyfleusterau chwaraeon lleol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Serch hynny, gellir ystyried y canfyddiadau hyn ochr yn ochr ag Adran 4.3 lle canfuwyd y byddai 41% yn cymryd mwy o ran pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn eu hardal leol, byddai 24% yn cymryd mwy o ran pe bai'n haws teithio i glybiau / cyfleusterau / grwpiau a byddai 15% yn gallu gwneud mwy pe bai cyfleusterau, clybiau neu grwpiau a oedd yn diwallu eu hanghenion hygyrchedd.
Yn ogystal, dylid nodi mai ‘pe bai’n costio llai’ oedd un o’r tri phrif reswm a fyddai’n annog oedolion i wneud mwy, a grybwyllwyd gan 307,000 o oedolion, ond dim ond 126,000 o oedolion oedd yn anghytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy.
Mae’r adrannau nesaf yn disgrifio mwy o ffyrdd y gall oedolion fod yn actif drwy chwaraeon.
4.5 Gwirfoddoli mewn chwaraeon
Rhoddodd ychydig llai nag un o bob deg oedolyn (9%) eu hamser am ddim i helpu gyda gweithgaredd chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 213,000 o oedolion a oedd wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon.
Tabl 4.8: Gwirfoddoli mewn Chwaraeon
Gwirfoddoli cysylltiedig â chwaraeon (yn ystod y 12 mis diwethaf)
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Gwirfoddoli mewn chwaraeon
9%
213,000
Heb wirfoddoli mewn chwaraeon
91%
2,241,000
Mae canran yr oedolion a oedd wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn 2024-25 yn unol â chanfyddiadau 2019-20 a 2016-17 (pan ganfuwyd bod gwirfoddoli mewn chwaraeon yn 10%).
I roi lefel y gwirfoddoli mewn chwaraeon mewn cyd-destun, rydym hefyd yn gwybod bod tua thraean (32%) o oedolion Cymru yn wirfoddolwyr, yn gyffredinol, yn 2024-25 (725,000 o bobl). Mae'r oedolion hyn yn gwirfoddoli mewn amrywiaeth eang o ffyrdd ac ni fydd pob gwirfoddolwr yn cefnogi chwaraeon. Fodd bynnag, o blith y rhai sy'n gwirfoddoli, gwirfoddoli i glwb chwaraeon oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o weithgarwch gwirfoddoli, yn ail i wirfoddoli i sefydliad elusennol.
Dim ond un o'r lleoliadau lle gwirfoddolodd oedolion mewn chwaraeon yw gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon. Gwirfoddolodd y rhan fwyaf mewn clwb chwaraeon (66%) ond gwirfoddolodd oedolion hefyd mewn ysgol neu grŵp pobl ifanc (18%), ac mewn lleoliadau eraill (20%) yn ystod y 12 mis diwethaf (Tabl 4.9).
Tabl 4.9: Gwirfoddoli mewn Chwaraeon
Lleoliadau’r gwirfoddoli mewn chwaraeon
Canran y gwirfoddolwyr(%)
Nifer yr Oedolion
Clwb chwaraeon
66%
142,000
Ysgol neu grŵp pobl ifanc
18%
38,000
Arall
20%
43,000
Dyma nifer o ffyrdd y mae gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yn rhoi eu hamser am ddim yn y lleoliadau hyn. Mae'r nifer o ffyrdd y mae oedolion yn gwirfoddoli mewn chwaraeon i’w gweld yng Ngraff 4.8.
Graff 4.8: Gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ôl math o wirfoddoli
Mae tua hanner y gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yn helpu gydag o leiaf un o'r gweithgareddau hyn (52%). Mae 21% ychwanegol yn gwirfoddoli amser ar gyfer dau o'r gweithgareddau hyn a'r 27% sy'n weddill yn gwirfoddoli mewn tri neu fwy o'r gweithgareddau hyn.
Codi Arian a Hyfforddi yw'r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae oedolion yn gwirfoddoli mewn chwaraeon ac roedd tua 4 o bob 10 o'r rhai a wirfoddolodd mewn chwaraeon wedi darparu amser ar gyfer o leiaf un o'r gweithgareddau hyn yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.10.
Tabl 4.10: Gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ôl math o wirfoddoli
Math o wirfoddoli mewn chwaraeon
Canran y Gwirfoddolwyr(%)
Nifer yr Oedolion
Codi arian
42%
89,000
Hyfforddi
41%
87,000
Cludiant i unigolion nad ydynt yn deulu
29%
61,000
Gweinyddu
27%
58,000
Stiwardio
23%
50,000
Arlwyo
11%
24,000
Dyfarnu
10%
21,000
Arall
11%
23,000
Mae rhai oedolion yn cael eu talu hefyd am eu rôl mewn chwaraeon. Yn benodol mewn perthynas â hyfforddi, mae 2% o'r holl oedolion yn cael eu talu i hyfforddi fel rhan o'u swydd (38,000 o bobl). Yn ogystal, mae gan 82% o'r rhai sy'n gwirfoddoli mewn hyfforddi rôl hyfforddi â thâl hefyd; ac felly maent yn cael eu talu am hyfforddi ond maent hefyd yn rhoi eu hamser am ddim i hyfforddi.
Roedd faint o amser a ddarparwyd ar gyfer gwirfoddoli mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl y gwirfoddolwr ond roedd y rhan fwyaf yn gwirfoddoli'n rheolaidd (Tabl 4.11).
Tabl 4.11: Amledd y gwirfoddoli mewn chwaraeon
Amledd (yn ystod y 12 mis diwethaf)
Canran y Gwirfoddolwyr (%)
Nifer yr Oedolion
Unwaith yr wythnos o leiaf
38%
82,000
Llai nag unwaith yr wythnos ond unwaith y mis o leiaf
26%
56,000
Llai nag unwaith y mis
33%
70,000
Amledd arall
3%
6,000
Darparodd y rhai a wirfoddolodd mewn chwaraeon yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf tua 6 i 7 awr o amser gwirfoddoli.
4.6 Gwylio Chwaraeon
Mae rhai oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon drwy fynd i'w gwylio'n bersonol. Yn 2024-25 roedd ymhell dros draean o oedolion (37%) wedi mynychu o leiaf un digwyddiad chwaraeon fel gwyliwr yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 907,000 o oedolion.
O blith y gwylwyr hynny, roedd rhaniad cymharol gyfartal rhwng y rhai a oedd wedi mynychu unwaith neu ddwywaith yn ystod y 12 mis diwethaf (37%; 343,000), y rhai a fynychodd dair neu bedair gwaith (30%; 272,000 o oedolion) a'r rhai a fynychodd yn amlach (mynychodd 32% unwaith y mis neu'n amlach; 289,000 o oedolion).
Yn ogystal, roedd y mwyafrif helaeth (85%; 778,000 o oedolion) wedi mynychu digwyddiad chwaraeon yng Nghymru. Roedd 127,000 o bobl a oedd wedi mynychu digwyddiadau y tu allan i Gymru yn unig.
Troednodiadau
[1] - Dim ond i'r rhai a gymerodd ran neu a oedd â galw (69% o oedolion; 1,708,000 o oedolion) y gofynnwyd y cwestiwn hwn. O ganlyniad, ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i 31% o’r cyfranogwyr (778,000 o oedolion).
[2] - Dywedodd canran fechan (llai na 5%) o oedolion yn ddigymell eu bod eisoes yn gwneud digon o ymarfer corff / nad oedd ganddynt ddiddordeb / eu bod wedi cael anaf neu'n feichiog ar hyn o bryd / yn teimlo'n rhy hen / â phroblemau iechyd / ddim yn gwybod a heb ddewis rheswm. Mae hyn yn ychwanegol at y rhai a nododd 'arall' fel rheswm.
[3] - Os oedd angen, diffiniwyd ardal leol fel ‘ardal o fewn milltir neu bellter cerdded o 15 i 20 munud i’ch cartref’.
[4] - Gofynnwyd y cwestiwn hwn i’r rhai a gymerodd ran neu a oedd â galw (69% o oedolion; 1,708,000 o oedolion) yn unig. O ganlyniad, ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i 31% o’r cyfranogwyr (778,000 o oedolion).