5. Mwynhad: Beth sy'n cymell oedolion i fod yn actif?
Mae'r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y 'Galw' a'r 'Galw Heb ei Fodloni' am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru. Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu lle mae gan weithgareddau'r potensial i dyfu ac, yn eu tro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.
5.1 Galw Cenedlaethol
Mae oedolion sydd â ‘galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Ychydig dros draean o oedolion (35%) a nododd alw i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, sy'n cynrychioli 840,000 o oedolion yn 2024-25.
Mae canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol 7 pwynt canran yn uwch nag yr oedd yn 2022-23. Mae hyn yn golygu bod 155,000 yn fwy o oedolion eisiau gwneud mwy yn 2024-25 o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.
Mae Graff 5.1 yn dangos sut mae'r galw hwn yn amrywio yn ôl grŵp gweithgarwch eang.
Graff 5.1: Canran yr oedolion oedd â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl grŵp gweithgarwch eang
Ar draws y grwpiau gweithgarwch eang, roedd gan 22% o oedolion (545,000) alw am o leiaf un 'Gweithgaredd Ffitrwydd', roedd gan 12% o oedolion (304,000) alw am o leiaf un gweithgaredd 'Chwaraeon a Gemau', ac roedd gan 6% o oedolion (142,000) alw am o leiaf un 'Gweithgaredd Awyr Agored' yn 2024-25.
Canran yr oedolion a oedd eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Awyr Agored' yw'r isaf o'r holl fathau eang o weithgarwch ac mae'n parhau'n agos at y ganran a ganfuwyd yn 2022-23 (5% yn 2022-23). Mae canran yr oedolion oedd eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Ffitrwydd' yn uwch nawr nag yr oedd yn 2022-23 (cynnydd o 6 phwynt canran). Mae hyn yn cyfateb i 142,000 yn fwy o oedolion eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Ffitrwydd' o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl [1]. Yn ogystal, mae canran yr oedolion a oedd eisiau gwneud mwy o weithgareddau ‘Chwaraeon a Gemau’ bellach yn uwch na’r lefel a ganfuwyd yn 2022-23 (cynnydd o 3 phwynt canran). Mae hyn yn cyfateb i 56,000 yn fwy o oedolion sydd eisiau gwneud mwy o weithgareddau ‘Chwaraeon a Gemau’ o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl [2].
5.2 Galw a Daearyddiaeth
Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae’r galw’n amrywio yn ôl gwahanol ddaearyddiaeth yng Nghymru.
Tabl 5.1: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl ardal partneriaeth chwaraeon a dwysedd poblogaeth
Canran yr Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon
Gogledd Cymru
38%
203,000
Canolbarth Cymru
34%
55,000
Gorllewin Cymru
28%
153,000
Canolbarth y De
38%
280,000
Gwent
33%
151,000
Dwysedd Poblogaeth
'Trefol'
34%
558,000
'Gwledig'
35%
282,000
Cyfanswm Cymru
35%
840,000
Roedd canran yr oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth y De yn fwy na chanran yr oedolion â galw yng Nghanolbarth Cymru, Gwent, a Gorllewin Cymru, gyda Gogledd Cymru a Chanolbarth y De â chanran o 38%.
Roedd canran yr oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Ngorllewin Cymru (28%) yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol (35%), tra bo’r galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Canolbarth y De a Gwent yn agosach at y cyfartaledd cenedlaethol.
O gymharu â chanfyddiadau 2022-23, cynyddodd y galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth y De a Gwent. Gwelwyd y cynnydd mwyaf sylweddol yng Nghanolbarth y De a Gwent. Cynyddodd Canolbarth y De 13 pwynt canran, sy'n cyfateb i 91,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a chynyddodd Gwent 12 pwynt canran, sy'n cyfateb i 50,000 yn fwy o oedolion. Cynyddodd Gogledd Cymru 8 pwynt canran hefyd, sy'n cyfateb i 34,000 yn fwy o oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Arhosodd y galw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn agos at y lefelau a adroddwyd yn 2022-23.
Yn ogystal, roedd canran yr oedolion oedd â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd 'Gwledig' (35%) yn unol â chanran yr ardaloedd 'Trefol' (34%). Serch hynny, o gymharu â 2022-23, bu cynnydd yn y galw mewn ardaloedd 'Trefol' a 'Gwledig'.
Cynyddodd y galw mewn ardaloedd 'Trefol' 8 pwynt canran, sy'n cyfateb i 124,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Dangosodd ardaloedd 'gwledig' rywfaint o dwf hefyd, gan gynyddu 6 phwynt canran, sy'n cyfateb i 31,000 o oedolion ychwanegol yn mynegi galw.
Mae Tabl 5.2 yn dangos canran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl cwintelau [3] Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) [4]
Tabl 5.2: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Canran yr Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Cwintel 1(20%mwyaf difreintiedig )
34%
147,000
Cwintel 2
31%
136,000
Cwintel 3
34%
171,000
Cwintel 4
34%
169,000
Cwintel 5 (20%lleiaf difreintiedig )
39%
217,000
Cyfanswm Cymru
35%
840,000
Roedd canran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gymharol debyg ar draws y lefelau amddifadedd. Y gwahaniaeth mwyaf oedd bod gan y rhai yng Nghwintel 5 (lleiaf difreintiedig) fwy o alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol na'r rhai yng Nghwintel 2 [5].
O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghwintel 1 (mwyaf difreintiedig), Cwintel 4 a Chwintel 5 (lleiaf difreintiedig). Mae Cwintel 1 (mwyaf difreintiedig) wedi gweld cynnydd o 9 pwynt canran, sy'n cyfateb i 40,000o oedolion ychwanegol â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn yr un modd, gwelodd Cwintel 4 gynnydd o 6 phwynt canran hefyd, sy'n cyfateb i 14,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Cwintel 5 (lleiaf difreintiedig) welodd y cynnydd mwyaf, sef 12 pwynt canran. Mae hyn yn cyfateb i 66,000 o oedolion ychwanegol yn mynegi galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn 2024-25. Arhosodd y galw yng Nghwintel 2 a Chwintel 3 yn debyg i'r lefelau a adroddwyd yn 2022-23.
5.3 Galw a Nodweddion y Boblogaeth
Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae'r galw’n amrywio yn ôl gwahanol nodweddion poblogaeth.
Graff 5.2: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl grŵp oedran.
Roedd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn is i'r rhai 75+ oed nag i grwpiau oedran eraill.
Yn fwy penodol, roedd y rhai 35-44 oed, 45-54 oed, a 55-64 oed yn fwy tebygol o nodi galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai 65-74 oed a 75+ oed.
O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw yn sylweddol ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran, ac eithrio'r rhai 16-24 oed a 25-34 oed y parhaodd eu lefelau galw yn debyg. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y galw ymhlith y rhai 35-44 oed, gan godi 13 pwynt canran. Yn yr un modd, cynyddodd y galw hefyd ymhlith y rhai 45-54 oed a 55-64 oed; cynyddodd y galw ar gyfer y ddau grŵp oedran 11 pwynt canran. Roedd cynnydd hefyd yn y galw ymhlith oedolion hŷn 65-74 oed (8 pwynt canran) a 75+ oed (6 phwynt canran).
Yn nodedig, er bod y cyfraddau cyfranogiad wedi aros yn sefydlog ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran rhwng 2022-23 a 2024-25, cynyddodd y galw i bawb 35 oed a hŷn, gan ddangos casgliad cynyddol o alw cudd a bwlch sy'n ehangu rhwng cyfranogiad a galw ar gyfer y grŵp oedran hwn o gymharu ag oedolion o dan 35 oed.
Mae Tabl 5.3 yn dangos canran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl nodwedd ddemograffig.
Tabl 5.3: Canran a nifer yr oedolion â galw i wneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion poblogaeth.
Canran yr Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion (%)
Rhyw
Benywod
34%
435,000
Gwrywod
35%
405,000
Ethnigrwydd
Gwyn
(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig )
33%
718,000
Gwyn Arall
(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)
43%
36,000
Unrhyw Grŵp Ethnig arall
(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)
54%
85,000
Cyflyrau iechyd, salwch neu namau
Gyda salwch cyfyngus hirdymor
34%
291,000
Dim salwch cyfyngus hirdymor
35%
538,000
Amddifadedd
Byw mewn amddifadedd materol
44%
120,000
Ddim ynbyw mewn amddifadedd materol
34%
715,000
Yr iaith Gymraeg (FG36)
Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd
37%
97,000
Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd
34%
740,000
Cyfanswm Cymru
35%
840,000
Yn 2024-25, ychydig iawn o wahaniaeth oedd yng nghanran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol rhwng Gwrywod (35%) a Benywod (34%).
Serch hynny, o gymharu â 2022-23, roedd cynnydd o 7 pwynt canran i Wrywod a chynnydd o 8 pwynt canran i Fenywod, sy'n cynrychioli 60,000 yn fwy o wrywod a 95,000 yn fwy o fenywod â galw.
Wrth edrych ar ethnigrwydd, roedd gan y rhai a nododd eu bod yn 'Unrhyw grŵp ethnig arall' ganran uwch o alw (54%) o gymharu â'r rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn' (33%), tra oedd yn 43% ar gyfer y rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn arall'.
Mae’r canlyniadau ar gyfer 2024-25 yn dangos cynnydd o 20 pwynt canran yn y galw ymhlith y rhai a nododd eu bod yn 'Unrhyw grŵp ethnig arall' o gymharu â 2022-23, pan oedd y galw yn 34%. Yn yr un modd, roedd cynnydd o 6 phwynt canran ymhlith y rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn' o gymharu â 2022-23. Nid oedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn arall' unrhyw newid mesuradwy [6] yn lefelau'r galw.
Yn 2024-25, nododd 34% o oedolion sy'n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor alw, o gymharu â 35% o oedolion sy'n byw heb salwch cyfyngus hirdymor [7].
Cynyddodd y galw hefyd rhwng 2022-23 a 2024-25 ymhlith y rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor a'r rhai nad oes ganddynt salwch o’r fath. Roedd cynnydd o 7 pwynt canran ymhlith y rhai â salwch cyfyngus hirdymor (28% yn 2022-23) a chynnydd o 8 pwynt canran ymhlith y rhai heb salwch cyfyngus hirdymor (27% yn 2022-23).
Mae’r canlyniadau ar gyfer 2024-25 yn dangos bod y rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o nodi galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol, gyda'r rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol yn dangos lefel galw o 10 pwynt canran yn uwch na'r rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol.
Yn 2024-25, cynyddodd cyfraddau'r galw o gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2022-23 ar gyfer y ddau grŵp amddifadedd materol. Cynyddodd y galw gan y rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol 11 pwynt canran (o 33% yn 2022-23 i 44% yn 2024-25). Cynyddodd cyfraddau'r galw hefyd, ond o 8 pwynt canran, ymhlith y rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol (o 26% yn 2022-23 i 34% yn 2024-25).
Yn ogystal, roedd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn debyg yn fras rhwng y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd a'r rhai nad ydynt.
O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith y rhai nad ydynt yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd 8 pwynt canran (o 26% yn 2022-23 i 34% yn 2024-25) tra bo’r galw ymhlith y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd wedi aros yn agos at y lefelau a adroddwyd yn 2022-23 (32% yn 2022-23 i 37% yn 2024-25).
5.4 Galw Heb ei Fodloni
At ddibenion yr adroddiad hwn, mae'r rhai sydd â 'Galw Heb ei Fodloni' yn cyfeirio'n benodol at y rhai nad ydynt wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf ond a nododd yr hoffent wneud mwy yn y dyfodol.
Yn 2024-25, dywedodd 11% o oedolion (tua 1 o bob 9) eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o gamp neu weithgaredd corfforol ond nad oeddent wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf, sy'n cynrychioli 273,000 o oedolion â galw heb ei fodloni.
O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw heb ei fodloni 4 pwynt canran (o 7% yn 2022-23 i 11% yn 2024-25), gydag 89,000 yn fwy o oedolion yn nodi galw heb ei fodloni yn 2024-25.
Yn 2024-25, roedd 211,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn unrhyw 'Weithgaredd Ffitrwydd' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Ymhellach, roedd 207,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw 'Chwaraeon a Gemau' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 116,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn unrhyw 'Weithgareddau Awyr Agored' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny.
Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i o leiaf 543,000 o gyfleoedd newydd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion, y byddai angen eu bodloni ar gyfer y 273,000 o oedolion sydd â galw heb ei fodloni.
Tabl 5.4: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl ardaloedd y partneriaethau chwaraeon.
Canran yr Oedolion (%)
Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon
Gogledd Cymru
14%
73,000
Canolbarth Cymru
10%
17,000
Gorllewin Cymru
10%
56,000
Canolbarth y De
9%
69,000
Gwent
13%
58,000
Dwysedd Poblogaeth
'Trefol'
11%
178,000
'Gwledig'
12%
95,000
Cyfanswm Cymru
11%
273,000
Mae canran y galw heb ei fodloni yn debyg ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd y partneriaethau chwaraeon. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng Gogledd Cymru a Chanolbarth y De, lle'r oedd gwahaniaeth o 5 pwynt canran yn y galw heb ei fodloni.
O gymharu â 2022-23, bu newidiadau yng nghanran y galw heb ei fodloni yng Ngogledd Cymru (6 phwynt canran), Canolbarth y De (3 phwynt canran) a Gwent (6 phwynt canran).
Nododd canran debyg o oedolion o ardaloedd 'Gwledig' (12%) ac ardaloedd 'Trefol' (11%) alw heb ei fodloni am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, mae mwy o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd 'Trefol' (178,000 o oedolion) o gymharu ag ardaloedd 'Gwledig' (95,000 o oedolion). Fodd bynnag, mae hyn yn rhannol oherwydd bod mwy o bobl yn byw yn y Gymru 'Drefol' beth bynnag.
O gymharu â 2022-23, cynyddodd canran yr oedolion â galw heb ei fodloni yn yr ardaloedd 'Trefol' o 7% yn 2022-23 i 11% yn 2024-25, ac yn yr ardaloedd 'Gwledig' o 7% yn 2022-23 i 12% yn 2024-25.
5.5 Agweddau at fod yn gorfforol actif [8]
Gofynnwyd i oedolion a oedd wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i gymryd rhan yn amlach am lefel eu cytuno â thri datganiad a oedd yn gysylltiedig â chael y cyfle i fod yn gorfforol actif, bod â’r hyder i fod yn gorfforol actif, a theimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.
Canfuwyd bod lefel y cytuno ar draws y cwestiynau hyn yn debyg, gyda'r rhan fwyaf yn teimlo'n gadarnhaol tuag at y datganiadau hyn. Roedd rhwng 84% ac 85% yn cytuno'n llwyr neu'n tueddu i gytuno â'r datganiadau 'Mae gen i'r cyfle i fod yn gorfforol actif.', 'Mae gen i'r hyder i fod yn gorfforol actif.' ac 'Rydw i'n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.' (sy'n cynrychioli rhwng 1.4 ac 1.5 miliwn o oedolion yng Nghymru).
Dangosir y patrwm cyffredinol ar draws pob datganiad yng Ngraff 5.3, Graff 5.4, a Graff 5.5.
Graff 5.3: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'
Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif (51%, 879,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (34%, 579,000 o oedolion). Roedd 10% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (174,000 o oedolion). Nid oedd 5% yn cytuno nac yn anghytuno (84,000 o oedolion).
Tabl 5.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'
‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
51%
879,000
Tueddu i gytuno
34%
579,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
5%
84,000
Tueddu i anghytuno
7%
118,000
Anghytuno’n llwyr
3%
56,000
Graff 5.4: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’
Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (51%, 868,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (34%, 587,000 o oedolion). Roedd 10% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (166,000 o oedolion). Nid oedd 6% yn cytuno nac yn anghytuno (44,000 o oedolion).
Tabl 5.6: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’
‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
51%
868,000
Tueddu i gytuno
34%
587,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
6%
98,000
Tueddu i anghytuno
7%
122,000
Anghytuno’n llwyr
3%
44,000
Graff 5.5: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'’
Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr eu bod yn teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus (48%, 833,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (36%, 616,000 o oedolion). Roedd 7% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (127,000 o oedolion). Nid oedd 8% yn cytuno nac yn anghytuno (141,000 o oedolion).
Tabl 5.7: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'’
‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'
Canran yr Oedolion(%)
Nifer yr Oedolion
Cytuno’n llwyr
48%
833,000
Tueddu i gytuno
36%
616,000
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
8%
141,000
Tueddu i anghytuno
5%
93,000
Anghytuno’n llwyr
2%
34,000
Mae'n bwysig cofio na ofynnwyd y cwestiynau hyn i oddeutu tri o bob deg oedolyn. Gan mai'r rhain oedd y rhai nad oeddent yn cymryd rhan neu nad oeddent â galw am weithgareddau chwaraeon, mae siawns uchel mai'r rhain yw'r oedolion sydd â llai o gyfle, llai o hyder, ac sy’n llai tebygol o fwynhau bod yn gorfforol actif. Fodd bynnag, byddai angen ymchwil pellach i gadarnhau'r rhagdybiaethau hyn.
Troednodiadau
Wrth archwilio hyn ymhellach, canfuwyd mai prif achos y gwahaniaeth pwynt canran hwn yw cynnydd yn y galw am nofio a mynd i’r gampfa (Adran 6.1)
Mae dadansoddiad pellach yn awgrymu bod y gwahaniaeth hwn yn cael ei sbarduno’n bennaf gan gynnydd yn y galw am bêl-droed o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl (Adran 6.2).
Pum grŵp sy'n cynnwys nifer cyfartal o ardaloedd daearyddol bach wedi'u gosod o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.
Mae gan bob cwintel faint poblogaeth tebyg ynddo, ac felly gellir cymharu canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol heb orfod ystyried y gwahaniaethau poblogaeth rhwng pob cwintel.
[Oherwydd cyfyngau hyder ehangach.
[n fwy cyffredinol, roedd y galw yn 35% (410,000 o oedolion) ar gyfer y rhai â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sydd wedi para neu y mae disgwyl iddo bara am 12 mis (os oedd y cyflwr yn gyfyngus ai peidio) a 35% (419,000 o oedolion) ar gyfer y rhai heb gyflyrau neu salwch.
Nodyn: Dim ond i'r rhai a gymerodd ran neu a oedd â galw (69% o oedolion; 1,708,000 o bobl) y gofynnwyd y cwestiwn hwn. O ganlyniad, ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i 31% (778,000) o bobl.[1]