Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain fel pobl fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau.
Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, yn ôl daearyddiaeth a nodweddion poblogaeth. Mae'r canfyddiadau hyn yn helpu i archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.
3.1 Daearyddiaeth
Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl gwahanol ddaearyddiaeth.
3.1.1 Cyfranogiad yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf yn ôl daearyddiaeth
Mae Tabl 3.1 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon (PCh), ac yn ôl ardaloedd 'Gwledig' a 'Threfol' [1].
Tabl 3.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon, a dwysedd poblogaeth.
| Canran yr Oedolion | Nifer yr Oedolion | ||
|---|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon | Gogledd Cymru | 60% | 322,000 |
| Canolbarth Cymru | 59% | 95,000 | |
| Gorllewin Cymru | 53% | 290,000 | |
| Canolbarth y De | 66% | 494,000 | |
| Gwent | 54% | 248,000 | |
| Dwysedd Poblogaeth | 'Trefol' | 60% | 987,000 |
| 'Gwledig' | 57% | 462,000 | |
| Cyfanswm Cymru | 59% | 1,449,000 | |
Canolbarth y De oedd â'r ganran uchaf o oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (66%), yn cynrychioli 494,000 o oedolion. Roedd gan Ogledd Cymru a Chanolbarth Cymru ganrannau tebyg yn cymryd rhan, sef 60% a 59% yn y drefn honno, sy'n cyfateb i 322,000 o oedolion ar gyfer Gogledd Cymru a 95,000 o oedolion ar gyfer Canolbarth Cymru.
O ran maint y boblogaeth, roedd nifer yr oedolion a gymerodd ran ym mhob PCh arall yn fwy na Chanolbarth Cymru. Am bob cyfranogwr yng Nghanolbarth Cymru, roedd pump o oedolion oedd wedi cymryd rhan yng Nghanolbarth y De. Fodd bynnag, mae hyn yn bennaf oherwydd bod mwy o oedolion yn byw mewn PChau eraill o gymharu â Chanolbarth Cymru.
Gorllewin Cymru (53%) a Gwent (54%) oedd â'r ganran isaf a chanran debyg o oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn cynrychioli 290,000 o oedolion ar gyfer Gorllewin Cymru a 248,000 o oedolion ar gyfer Gwent.
O gymharu â 2022-23, arhosodd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn debyg yn fras ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd y partneriaethau chwaraeon, ac eithrio Gorllewin Cymru lle bu gostyngiad o 7 pwynt canran mewn cyfranogiad o 60% yn 2022-23 i 53% yn 2024-25.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd 'Trefol' tua dwbl nifer yr ardaloedd 'Gwledig', roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd 'Trefol' a 'Gwledig' yn debyg i 2022-23; gyda 60% a 57% yn 2024-25 o gymharu â 60% a 61% yn 2022-23, yn y drefn honno.
Mae Tabl 3.2 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) [2].
Tabl 3.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran yr Oedolion | Nifer yr Oedolion |
|---|---|---|
| Cwintel 1(20% mwyaf difreintiedig) | 54% | 233,000 |
| Cwintel 2 | 54% | 242,000 |
| Cwintel 3 | 60% | 305,000 |
| Cwintel 4 | 59% | 298,000 |
| Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 66% | 370,000 |
| Cyfanswm Cymru | 59% | 1,449,000 |
Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn amrywio ar draws lefelau amddifadedd. Roedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5) yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1).
Roedd gan y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) a Chwintel 2 lefelau cyfranogiad o 54%, sy'n cyfateb i 233,000 o oedolion ar gyfer Cwintel 1 a 242,000 o oedolion ar gyfer Cwintel 2. Roedd gan y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5) ganran cyfranogiad o 66% (370,000 o oedolion). Roedd bwlch o 12 pwynt canran rhwng Cwintel 1 a Chwintel 5, gyda 137,000 yn fwy o oedolion yn cymryd rhan yng Nghwintel 5 o gymharu â Chwintel 1.
O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn parhau'n debyg ar draws pob lefel amddifadedd.
3.1.2 Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl daearyddiaeth
Mae Tabl 3.3 yn edrych ar ganran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ardal PCh, ac yn ôl dosbarthiad 'Gwledig' a 'Threfol'.
Tabl 3.3: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl ardal partneriaeth chwaraeon, a dwysedd poblogaeth.
| Canran yr Oedolion | Nifer yr Oedolion | ||
|---|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon | Gogledd Cymru | 37% | 197,000 |
| Canolbarth Cymru | 36% | 59,000 | |
| Gorllewin Cymru | 33% | 179,000 | |
| Canolbarth y De | 38% | 287,000 | |
| Gwent | 32% | 147,000 | |
| Dwysedd Poblogaeth | 'Trefol' | 36% | 586,000 |
| 'Gwledig' | 35% | 282,000 | |
| Cyfanswm Cymru | 35% | 868,000 | |
Canolbarth y De a Gogledd Cymru oedd â’r ganran uchaf, sef 38% a 37% yn y drefn honno, gyda Chanolbarth y De yn cynrychioli 287,000 o oedolion a Gogledd Cymru yn cynrychioli 197,000 o oedolion. Roedd gan Ganolbarth Cymru ganran debyg i Ogledd Cymru (36%), ond roedd yn cynrychioli'r nifer isaf o oedolion yn cymryd rhan (59,000 o oedolion) ar draws pob ardal partneriaeth chwaraeon. Roedd gan Orllewin Cymru a Gwent gyfraddau cyfranogiad tebyg o 33% a 32% yn y drefn honno, gan gynrychioli 179,000 o oedolion ar gyfer Gorllewin Cymru a 147,000 o oedolion ar gyfer Gwent.
O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn parhau'n debyg ar draws ardaloedd y partneriaethau chwaraeon.
Yn ogystal, roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn debyg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, gyda 36% o oedolion mewn ardaloedd trefol (586,000 o oedolion) a 35% mewn ardaloedd gwledig (282,000 o oedolion). Fodd bynnag, roedd yr ardaloedd trefol yn cynrychioli mwy na dwbl nifer y cyfranogwyr o gymharu ag ardaloedd gwledig.
O gymharu â 2022-23, mae’r lefelau cyfranogiad yn gostwng mewn ardaloedd trefol o 4 pwynt canran, ac roedd newid llai nodedig mewn ardaloedd gwledig (40% a 38% yn 2022-23 yn y drefn honno).
Mae Tabl 3.4 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).Fel y disgrifiwyd yn gynharach yn yr adroddiad, y MALlC yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru.
Tabl 3.4: Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran yr Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion |
|---|---|---|
| Cwintel 1(20% mwyaf difreintiedig) | 31% | 134,000 |
| Cwintel 2 | 31% | 138,000 |
| Cwintel 3 | 36% | 185,000 |
| Cwintel 4 | 37% | 188,000 |
| Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 40% | 224,000 |
| Cyfanswm Cymru | 35% | 868,000 |
Roedd canran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ar gyfer y rhai a oedd yn byw yn y ddwy ardal fwyaf difreintiedig (roedd Cwintel 1 a Chwintel 2 ill dau yn 31%). Yn ogystal, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r rhai a oedd yn byw yn y rhan leiaf difreintiedig yng Nghymru (h.y. Cwintel 5 ar 40%).
Roedd gwahaniaeth o 9 pwynt canran yng nghanran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy'n byw yn yr 20% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1), o gymharu â'r rhai sy'n byw yn yr 20% isaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru (Cwintel 5). Mae'r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i 90,000 o oedolion rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig.
O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn parhau'n debyg ar draws pob lefel amddifadedd.
3.2 Nodweddion y Boblogaeth
Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl gwahanol nodweddion poblogaeth.
3.2.1 Cyfranogiad yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf yn ôl nodweddion poblogaeth
Mae Tabl 3.5 yn cyflwyno cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol (yn ystod y 4 wythnos flaenorol) a archwiliwyd yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Tabl 3.5: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd, amddifadedd materol, a defnydd o'r iaith Gymraeg.
| Canran yr Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | ||
|---|---|---|---|
| Rhyw | Benywod | 56% | 717,000 |
| Gwrywod | 62% | 732,000 | |
| Ethnigrwydd | Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) | 58% | 1,284,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) | 67% | 56,000 | |
Unrhyw Grŵp Ethnig arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
67% |
108,000 | |
| Cyflyrau iechyd, salwch neu namau | Gyda salwch cyfyngus hirdymor | 39% | 334,000 |
| Dim salwch cyfyngus hirdymor | 70% | 1,092,000 | |
| Amddifadedd | Byw mewn amddifadedd materol | 60% | 167,000 |
| Ddim ynbyw mewn amddifadedd materol | 59% | 1,267,000 | |
| Yr iaith Gymraeg (FG36) | Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd | 62% | 165,000 |
| Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd | 59% | 1,281,000 | |
| Cyfanswm Cymru | 59% | 1,449,000 | |
Roedd benywod yn llai tebygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â gwrywod, gyda gwahaniaeth o 6 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.
Roedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn' ganran cyfranogiad o 58%, ac roedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn Arall' ac 'Unrhyw Grŵp Ethnig Arall' ganrannau cyfranogiad o 67%. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.
Roedd yr oedolion a nododd bod ganddynt salwch cyfyngus hirdymor yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol (39%) o gymharu â'r rhai heb salwch cyfyngus hirdymor (70%), gyda gwahaniaeth o 31 pwynt canran [3]. Yn 2022-23 roedd y gwahaniaeth yn 23 pwynt canran.
Roedd oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol yr un mor debygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol (60%), sy'n cynrychioli 167,000 o oedolion, o gymharu â'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol (59%), sy'n cynrychioli 1,267,000 o oedolion.
O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2022-23, cynyddodd nifer yr oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran yn ystod y pedair wythnos flaenorol 11 pwynt canran, sy'n cyfateb i tua 26,000 yn rhagor o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gostyngodd nifer yr oedolion nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol 4 pwynt canran, sy'n cyfateb i 69,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Yn olaf, roedd y lefelau cyfranogiad yn debyg ymhlith y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd a'r rhai nad ydynt yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.
3.2.2 Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl Nodweddion y Boblogaeth
Mae Tabl 3.6 yn cyflwyno cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi'i archwilio yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Tabl 3.6 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd, amddifadedd materol, a defnydd o'r iaith Gymraeg.
| Canran yr Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | ||
|---|---|---|---|
| Rhyw | Benywod | 32% | 404,000 |
| Gwrywod | 40% | 463,000 | |
| Ethnigrwydd | Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig ) | 35% | 777,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)
| 39% | 33,000 | |
Unrhyw Grŵp Ethnig arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)
|
36% |
57,000 | |
| Cyflyrau iechyd, salwch neu namau | Gyda salwch cyfyngus hirdymor | 21% | 178,000 |
| Dim salwch cyfyngus hirdymor | 44% | 677,000 | |
| Amddifadedd | Byw mewn amddifadedd materol | 33% | 92,000 |
| Ddim ynbyw mewn amddifadedd materol | 36% | 768,000 | |
| Yr iaith Gymraeg (FG36) | Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd | 40% | 105,000 |
| Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd | 35% | 760,000 | |
| Cyfanswm Cymru | 35% | 868,000 | |
Mae Tabl 3.6 yn dangos bod benywod yn llai tebygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â gwrywod; gwahaniaeth o 8 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws dwy flynedd yr arolwg.
Roedd canran y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 35% ar gyfer y rhai’n uniaethu fel 'Gwyn', 39% ar gyfer y rhai’n uniaethu fel 'Gwyn arall' a 36% o 'Unrhyw grŵp ethnig arall'. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws dwy flynedd yr arolwg.
Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos heb salwch cyfyngus hirdymor (44%) yn fwy na dwbl canran y rhai gyda salwch cyfyngus hirdymor (21%) [4]; gwahaniaeth o 23 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, roedd gostyngiad o 6 pwynt canran ymhlith yr oedolion gyda salwch cyfyngus hirdymor ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos, tra oedd y ganran gyfatebol o oedolion heb salwch cyfyngus hirdymor wedi aros yn debyg ar draws y ddwy flynedd.
Roedd canran yr oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos (33%) yn agos at ganran yr oedolion nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol (36%). Fodd bynnag, o gymharu â 2022-23, roedd gostyngiad o 5 pwynt canran ymhlith y rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos, sy'n cyfateb i 98,000 yn llai o oedolion, ac i'r rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol roedd y lefel a adroddwyd yn gyson â 2022-23.
Yn olaf, roedd canran yr oedolion sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd yn 40% ac roedd yn 35% ar gyfer y rhai nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd.
O gymharu â 2022-23, roedd y rhai nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi gostwng 4 pwynt canran. Mae hyn yn cyfateb i 104,000 yn llai o oedolion nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25.