Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 16 - Ebrill 2025

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 16 - Ebrill 2025

Cyfwelodd Savanta 1,012 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 25ain Ebrill a 29ain Ebrill 2025. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr o Gymru ac mae'r data wedi cael eu pwysoli i fod yn gynrychioliadol o'r boblogaeth yng Nghymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.  

Y canfyddiadau

Mae canfyddiadau diweddaraf Traciwr Gweithgarwch Cymru yn parhau i ddatgelu tueddiadau calonogol mewn ymddygiadau ac agweddau cyfredol tuag at weithgarwch corfforol yng Ngwanwyn 2025.

  • Mae’r lefelau gweithgarwch corfforol yn sefydlog ar hyn o bryd o gymharu â'r don flaenorol a mis Ebrill 2024, gan fod bron i hanner (49%) yr oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos. 
  • Er hynny, ers mis Ebrill 2024, mae cynnydd wedi bod yn nifer cymedrig y dyddiau y mae oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o 2.94 ym mis Ebrill 2024, i 3.22 ym mis Ebrill 2025. Mae hyn yn golygu bod oedolion yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn gwneud mwy o ddyddiau o weithgarwch corfforol eleni o gymharu â'r llynedd.

Y tu hwnt i lefelau gweithgarwch corfforol, mae arferion neu fwriadau gwirfoddoli ar y lefel uchaf ers i’r tracio ddechrau. 

  • Er hynny, mae’n werth adlewyrchu mai dim ond 18% yw’r lefel uchaf erioed, gyda 36% o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod nhw’n debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf. Mae deall beth allai annog mwy o oedolion i gymryd rhan fel gwirfoddolwyr yn bwysig o hyd wrth gynnal a thyfu’r ddau ffigur yma.

Roedd chwaraeon merched a’r effaith mae wedi’i chael ar eu gweithgarwch chwaraeon yn gwestiwn pwnc a gyflwynwyd yn y don yma o’r traciwr. 

  • Mae tua thraean yn dweud eu bod wedi gwylio digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf yn eithaf arwyddocaol, ac mae’r ffaith ei fod wedi ysbrydoli chwarter o’r rheini i gynyddu eu lefelau gweithgarwch yn benodol yn gadarnhaol ac yn dangos yr effaith y gall twf chwaraeon merched ei chael. 
  • Mae’n arbennig o ddiddorol bod hanner yr ymatebwyr wedi mynychu digwyddiad merched yn ddigymell ac mae hwn yn adlewyrchiad diddorol i bawb sy’n gweithio yn y byd chwaraeon – beth sy’n ei wneud mor hawdd cerdded i gêm merched? 
  • Yn amlwg, fodd bynnag, mae llawer sy’n bwriadu mynychu chwaraeon merched a bydd hynny’n ddefnyddiol i’w wybod ar gyfer datblygiad yn y dyfodol yn y maes hwn – mae’n debygol y bydd llawer o gefnogwyr yn dychwelyd.

Tynnwyd sylw at effaith cyfryngau cymdeithasol wrth gymell oedolion yng Nghymru i fod yn actif yn y don yma o'r traciwr. 

  • Mae 31% o oedolion yng Nghymru wedi gweld tuedd, her neu ddylanwadwr gweithgarwch corfforol yn ystod y 3 mis diwethaf, gyda 66% o'r bobl hynny'n dweud ei fod wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol. 
  • Mae'r canfyddiad hwn yn dangos pwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu'n gadarnhaol ar oedolion yng Nghymru i fod yn gorfforol actif, ac o ganlyniad dylai fod yn bwysig i'r sector ehangach ffrwyno’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol er mwyn parhau i gyfrannu at y lefelau gweithgarwch uchel a ddangosir ledled Cymru ar hyn o bryd.

Yn olaf, mae'n werth nodi bod costau byw yn effeithio ar allu pobl i deimlo y gallant fod yn actif. 

  • Sut gall cynigion chwaraeon a gweithgarwch corfforol ddiwallu anghenion pobl sydd wedi gwneud y dewis anodd i roi'r gorau i ambell aelodaeth neu weithgaredd oherwydd nad yw eu cyllideb yn ymestyn mor bell mwyach?
Rhywedd

Taflenni Cryno

Darllen Mwy
Anabledd

Taflenni Cryno

Darllen Mwy
Oedran

Taflenni Cryno

Darllen Mwy
Amddifadedd

Taflenni Cryno

Darllen Mwy