Mwynhad, pwysigrwydd a hyder
- Mae bron i dri o bob pump (59%) o oedolion yng Nghymru yn cytuno eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol. Mae hyn yn unol â mis Ionawr 25 (62%) a mis Ebrill 24 (56%).
- Mae'r cynnydd bach hwn o gymharu â mis Ebrill 24 yn cael ei achosi gan gynnydd sylweddol yn nifer y bobl 16 i 34 oed sy'n cytuno eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (64% o gymharu â 57%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd (63%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (56%) o ddweud eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol.
- Mae'r rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) (66%) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is (C2DE) (52%) o ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol.
- Mae'r un gyfran o oedolion yng Nghymru yn cytuno eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (59%). Mae hyn yn unol â mis Ionawr 25 (61%).
- Mae'r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o gytuno eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (70% a 63% o gymharu â 48%).
- Mae'r rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai mewn grwpiau is (C2DE) o gytuno eu bod yn ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (65% o gymharu â 52%), fel y mae ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (67% o gymharu â 57%) a phobl sydd â phlant o gymharu â phobl heb blant (66% o gymharu â 55%).
- Ymhlith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod y tri mis diwethaf, mae mwy na thri o bob pedwar (76%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel cymhelliant. Mae'r sgôr yma yn unol â mis Ionawr 25 (76%) a mis Ebrill 24 (74%).
- Mae dau o bob tri (66%) yn dweud bod teimlo'n dda yn gymhelliant dros gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, ac mae ychydig mwy nag un o bob dau (52%) yn nodi codi allan o'r tŷ.
- Mae bron i dri o bob pump (59%) o oedolion yng Nghymru yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad. Mae'r sgôr yma yn unol â mis Ionawr 25 (61%) ond yn gynnydd o gymharu â mis Ebrill 24 (54%).
- Mae'r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (72% a 60% o gymharu â 48%).
- Mae'r rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai mewn grwpiau is (C2DE) o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (68% o gymharu â 49%), fel y mae ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (82% o gymharu â 56%), pobl sydd â phlant o gymharu â phobl heb blant (69% o gymharu â 53%), ac ymatebwyr heb gyflwr neu salwch hirsefydlog o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog (67% o gymharu â 45%).
- Mae ychydig llai na saith o bob deg (69%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno ei bod yn bwysig iddyn nhw ymarfer corff yn rheolaidd, yn gyson â mis Ionawr 25 (71%) a mis Ebrill 24 (67%).
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno ei bod yn bwysig iddyn nhw ymarfer corff yn rheolaidd (74% o gymharu â 64%), fel y mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (ABC1 o gymharu â C2DE, 75% o gymharu â 62%), ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (80% o gymharu â 67%), pobl sydd â phlant o gymharu â phobl heb blant (76% o gymharu â 65%), ac ymatebwyr heb gyflwr neu salwch hirsefydlog o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog (74% o gymharu â 59%).
- Mae ychydig mwy na thri o bob tri (62%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno bod ganddyn nhw'r hyder i fod yn gorfforol actif, ychydig yn uwch nag ym mis Ebrill 24 (58%).
- Mae'r cynnydd o gymharu â mis Ebrill 24 wedi'i achosi gan y cynnydd sylweddol yn y lefelau cytuno ymhlith ymatebwyr 16 i 34 oed (72% o gymharu â 62% ym mis Ebrill 24).
- Mae pobl 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed a 55+ oed (72% o gymharu â 61% o gymharu â 57%) o ddweud eu bod yn debygol o gytuno bod ganddyn nhw’r hyder i fod yn gorfforol actif, fel y mae ymatebwyr gwrywaidd o gymharu â benywaidd (72% o gymharu â 54%), y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (72% o gymharu â 52%), ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran yma (72% o gymharu â 58%), ac ymatebwyr heb gyflwr neu salwch hirsefydlog o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog (73% o gymharu â 45%).
- Mae tua un o bob pump (21%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn unol â mis Ionawr 25 (21%) a mis Ebrill 24 (23%).
- Mae ymatebwyr benywaidd (25%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd (16%) o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (28% a 24% o gymharu â 14%), fel y mae ymatebwyr sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog o gymharu â'r rhai heb gyflwr neu salwch (32% o gymharu â 15%).
- Mae'r rhai sy'n byw yn awdurdod lleol Canolbarth Cymru yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai sy'n byw mewn mannau eraill o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (34%).
Hyder mewn lleoliad
- Mae’r hyder yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do yn parhau'n gyson, gyda mwy na dau o bob pump (44%) oedolyn yng Nghymru yn teimlo'n hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd ac ychydig mwy nag un o bob tri (31%) yn teimlo'n hyderus mewn neuaddau chwaraeon.
- Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud eu bod yn teimlo'n hyderus ym mhob lleoliad a brofwyd ond dau (stiwdios a rinciau sglefrio iâ).
- Mae’r gwahaniaethau nodedig o ran hyder yn cynnwys caeau glaswellt (45% o gymharu ag 19%), caeau artiffisial (40% o gymharu ag 14%), neuaddau chwaraeon (40% o gymharu â 22%), cyrtiau awyr agored (40% o gymharu â 22%) a champfeydd ac ystafelloedd ffitrwydd (50% o gymharu â 39%).
- Ymhlith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae mwy na dau o bob pump (44%) yn dweud eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do, yn unol â mis Ionawr 25 (44%) a mis Ebrill 24 (40%).
- O blith y rhai sydd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do na'r rhai 55+ oed (69% o gymharu â 43% o gymharu â 25%), fel y mae'r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu â C2DE, 53% o gymharu â 34%).