Main Content CTA Title

Cwestiynau pwnc

Gwirfoddoli 

  • Mae ychydig mwy nag un o bob chwech (18%) oedolyn yng Nghymru yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd, sy'n parhau i fod yr un fath â mis Ionawr 25 (16%) ac yn uwch na mis Ebrill 24 (14%). Dyma'r ffigur uchaf a welwyd ers dechrau tracio.
    • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn sylweddol fwy tebygol o fod yn wryw nag yn fenyw (27% o gymharu â 10%), rhwng 16 a 34 oed o gymharu â 35 i 54 oed a 55+ oed (33% o gymharu â 20% a 6%), o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu â C2DE) (28% o gymharu â 8%), o grŵp lleiafrifol ethnig o gymharu â gwyn (44% o gymharu â 15%) ac o fod â phlant 15 oed neu iau yn y cartref (34% o gymharu â 9%).
  • Mae mwy nag un o bob tri (36%) oedolyn yng Nghymru yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, yn unol â mis Ionawr 25 (37%) a mwy na mis Ebrill 24 (30%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed a 55+ oed (56% o gymharu â 43% o gymharu â 17%) o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel y mae ymatebwyr gwrywaidd o gymharu â benywaidd (43% o gymharu â 29%), y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (46% o gymharu â 26%) ac ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran yma (56% o gymharu â 25%).

Costau byw   

  • Mae bron i ddau o bob pump oedolyn yng Nghymru (38%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif. Mae hyn yn parhau i fod yn unol â mis Ionawr 25 (39%) a mis Ebrill 24 (39%).
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (45% o gymharu â 30%), fel y mae'r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed na'r rhai 55+ oed (44% o gymharu â 47% o gymharu â 27%).
    • Mae'r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb blant o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (43% o gymharu â 36%). Fodd bynnag, gwelodd y don hon ostyngiad sylweddol yn nifer yr ymatebwyr gyda phlant a ddywedodd fod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (43% o gymharu â 50% ym mis Ionawr 25). Dyma'r ffigur isaf a welwyd ers i'r tracio ddechrau, fodd bynnag, mae'n unol â mis Ebrill 24.
  • Mae un o bob dau (50%) oedolyn yng Nghymru yn dweud nad yw newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae ychydig llai na thri o bob deg (29%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
    • Mae ymatebwyr sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad yw'r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (59% o gymharu â 49%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw (34% a 39% o gymharu â 18%), fel y mae'r rhai sydd â phlant 15 oed neu iau yn y cartref o gymharu â'r rhai heb blant yr oedran yma (36% o gymharu â 26%).

Aelodaeth o glwb chwaraeon

  • Mae ychydig mwy nag un o bob chwech (17%) oedolyn yng Nghymru ar hyn o bryd yn aelod o glwb chwaraeon, yn unol â mis Ionawr 25 (15%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o ddefnyddio technoleg ffitrwydd (28% a 16% o gymharu â 9%), fel y mae ymatebwyr gwrywaidd o gymharu ag ymatebwyr benywaidd (24 o gymharu â 10%), ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (ABC1 o gymharu â C2DE, 23% o gymharu ag 11%), ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (34% o gymharu â 15%) a'r rhai sydd â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (27% o gymharu ag 11%).

Tueddiadau a dylanwadau ar gyfryngau cymdeithasol

  • Mae bron i un o bob tri (31%) oedolyn yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gweld tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi gweld tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf (59% a 34% o gymharu â 10%), fel y mae'r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu â C2DE, 41% o gymharu â 21%).
    • Mae’r oedolion yng Nghymru sydd o grŵp lleiafrifol ethnig yn sylweddol fwy tebygol nag oedolion gwyn o ddweud eu bod wedi gweld tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf (63% o gymharu â 27%).
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi gweld tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf, mae dau o bob tri (66%) yn dweud ei fod wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol (e.e., teimlo eu bod wedi cael eu hysbrydoli, eu hannog).
    • Mae ychydig mwy nag un o bob pump (22%) yn dweud nad oedd tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol wedi effeithio ar eu penderfyniad, ac ychydig llai nag un o bob deg (8%) yn dweud iddo ddylanwadu'n negyddol ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol (e.e., teimlo dan bwysau, digalonni).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud bod tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol (72% o gymharu â 61%).

Gweithgareddau newydd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg a digwyddiadau wedi'u trefnu

  • Yn gyffredinol, mae oedolion yng Nghymru’n teimlo'n niwtral (38%) neu'n gadarnhaol (32%) ynglŷn â gweithgareddau corfforol newydd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg (e.e., Hyrox, rasys antur, heriau ffitrwydd), gyda dim ond un o bob deg yn dweud eu bod yn teimlo'n negyddol (11%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddisgrifio eu hagwedd tuag at weithgareddau corfforol newydd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg fel un cadarnhaol (36% o gymharu â 28%).
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi gweld tueddiadau, heriau neu ddylanwadwyr gweithgarwch corfforol ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf (55% a 34% o gymharu â 14%), fel y mae'r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu â C2DE, 41% o gymharu â 22%).
  • Mae ychydig llai nag un o bob pump (17%) oedolyn yng Nghymru yn dweud mai bwyta deiet iach a chytbwys yw'r ffactor pwysicaf wrth wneud iddyn nhw deimlo'n iach. Ymarfer corff rheolaidd (13%), lles corfforol (8%), a cholli pwysau (6%) oedd y themâu cyffredin eraill a nodwyd gan ymatebwyr.
  • Mae ychydig llai nag un o bob wyth (12%) oedolyn yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol wedi'i drefnu yn ystod y tri mis diwethaf.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai 55+ oed o ddweud eu bod wedi cofrestru ar gyfer neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol wedi'i drefnu yn ystod y tri mis diwethaf (24% a 12% o gymharu â 2%).
    • Mae ymatebwyr o grŵp lleiafrifol ethnig yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwyn o ddweud eu bod wedi cofrestru ar gyfer neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon neu weithgaredd corfforol wedi'i drefnu yn ystod y tri mis diwethaf (29% o gymharu â 9%), fel y mae'r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1 o gymharu â C2DE, 16% o gymharu â 7%).
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gyfer, neu gymryd rhan mewn, digwyddiad chwaraeon neu weithgarewch corfforol wedi'i drefnu yn ystod y tri mis diwethaf, cofrestrodd mwy na dau o bob pump (44%) ar gyfer, neu gymryd rhan mewn, digwyddiad cerdded (e.e. taith gerdded elusennol). Cofrestrodd bron i un o bob tri (31%) ar gyfer, neu gymryd rhan mewn, digwyddiad rhedeg (e.e. ras redeg elusennol, hanner marathon, parkrun), a chofrestrodd bron i un o bob pedwar (22%) ar gyfer, neu gymryd rhan mewn, marathon.
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gyfer, neu wedi cymryd rhan mewn, digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol wedi'i drefnu yn ystod y tri mis diwethaf, clywodd mwy nag un o bob tri (34%) amdano gyntaf ar gyfryngau cymdeithasol.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud eu bod wedi clywed am y digwyddiad gyntaf ar gyfryngau cymdeithasol (42% o gymharu â 24%). Roedd ymatebwyr benywaidd yn fwyaf tebygol o glywed am eu digwyddiad diweddaraf ar ffurf argymhelliad gan ffrindiau neu deulu (30%), yn sylweddol fwy nag ymatebwyr gwrywaidd (13%).

Digwyddiadau chwaraeon neu weithgarwch corfforol i ferched

  • Mae bron i un o bob tri (32%) oedolyn yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gwylio digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o ddweud eu bod wedi gwylio digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf (37% o gymharu â 27%), fel y mae'r rhai 16 i 34 oed o gymharu â phobl 35 i 54 oed a 55+ oed (43% o gymharu â 32% a 23%).
  • Mae bron i un o bob deg (8%) oedolyn yng Nghymru yn dweud eu bod wedi mynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched wyneb yn wyneb yn ystod y tri mis diwethaf.
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi gwylio neu fynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf, mae mwy nag un o bob tri (35%) yn dweud eu bod wedi clywed am y digwyddiad gyntaf drwy sylw ar y teledu neu'r radio. Daeth bron i un o bob pedwar (24%) i wybod am y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, a thua un o bob chwech (16%) drwy argymhelliad gan ffrindiau neu deulu.
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi gwylio neu fynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgaredd corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf, mae mwy nag un o bob dau (51%) yn dweud bod eu penderfyniad i wylio neu fynychu yn ddigymell. Mae tua dau o bob pump (44%) yn dweud bod eu penderfyniad wedi'i gynllunio ymlaen llaw.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o ddweud bod eu penderfyniad i wylio neu fynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ddigymell (57% o gymharu â 46%), gydag ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o gynllunio eu penderfyniad i wylio neu fynychu ymlaen llaw (49% o gymharu â 37%).
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru sydd wedi gwylio neu fynychu digwyddiad chwaraeon neu weithgarwch corfforol merched yn ystod y tri mis diwethaf, mae un o bob pedwar (25%) yn dweud bod gwylio neu fynychu digwyddiad wedi eu hysbrydoli i gynyddu eu lefelau gweithgarwch. Mae bron i un o bob tri (31%) yn dweud eu bod wedi cael eu hysbrydoli i ystyried gwneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol, ond nad ydynt wedi gwneud hynny eto.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o ddweud bod gwylio neu fynychu digwyddiad wedi eu hysbrydoli i gynyddu eu lefelau gweithgarwch (40% a 20% o gymharu â 9%).

Addunedau a nodau Blwyddyn Newydd

  • Mae mwy nag un o bob pedwar (28%) oedolyn yng Nghymru wedi gwneud adduned neu osod nod Blwyddyn Newydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu weithgarwch corfforol eleni.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o fod wedi gwneud adduned neu osod nod (49% a 31% o gymharu â 10%), fel y mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu â grwpiau is (ABC1 o gymharu â C2DE, 34% o gymharu â 21%), ymatebwyr lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymatebwyr gwyn (59% o gymharu â 24%) a'r rhai sydd â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (45% o gymharu â 19%).
  • Ymhlith yr oedolion yng Nghymru wnaeth adduned neu osod nod Blwyddyn Newydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu weithgarwch corfforol eleni, mae mwy na dau o bob pump (41%) yn dweud eu bod yn parhau i anelu at eu nod. Mae un o bob dau (50%) yn dweud eu bod wedi gwneud cynnydd ond nid yn gyson, ac mae llai nag un o bob deg (8%) yn dweud eu bod wedi rhoi'r gorau i weithio tuag at eu hadduned neu nod yn gyfan gwbl.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd (66%) yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd (58%) o ddweud eu bod yn parhau i anelu at eu hadduned neu nod (54% o gymharu â 29%).
Gweithgarwch

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30…

Darllen Mwy
Agweddau at weithgarwch

Mwynhad, pwysigrwydd a hyderMae bron i dri o bob pump…

Darllen Mwy