Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu.
Lefelau gweithgarwch
- Mae tua un o bob dau oedolyn (49%) yng Nghymru yn nodi eu bod wedi gwneud 2 i 4 diwrnod o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n parhau i fod yn unol â mis Ionawr 25 (50%) a mis Ebrill 24 (49%).
- Mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yr wythnos (28%) hefyd yn parhau i fod yn unol â mis Ionawr 25 (29%), ond mae'n uwch na mis Ebrill 24 (24%).
- Adroddodd oedolion yng Nghymru gyfartaledd o 3.22 diwrnod o weithgarwch corfforol yr wythnos. Mae hyn yn uwch nag a welwyd ym mis Ebrill 24 (2.94).
- Mae ymatebwyr 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 35 i 54 a 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (23% o gymharu â 15% a 6%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (C2DE) yn sylweddol fwy tebygol o ddweud nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw weithgarwch corfforol na'r rhai o grwpiau uwch (ABC1) (21% o gymharu â 11%).
- Mae naw o bob deg (90%) oedolyn yng Nghymru sydd â phlant 15 oed neu iau yn dweud bod eu plant yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod nodweddiadol yn ystod yr wythnos.
- Mae hyn yn unol â mis Ionawr 25 (92%) a mis Ebrill 24 (89%).
- Mae mwy na naw o bob deg (94%) oedolyn yng Nghymru sydd â phlant 15 oed neu iau yn dweud bod eu plant wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ar ddiwrnod nodweddiadol dros y penwythnos.
- Mae hyn yn unol â mis Ionawr 25 (92%), fodd bynnag, dyma’r ffigur uchaf a welwyd ers mis Hydref 23.
Math ac amledd y gweithgarwch
- Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan oedolion yng Nghymru yn ystod yr wythnos cyn y cyfnod arolygu oedd cerdded ar gyfer hamdden (65%), cerdded ar gyfer teithio (26%), rhedeg neu loncian (20%) a champfa a dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref (20%).
- Yn ystod y tri mis diwethaf, mae ychydig mwy na thri o bob pump oedolyn yng Nghymru yn dweud eu bod yn cerdded yn rheolaidd naill ai ar gyfer hamdden neu deithio (64%) (unwaith y mis o leiaf).
- Mae ychydig mwy nag un o bob pedwar yn dweud eu bod yn mynd i gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (27%) ac mae mwy nag un o bob pump yn mynd i redeg neu loncian (23%).
- Mae un o bob deg (10%) yn dweud nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hyn yr un fath ag ym mis Ionawr 25 (10%) ac mae'n parhau i fod y ffigur isaf ar y cyd a welwyd ar draws yr holl donnau.
Cyfle a gallu
- Mae tua thri o bob pedwar (73%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno bod ganddyn nhw'r gallu i fod yn gorfforol actif, yn unol â mis Ionawr 25 (74%) a mis Ebrill 24 (71%).
- Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddyn nhw'r gallu i fod yn gorfforol actif (85% a 78% o gymharu â 61%).
- Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddyn nhw'r gallu i fod yn gorfforol actif (84% o gymharu â 54%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddyn nhw'r gallu i fod yn gorfforol actif na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (82% o gymharu â 63%).
- Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (72%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno bod ganddyn nhw'r cyfle i fod yn gorfforol actif, yn unol â mis Ionawr 25 (73%) a mis Ebrill 24 (73%).
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddyn nhw’r cyfle i fod yn gorfforol actif na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (78% o gymharu â 66%).
- Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddyn nhw’r cyfle i fod yn gorfforol actif (81% o gymharu â 58%).
- Mae pobl sydd â phlant yn byw yn y cartref yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb blant o gytuno bod ganddyn nhw’r cyfle i fod yn gorfforol actif (78% o gymharu â 70%).
- Mae ychydig mwy nag un o bob pedwar (28%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill. Mae hyn yn is nag ym mis Ebrill 24 (34%) ond yn unol â mis Ionawr 25 (27%), sy'n parhau i fod y ffigur isaf a welwyd ar draws yr holl donnau.
- Mae'r gostyngiad o gymharu â mis Ebrill 24 wedi'i achosi gan ostyngiad sylweddol yn y lefelau cytuno ymhlith ymatebwyr benywaidd (28% o gymharu â 35% ym mis Ebrill 24) a phobl 16 i 34 oed (37% o gymharu â 51% ym mis Ebrill 24).
- Fodd bynnag, mae ymatebwyr iau 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn parhau i fod yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (37% a 37% o gymharu â 15%).
- Mae ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai heb blant yr oedran yma o gytuno nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (37% o gymharu â 22%), fel y mae ymatebwyr mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch o gymharu ag is (ABC1 o gymharu â C2DE, 34% o gymharu â 22%), a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill yn y cartref o gymharu â'r rhai heb y cyfrifolebau hyn (40% o gymharu â 28%).
- Mae mwy nag un o bob dau (56%) oedolyn yng Nghymru yn cytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol.
- Mae ymatebwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (ABC1) yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol na'r rhai o grwpiau is (C2DE) (61% o gymharu â 49%).
- Mae'r rhai sy'n byw yn awdurdod lleol Canolbarth y De yn sylweddol fwy tebygol na'r rhai sy'n byw mewn mannau eraill o gytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol (63%).
- Mae bron i un o bob dau (46%) oedolyn yng Nghymru yn dweud bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel. Mae hyn yn unol â mis Ionawr 25 (46%) ac mae'n parhau i fod y ffigur uchaf a welwyd ers dechrau tracio.