Cyfnod Sylfaen
Chwarae i Ddysgu – Mae’n paratoi ac yn annog dysgwyr 3 i 7 oed i fod yn actif yn gorfforol.
Adnodd: Chwarae i Ddysgu | |
Pwrpas: Yn paratoi ac yn annog dysgwyr 3 i 7 oed i fod yn actif yn gorfforol. | |
Crynodeb o’r cynnwys:
Tair stori - Megan a’r Ddraig Fach, Chwarae Planed, Y Parti Traeth. CDs sain o’r straeon yn cael eu hadrodd
Hierarchaeth Sgiliau Motor Cain - 36 Cerdyn Sgiliau – Gwahaniaethu wrth iddynt ddatblygu, gwneud cynnydd a dod yn fwy medrus. Datblygu sgiliau locomotor (teithio), sgiliau rheoli’r corff a sgiliau trin. Gwybodaeth a chyfarwyddyd sy’n cynnwys pwyntiau addysgu gydag elfennau gweledol ar gyfer pob sgil ac atebion defnyddiol ar gyfer rhai camgymeriadau cyson.
16 Cerdyn Gweithgarwch – Gwahaniaethu wrth iddynt ddatblygu, gwneud cynnydd a dod yn fwy medrus – yn cynnig cyd-destun eang a themâu i roi sgiliau ar waith mewn ffordd hwyliog a chyffrous
CD Rom Chwarae i Ddysgu gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o’r cardiau sgiliau a’r cardiau gweithgarwch.
| |
Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:
Recordiadau CD o’r straeon Dolen egwyddorion i unrhyw lyfr Hierarchaeth Sgiliau Motor Cain
| |
Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:
Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr (e.e. wrth iddynt ddatblygu, gwneud cynnydd a dod yn fwy medrus) o bersbectif cyfnod nid oedran.
Cyfannol ei natur.
Cynnwys dolenni at themâu i ystyried cyfleoedd trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach ar gyfer datblygu (maent yn niferus) (e.e. themâu o'r llyfrau stori neu themâu o'r cardiau gweithgarwch)
Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a arweinir gan ddysgwyr ac ymarferwyr).
| |
Hyder a Chymhelliant | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol. | Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, a’u cymell i wneud hynny. |
Medrusrwydd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Datblygiad corfforol sgiliau motor – fel rhedeg, neidio, dal a chicio – yn ogystal â sgiliau trin llai, manylach fel adeiladu blociau sy'n arwain at lawysgrifen. Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
| Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous. Gwybodaeth a chyfarwyddyd pob sgil yn cynnwys sut i gywiro camgymeriadau technegol nodweddiadol. |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae’r dysgwyr yn deall techneg gywir y sgiliau ac yn deall sut gallant eu cynnwys mewn gemau a gweithgareddau, gan ddatblygu cymryd tro a gweithio gydag eraill. Datblygu annibyniaeth. | Un o'r rhwystrau i athrawon yw gwybod sut i gywiro camgymeriadau a chynnig atebion. Mae esiamplau wedi’u hymgorffori ar y cardiau. Gwybodaeth a chyfarwyddyd pob sgil yn cynnwys sut i gywiro camgymeriadau technegol nodweddiadol. |
Cyfleoedd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Cyfleoedd niferus i ddefnyddio’r straeon, ymarfer sgiliau, ymgymryd â gweithgareddau a chwarae gemau ar eu pen eu hunain, gydag eraill, gydag ymarferwyr. | Cyfleoedd niferus i arwain a hwyluso’r dysgu gan ddefnyddio’r straeon, y sgiliau, y gweithgareddau a’r gemau. Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu. |
Dolenni at MDaPh eraill
Gellir creu dolenni, yn bennaf ar ffurf straeon a gweithgareddau, at bob MDaPh arall: Celfyddydau Mynegiannol – Mae cardiau gweithgarwch symudiad creadigol wedi'u cynnwys yn yr adnodd; chwarae rôl y straeon; ystod o gerddoriaeth i gyd-fynd â gweithredoedd a gweithgareddau. Cyfleoedd niferus i gysylltu â’r synhwyrau a’r dychymyg. Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol, bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Ystyrir gwneud penderfyniadau a pherthnasoedd hefyd. Dyniaethau – Megan a'r Ddraig Fach - elfennau o ofalu am eraill a pharchu gwahaniaethau pobl eraill, gan ysbrydoli chwilfrydedd yn y byd. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Mae’r llyfrau'n ddwyieithog, gall plant ddarllen, cael rhywun yn darllen iddynt a chlywed y straeon; cyfleoedd i drafod a chynllunio. Iaith ddisgrifiadol a ddefnyddir yn y straeon i ddatblygu geirfa ystyrlon. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog. Mathemateg a rhifedd - ar sawl tudalen (e.e. Chwarae Planed 12/13) nifer o gyfleoedd i gyfrif, adnabod siapiau ac iaith lleoli. Gwyddoniaeth a Thechnoleg – bod yn chwilfrydig am y byd naturiol, archwilio gwahanol leoliadau mewn stori - gofod / traeth. | |
Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:
Mewn unrhyw hyfforddiant, sefydlu ardaloedd sy'n ymwneud â straeon gyda chyfle i drafod sut gellid defnyddio straeon eraill yn yr un modd (gan ddefnyddio hierarchaeth sgiliau).
Dylai unrhyw hyfforddiant ddefnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly'n datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.
Canolbwyntio ar hierarchaeth fel sail a man cychwyn, defnyddio llyfrau a gweithgareddau i haenu a chymhwyso. Cael cardiau wrth gefn yn hytrach na'r sbardun.
Ystol sgiliau – ystod enghreifftiol o sgiliau sydd ar gael i ymarfer yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
Calendr Sgiliau – yn llywio’r cynllunio - gellir defnyddio hwn i ganolbwyntio ar ychydig o sgiliau penodol dros gyfnod o fis, gan eu cynnwys mewn amrywiaeth o gemau, gweithgareddau, straeon, llyfrau a chaneuon.
Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un.
Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19). |