Skip to main content

Iechyd, Ffitrwydd a Lles

CA3 a 4

Iechyd, Ffitrwydd a Lles CA3 a 4 – I wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu am iechyd, ffitrwydd a lles mewn ysgolion uwchradd.

Adnodd: Iechyd, Ffitrwydd a Lles CA3 a 4
Pwrpas: Gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu am iechyd, ffitrwydd a lles mewn ysgolion uwchradd.

Crynodeb o’r cynnwys:

 

Gweithgareddau Dysgu 

Gweithgareddau Dysgu CA3

Gweithgareddau Dysgu ar gyfer CA4

Canlyniadau Dysgu – materion diogelwch, effeithiau ymarfer corff, manteision iechyd, a hybu gweithgarwch.

Adnoddau – cardiau gweithgarwch, cardiau cylched, posteri porth, calonnau clybiau diemwntiau, safle lwcus, ceisio'r manteision 

Cynllunio esiamplau uned waith – gymnasteg CA3, Iechyd y Galon CA3, Athletau CA3, Hoci CA3, Iechyd y Cyhyrau CA3, Aerobics CA4, Athletau CA4, Rhaglen ymarfer personol CA4, Hyfforddiant Pwysau CA4

Llyfryn disgyblion – lliw – CA3 

Llyfryn disgyblion – du a gwyn – CA3  

Llyfryn disgybl – lliw – CA4

Llyfryn disgyblion – du a gwyn – CA4 

Cardiau diogelwch yn rhoi sylw i gardiofasgiwlar, oeri, cynhesu, symud cymalau, ymestyn 

Dull ysgol gyfan o weithredu – tabl polisi gweithgaredd, tabl cyfraniadau 

Asesu – profion ffitrwydd, monitro llwyddiant

Negeseuon allweddol

 

CD Rom Iechyd, Ffitrwydd a Lles gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o gardiau sgiliau a chardiau gweithgarwch.

 

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Canlyniadau a gweithgareddau dysgu 

Adnoddau

Llyfrynnau disgyblion

Cardiau diogelwch

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Agweddau ehangach ar Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles

 

Cyfannol a datblygiadol ei natur.

 

Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a arweinir gan ddysgwyr a gweithgareddau a arweinir gan ymarferwyr).

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol.Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. 
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae dysgu sut i gynhesu ac ymestyn yn gywir, a sut i ysgwyddo cyfrifoldeb am brofi llwyddiant a gwella iechyd a ffitrwydd yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

 

Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau a syniadau ystafell ddosbarth cyffrous. Cyfarwyddyd o ran sut i ymgorffori canlyniadau dysgu iechyd, ffitrwydd a lles ym mhob gweithgaredd a champ.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae'r dysgwyr yn gwybod y dechneg gywir o ran gweithgareddau cynhesu ac ymestyn ac yn deall materion diogelwch, hybu iechyd, hybu gweithgarwch ac effeithiau ymarfer corff.Mae'r cardiau adnoddau'n rhoi cynnwys clir ar gyfer athrawon / ymarferwyr ynghyd â chanlyniadau dysgu clir i gyflawni materion diogelwch, hybu iechyd, a hybu gweithgareddau ac effeithiau ymarfer corff. 
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd i drosglwyddo canlyniadau dysgu i feysydd chwaraeon a gweithgarwch eraill. Sicrhau bod canlyniadau dysgu iechyd a lles yn cael eu cynllunio'n systematig mewn gwersi yn hytrach na'u cynnwys mewn ffordd ad hoc.Cyfleoedd lluosog i arwain a hwyluso dysgu. Cyfleoedd i wneud cysylltiadau a throsglwyddo canlyniadau dysgu i feysydd chwaraeon a gweithgarwch eraill. Sicrhau bod canlyniadau dysgu iechyd a lles yn cael eu cynllunio'n systematig mewn gwersi yn hytrach na'u cynnwys mewn ffordd ad hoc.

Dolenni at MDaPh 

 

Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Yr angen am amrywiaeth o fwydydd ac ymarfer corff ar gyfer iechyd da. Defnyddio gwybodaeth flaenorol i esbonio cysylltiadau rhwng achos ac effaith. Sut mae bwyd yn cael ei ddefnyddio gan y corff fel tanwydd yn ystod resbiradaeth a pham mae angen elfennau deiet gytbwys ar gyfer iechyd da. Deall bod iechyd pobl yn cael ei effeithio gan y defnydd a'r camddefnydd o gyffuriau a chan driniaeth feddygol. Gweithio'n annibynnol ac yn gydweithredol i gynllunio a chwblhau ystod o dasgau. Adolygu dysgu a chynllunio i weithredu'n effeithiol, gan bennu blaenoriaethau ar gyfer datblygu a thargedau ar gyfer gwella, cydnabod a rheoli straen.

Dyniaethau - Deall bod amrywiaeth o ffactorau amgylcheddol ac etifeddol yn effeithio ar iechyd pobl.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion a geirfa. Mae’r adnoddau i gyd yn ddwyieithog.

Mathemateg a rhifedd - Gwneud cymariaethau a nodi tueddiadau neu batrymau mewn data a gwybodaeth. Cyfleoedd ar gyfer cyfrif ac iaith lleoli.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg – y corff dynol a systemau'r corff. Enwau, safleoedd, swyddogaethau a meintiau cymharol y prif organau. Yr angen am amrywiaeth o fwydydd ac ymarfer corff ar gyfer iechyd da. Gwneud arsylwadau gofalus a mesuriadau manwl gywir gan ddefnyddio offer digidol a TGCh. Defnyddio gwybodaeth flaenorol i esbonio cysylltiadau rhwng achos ac effaith. Strwythur a swyddogaeth sylfaenol rhai celloedd, meinweoedd, organau a systemau organau a sut maent yn cefnogi prosesau bywyd hanfodol. Sut mae bwyd yn cael ei ddefnyddio gan y corff fel tanwydd yn ystod resbiradaeth a pham mae angen elfennau deiet gytbwys ar gyfer iechyd da.

 

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.

 

Ymgorffori canlyniadau dysgu iechyd, ffitrwydd a lles a ymgorfforir mewn gweithgareddau / gemau eraill.

 

Gall dull calendr neu debyg o fapio ble a sut gellir ymgorffori materion diogelwch, effeithiau ymarfer corff, manteision iechyd neu hybu gweithgarwch gael eu cynnwys ym mhob sesiwn corfforol (ac eraill) yn hytrach na'u bod yn fwy ad hoc.

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CD ROM bellach yn anodd i lawer ei ddefnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

Mynediad am ddim i adnoddau addysg