Skip to main content

Gymnasteg

Modiwl 4

Gymnasteg Modiwl 4 - I wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gweithgareddau gymnasteg mewn ysgolion uwchradd. 

Adnodd: Modiwl Gymnasteg 4 
Pwrpas: Gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu mewn gweithgareddau gymnasteg yn yr ysgol uwchradd.

Crynodeb o’r cynnwys:

 

Adeiladu ar y Gweithgareddau Addysgu’r Corff a gyflwynwyd ym Modiwl 1, y Siapiau Sylfaen a’r Ystumiau Sylfaen ym Modiwl 2 a’r Teulu o Sgiliau ym Modiwl 3 ac mae’r adnoddau i’w gweld ar raddfa fawr ym Modiwl 4.

 

21 Gweithgaredd Addysgu’r Corff Pellach: cadarnhau i ddatblygu cryfder, stamina, hyblygrwydd, cydsymudiad, rheolaeth a thensiwm y corff sy’n angenrheidiol i ymgeisio’n llwyddiannus 

1 Sgil Unigol

7 Sgiliau Pâr 

3 Sgiliau Grŵp 

Balans Acrobatig Chwaraeon 

 

Continwwm Dysgu

Amrywiaeth o strategaethau i Asesu dysgu ac addysgu o Ansawdd

 

Cyflwyno swyddogaethau i'w mabwysiadu mewn gweithgareddau gymnasteg: Perfformiwr, Hyfforddwr HFW, Hyfforddwr Sgiliau, Coreograffydd, Beirniad, Adolygydd

Nodweddion Gweithgareddau Gymnasteg o Ansawdd o safbwynt pob rôl ac agweddau ar werthuso / gwerthfawrogi / cynllunio / cyfansoddi, perfformio 

Adnodd Asesu ar gyfer Dysgu Matrics Creadigol 

 

Trefnu grwpiau – ble mae athrawon / ymarferwyr yn lleoli eu hunain (o ran cefnogaeth) 

 

Gweithredoedd sylfaenol: teithio, hedfan, balans, cylchdroi

Ansawdd: rheolaeth, eglurder siâp, medrusrwydd, hyder, cyson, tensiwn y corff, effeithlonrwydd, rhuglder, effeithiolrwydd, cydsymudiad, manwl gywirdeb, gwreiddioldeb, sensitifrwydd, arddull 

Gweithgareddau Gymnasteg Perfformio o Ansawdd: rheolaeth, eglurder siâp, tensiwn y corff, effeithlonrwydd, rhuglder, hyder, effeithiolrwydd, cydsymudiad, manwl gywirdeb, cysondeb, ystum, cryfder, alinio, hyblygrwydd, safiad, amseru, rhoi a chymryd pwysau'n ddiymdrech, amseru, rhythm, acen, cymalau, ffocws, mynegiant, ymrwymiad, gosgeiddigrwydd, cerddoriaeth. 

Coreograffu Dilyniannau Gymnasteg: Ysgogiad, Cyfansoddiad, Beth, Ble, Gyda, Sut, I, Archwilio, Cymryd Risg, Dadansoddi, Perfformio 

Gafael a Dal

Dulliau Addysgeg (Dominos Dilyniannau) ac Arddulliau Addysgu (e.e. athrawon / ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dysgu sy'n cyfuno geiriau, iaith, lluniau, delweddau gweledol a meddwl dadansoddol). 

Cyfleoedd Asesu ar gyfer Dysgu (e.e. cynllunio, gwneud, adolygu)

 

CD Rom Modiwl Gymnasteg 4 gyda gwybodaeth ehangach.

Dim cardiau ar gyfer Modiwl 4 dim ond clipiau fideo

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff

Sgiliau Sylfaen a Theulu o Sgiliau   

Siapiau ac Ystumiau Sylfaen 

Sgil Unigol

Sgiliau Pâr 

Sgiliau Grŵp 

Balans Acrobatig Chwaraeon 

 

Dull yn canolbwyntio ar symud o safon gyda dysgwyr yn cael eu hannog i berfformio 

dilyniannau gyda chydsymudiad, rheola
eth, tensiwn corff da, eglurder siâp, rhuglder ac, os yw hynny’n briodol, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, manwl gywirdeb a chysondeb.

 

Bydd y dysgwyr yn dangos amrywiaeth yn eu gwaith drwy gynnwys ystod o gamau cyferbyniol e.e. teithio, neidio, cydbwyso a rholio ac yn cynnwys newid cyfeiriad, lefel, llwybr a chyflymder. Daw’r gwaith yn fwy cymhleth a pharhaus dros gyfnodau hirach o amser. Unwaith y bydd dysgwyr wedi cadarnhau’r gweithredoedd sylfaenol, bydd newidiadau siâp, ystum neu sgiliau yn siâp y corff yn cynyddu creadigrwydd a gwreiddioldeb tra'n parhau i fod yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr.

Dulliau Addysgeg (Dominos Dilyniannau) ac Arddulliau Addysgu (e.e. athrawon / ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dysgu sy'n cyfuno geiriau, iaith, lluniau, delweddau gweledol a meddwl dadansoddol). 

 

Datblygu annibyniaeth dysgwyr wrth i athrawon / ymarferwyr symud ymhellach ar hyd continwwm rhwng hyfforddwr a hwylusydd.

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr gyda’r dysgwyr i gyd yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y gweithgareddau. 

 

Cyfannol a datblygiadol ei natur.

 

Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad dysgwyr a gweithgareddau dan arweiniad ymarferwr).

Defnyddio gwerthuso’r hunan ac eraill (hunanwerthuso a gwerthuso cyfoedion)

Dulliau Addysgeg (Dominos Dilyniannau) ac Arddulliau Addysgu (e.e. athrawon / ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dysgu sy'n cyfuno geiriau, iaith, lluniau, delweddau gweledol a meddwl dadansoddol). 

 

Cyfleoedd Asesu ar gyfer Dysgu e.e., cynllunio i adolygu

 

Dysgwyr yn ymgymryd â gwahanol swyddogaethau (Model Addysg Chwaraeon) 

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae dod o hyd i weithgareddau sy'n bleserus ac yn gynaliadwy yn bwysig yn ystod camau cynharach datblygiad corfforol er mwyn gwireddu nodau ffordd iach ac actif o fyw. Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symud yn rhoi hyder iddynt barhau i fod yn gorfforol actif. Hyder a chymhelliant sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â sgiliau gymnasteg cydnabyddedig a phrofi llwyddiant mewn gweithgareddau heriol. Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. 
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Daw'r gwaith yn fwy cymhleth a pharhaus dros gyfnodau hirach o amser ac mae creadigrwydd a gwreiddioldeb yn cynyddu.

Gweithgareddau wedi'u cryfhau i feithrin a chyfrannu at sgiliau a gweithgareddau acrobatig chwaraeon mewn amrywiaeth o swyddogaethau.

Arwain dysgwyr at ffynonellau o gefnogaeth. Datblygu annibyniaeth dysgwyr wrth i athrawon / ymarferwyr symud ymhellach ar hyd continwwm rhwng hyfforddwr a hwylusydd.

 

 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae'r dysgwyr yn gwybod ac yn deall sut i greu a gwerthuso Gweithgareddau Gymnasteg o Ansawdd a dilyniannau Gymnasteg.

Cadarnhau trwyadl a systematig os yw'r hyn sy'n gyfystyr ag ansawdd a'r elfennau i gael eu cynnwys. Daw'r gwaith yn fwy cymhleth a pharhaus dros gyfnodau hirach o amser. Cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o swyddogaethau.

Datblygu annibyniaeth a gweithio gydag eraill.

Ystod ehangach o asesu ar gyfer dysgu'n cael ei chyflwyno wrth i athrawon / ymarferwyr symud ar hyd continwwm rhwng hyfforddwr a hwylusydd. Pwysigrwydd athrawon / ymarferwyr i wybod a deall beth mae'r dysgwyr yn gallu ei wneud a phryd maen nhw'n barod i symud ymlaen.

 

Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Cyfleoedd i ddisgyblion arwain dysgu drwy amrywiaeth o swyddogaethau

 

Cyfleoedd lluosog i hwyluso dysgu /

Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd. 

Dolenni at MDaPh 

 

Celfyddydau Mynegiannol – Gellir defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu a pherfformio dilyniannau gymnasteg ac mae’n hynod berthnasol i Gymnasteg Acrobatig Chwaraeon. Clipiau o ‘Spellbound’ a ‘Cirque Du Soleil’ yn cael eu defnyddio fel ysbrydoliaeth. Unwaith y bydd dysgwyr wedi cadarnhau’r gweithredoedd sylfaenol, bydd newidiadau 

siâp, ystum neu sgiliau yn siâp y corff yn cynyddu creadigrwydd a gwreiddioldeb. Mae dyfeisiau coreograffig fel trefniadau gofodol yn gwella perfformiadau.                     

Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Mae gymnasteg yn llai cystadleuol / nid yw’n gystadleuol (o bersbectif y rhan fwyaf o ysgolion) ac yn bwysig am ei gyfraniad at iechyd cyffredinol, ffitrwydd, rheolaeth y corff a theimladau o les. 

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion i ddatblygu dilyniannau o ansawdd yn systematig. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog.

Mathemateg a rhifedd - cyfleoedd ar gyfer cyfrif, adnabod siapiau ac iaith lleoli. Deall system sgorio gymhleth.               

 

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Oherwydd dwysedd a chymhlethdod pa adnoddau y mae Modiwl 4 yn eu cynnig, a sut gellir haenu dysgu, mae ganddo'r potensial i gyfrannu at lawer o Gamau Cynnydd oherwydd ei hyblygrwydd a'i botensial i fod yn syml ac yn gymhleth.

Mae'r sgiliau unigol, pâr a grŵp yn cynnig cyfleoedd i gyflwyno sgiliau hyd yn oed os nad yw athrawon / ymarferwyr wedi teimlo'n gymwys i wneud hynny yn y gorffennol.

Tynnu sylw at y dulliau Asesu ar gyfer Dysgu niferus sydd wedi'u hymgorffori (e.e. cynllunio, gwneud, adolygu) (Dulliau Addysgeg (e.e. Dominos Addysgu’r Corff) ac Arddulliau Addysgu (e.e. athrawon / ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dysgu sy'n cyfuno geiriau, iaith, lluniau, delweddau gweledol a meddwl dadansoddol). 

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

Mynediad am ddim i adnoddau addysg