Yn ôl yn yr hydref, lansiodd Chwaraeon Cymru ‘Lle i Chwaraeon’ – cyfle cyllido newydd i glybiau a sefydliadau cymunedol allu gwneud gwelliannau i gyfleusterau oddi ar y cae sy’n gwella’r profiad cyffredinol o chwaraeon ar lawr gwlad.
Fodd bynnag, roedd hon yn gronfa wahanol iawn i unrhyw beth rydym wedi’i gynnig yn flaenorol gan ei bod yn ofynnol i glybiau godi o leiaf hanner y cyllid eu hunain drwy gyllido torfol.
Yn ogystal â galluogi buddsoddiadau mewn prosiectau a syniadau nad oedd cyllid presennol Chwaraeon Cymru yn eu cefnogi, mae cynnwys cyllido torfol yn golygu bod ‘Lle i Chwaraeon’ yn ymwneud â newid ymddygiad gymaint ag y mae â chyllid.
Mae cynnal ymgyrch Crowdfunder, mewn rhai ffyrdd, yn gwrs hyfforddi dwys, deufis o hyd, ar gyfer y gwirfoddolwyr clwb hynny sy'n cymryd rhan. Maent yn dysgu llu o sgiliau newydd yn ymwneud ag ymgysylltu ag aelodau a chymunedau, cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, marchnata busnes i fusnes a chodi arian cyffredinol. Roeddem eisiau defnyddio’r gronfa hon i helpu clybiau i ddod yn gynaliadwy yn y tymor hir a sefydlu eu hunain mewn ffordd sy’n creu cylch o lwyddiant, nid proses ymgeisio untro gadarnhaol yn unig.
Mae'r rhai sy'n ystyried prosiect cyllido torfol yn cael eu hannog i feddwl am adrodd eu stori yn y ffordd fwyaf ysgogol fel eu bod wir yn gwerthu eu syniad i ddarpar gyfranwyr. Dylent hefyd roi amser i ystyried yn iawn pa wobrau y gellid eu cynnig yn gyfnewid am gyfraniadau.
Gan fod cynllun peilot Chwaraeon Cymru x Crowdfunder yn dod i ben ar 31ain Mawrth 2022, fe wnaethom ofyn i Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru, am ei feddyliau am y broses hyd yn hyn…
Beth sydd wedi gweithio’n dda?
Mae clybiau wedi creu rhai ymgyrchoedd cyllido torfol anhygoel sydd wedi denu cefnogaeth gan gannoedd o unigolion. Mae’r math hwnnw o ymgysylltu cymunedol wedi bod yn wych. Rydym wedi gweld clybiau’n cofleidio’r dull hwn o weithredu, yn datblygu sgiliau newydd ac yn cymryd arian cyhoeddus gan Chwaraeon Cymru a’i gynyddu sawl gwaith drosodd.
Adeg drafftio’r adlewyrchiad hwn, rydym wedi gweld naw prosiect yn mynd drwy’r broses Crowdfunder a’i chwblhau. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddiad o £32k gan Chwaraeon Cymru ynghyd â thua £51k a godwyd gan y clybiau eu hunain drwy gyllido torfol. Felly, yn gyffredinol, mae tua £83k wedi’i wario ar wella cyfleusterau clybiau oddi ar y cae.
O edrych yn fanylach ar yr wyth ymgyrch lwyddiannus, gallwch weld faint o ymgysylltu â’r gymuned oedd ynghlwm wrth hynny. Fel cyfanswm, ymrwymodd 775 o bobl i’r wyth ymgyrch yma – mae hynny’n gyfartaledd o tua 86 o bobl ym mhob ymgyrch, gyda rhoddion o £107 y pen ar gyfartaledd.
Mae hefyd nifer o brosiectau sydd naill ai ar fin mynd yn fyw neu newydd gael eu cymeradwyo ac sydd yng nghamau cynnar y cyllido torfol. Gallwch edrych ar yr amrywiaeth o brosiectau yma – efallai yr hoffech chi gefnogi rhai!
Onid ydi cyllido torfol yn fwy addas i gymunedau cyfoethocach?
Efallai mai’r pryder mwyaf gyda dull cyllido torfol o weithredu yw y gallai fod yn heriol i gymunedau mwy difreintiedig. Fodd bynnag, roedd yr adborth a’r dystiolaeth gan Sport England (sydd wedi bod yn cydweithredu â Crowdfunder ar nifer o’u cronfeydd cymunedol) yn dangos bod y gwir yn groes i’r gred gonfensiynol yma. Fe welsant ymgysylltu a chyllid cadarnhaol mewn ardaloedd o amddifadedd, ac mewn gwirionedd canfuwyd hefyd bod eu cyllid yn helpu i gefnogi prosiectau penodol sy’n targedu cynhwysiant mewn chwaraeon. Mae’n galonogol iawn bod yr hyn rydym wedi’i weld yn Chwaraeon Cymru yn adlewyrchu’r effaith honno.
Mae mwy na thraean o’r prosiectau rydym wedi’u cefnogi wedi dod o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, ac mae chwarter pellach wedi bod yn brosiectau sydd wedi dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar anghydraddoldeb ehangach.
Beth fyddem wedi gallu ei wneud yn well?
Rydym yn sicr wedi dysgu ar hyd y ffordd. Yn y camau cynnar efallai ein bod yn disgwyl i ymgyrchoedd fod yn rhy berffaith, yn hytrach na chydnabod bod hwn yn ddull newydd o weithredu. Wrth i ni symud ymlaen a chreu cronfa o astudiaethau achos o glybiau o Gymru, mae’r ansawdd wedi bod yn gwella gyda phob cais.
Rydym hefyd wedi dysgu y dylem roi gwybod i’r cysylltiadau perthnasol yn yr awdurdodau lleol a chyrff rheoli cenedlaethol cyn gynted ag y byddwn yn symud ymgyrch yn ei blaen, gan sicrhau cefnogaeth lawn i ymgyrch clwb.
Ar y cyfan, does dim amheuaeth bod yr hyn rydym wedi’i greu yn arloesol yn y sector chwaraeon ac mae’r clybiau hynny sydd wedi ei gofleidio wedi dangos y gall weithio. Mae’n tynnu sylw at sut mae clybiau chwaraeon yn parhau i fod yn ganolbwynt cymunedol hollbwysig, sy’n cael eu gwerthfawrogi a’u hangen gan y bobl maent yn eu cefnogi, ac sydd yn eu tro wedi eu cefnogi.