Skip to main content

Therapi Meinwe Meddal

BETH YW THERAPI MEINWE MEDDAL?

Therapi Meinwe Meddal yw rheoli, trin ac adfer y meinweoedd meddal yn y corff er mwyn adfer/gwella estynadwyedd y meinwe, lleihau’r anesmwythyd yn y meinwe a chael effaith bositif ar berfformiad.                           

Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml fel dull ategol fel rhan o strategaeth adfer ar ôl hyfforddi a chystadlu ehangach ac fel ymyriad trin wedi’i dargedu o dan gyfarwyddyd y tîm ffisiotherapi er mwyn dylanwadu ar symudedd y meinwe. 

Trosolwg o’r ddisgyblaeth 

Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn allweddol ym mharatoadau’r athletwyr. Maent yn cydweithio oddi mewn i dîm amlddisgyblaethol ehangach er mwyn lleihau’r risg o anafiadau, sicrhau’r perfformiad gorau posib a chynyddu gallu athletwyr i hyfforddi a chystadlu. 

Mae eu gwybodaeth am gynnal ac adfer y meinwe meddal yn cael ei harwain gan ddeallusrwydd a’i gyflwyno gyda chreadigrwydd. Y pwrpas yw sicrhau bod unrhyw atebion yn cyd-fynd â gofynion pwrpasol y gamp a’r athletwr.

Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn anelu at ddarparu gwasanaeth cefnogi perfformiad eithriadol i athletwyr Cymru a Phrydain. Drwy ddull integredig a chyfannol o weithredu wrth gefnogi athletwyr, gallwn fabwysiadu dull person yn gyntaf o weithio sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Athrofa. 

MEYSYDD GWAITH?

Yn Chwaraeon Cymru, mae Therapyddion Meinwe Meddal yr Athrofa yn darparu triniaeth meinwe meddal effeithiol ac yn ceisio addysgu’r athletwr am fanteision therapi meinwe meddal fel mesur ataliol ac fel cyfrwng i adfer. Bydd rhaglen yn cael ei dyfeisio yn seiliedig ar anghenion chwaraeon benodol ac unigol yr athletwr.                        

Mae ein pwrpas cyffredinol yn seiliedig ar ein gallu i feithrin perthnasoedd sy’n galluogi i ni gysylltu’n well â’r gamp, hyfforddwyr ac athletwyr. 

Mae hyn yn galluogi i ni gyflawni ein gwerthoedd craidd: 

Paratoi’n Gorfforol 

Yn aml mae Therapyddion Meinwe Meddal yn gweithio’n agos gyda Ffisiotherapyddion a hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru i gael gwybodaeth am fedrusrwydd o ran cryfder a symudiad. Caiff hyn ei wella gan amgylchedd agored sy’n hybu gweithio yn integredig.      

Atal Anaf/Lleihau Risg                 

Mewn cydweithrediad â staff yr Athrofa, bydd Therapyddion Meinwe Meddal yn adlewyrchu ar fonitro dyddiol yr athletwr hefyd, gan alluogi adnabod tueddiad at anaf a pharatoi athletwyr i sicrhau cyn lleied o risg â phosib.

Os ceir anafiadau, bydd y Therapyddion Meinwe Meddal yn cysylltu ag ymarferwyr eraill i gynllunio strategaethau adfer arloesol a fydd yn galluogi i athletwyr ddychwelyd at berfformiad llawn. 

Gwella Perfformiad       

Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn cydweithredu er mwyn deall yr elfennau corfforol allweddol mewn camp a beth sydd ei angen i sicrhau’r canlyniad a ddymunir o ran perfformiad.           

ENW DA       

Mae Therapyddion Meinwe Meddal Chwaraeon Cymru yn ymarferwyr uchel iawn eu parch sy’n deall beth sydd ei angen i berfformio ar y lefel uchaf. Maent yn gweithio gydag amrywiaeth o chwaraeon yn fewnol ac mewn cystadlaethau rhyngwladol a gwersylloedd hyfforddi amrywiol yn gysylltiedig â Gemau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau Ewropeaidd a Phrydeinig. Mae’r Therapyddion Meinwe Meddal i gyd yn aelodau o’r Gymdeithas Tylino Chwaraeon ac mae ganddynt gymhwyster cydnabyddedig, mwy nag wyth mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso a chofnod DPP o 40 awr y flwyddyn ar gyfartaledd.

GWEITHIO’N GYFANNOL 

Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn cydweithio â phob disgyblaeth yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, gan sicrhau dull cyfannol o weithredu yn gysylltiedig â phob athletwr. 

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy