Skip to main content

Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng – Diweddariad

Mae ychydig dros wythnos wedi mynd heibio ers i’r ceisiadau agor ar gyfer y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng gwerth £400,000.

Mae ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw sydd angen cymorth ariannol ar unwaith ac mae’n debygol o fod yn gwbl hanfodol i lawer ledled y wlad sydd wedi’u heffeithio gan y Coronafeirws a’r llifogydd diweddar.

Felly, beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf? 

Sports Equipment on pitch
Colleges Wales

 

Mae’r Gronfa wedi profi’n hynod boblogaidd. Edrychwyd ar y stori’n cyhoeddi’r Gronfa ar wefan Chwaraeon Cymru fwy na 10,000 o weithiau ac roedd hynny’n rhoi arwydd o sut roedd y newyddion yn cael ei dderbyn. 

Erbyn dydd Mercher (15fed Ebrill), roedd mwy na 100 o geisiadau wedi’u derbyn. Y rhain yw’r ‘criw’ cyntaf o geisiadau sy’n cael eu gwirio (gan gynnwys gyda phartneriaid fel cyrff rheoli) a’u hasesu a byddant yn derbyn penderfyniad am gyllid erbyn dydd Mawrth (21ain Ebrill).

Rydym yn cyfrif bod tua hanner y £400,000 wedi’i ymgeisio amdano yn y ceisiadau cyntaf yma.

Mae’r asesiadau cychwynnol yn dynodi bod ymgeiswyr wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer problemau amrywiol, ac mae llawer yn gymwys a rhai ddim. Mae rhai ceisiadau wedi gofyn am gyllid lle mae rhan o’r cais yn gymwys.  Y dyfarniad mwyaf a wneir fydd £5,000.

Ar ôl gwneud penderfyniad, bydd yr ymgeiswyr yn derbyn e-bost yn fuan iawn. Dylai’r clybiau a gymeradwyir ar gyfer cyllid dderbyn y cyllid hwnnw o fewn dyddiau. Mae’r broses wedi cael ei gwneud mor effeithlon â phosib i gael cefnogaeth i chwaraeon cyn gynted â phosib.             

Ar ôl y criw cychwynnol, mae’r ail griw o 90 o geisiadau’n cael eu prosesu nawr hefyd. Yr amserlen rhwng gwneud cais a’r penderfyniad yw o fewn 10 diwrnod gwaith. 

Gellir cael gwybodaeth am y Gronfa, a’r meini prawf cymhwysedd, yma. 

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales