Mae wyth ar hugain yn rhagor o glybiau nid-er-elw wedi cael cyllid o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi’i gadarnhau yr wythnos yma.
Mewn dim ond tair wythnos, mae 132 o glybiau wedi cael cyfanswm o £285,252 o gefnogaeth ariannol i’w weithredu ar unwaith.
O blith y criw diweddaraf o geisiadau, mae 13 wedi cael eu gohirio tra maent yn aros am fwy o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.
Yn y criw diweddaraf, mae tri chlwb wedi derbyn cefnogaeth i helpu gyda difrod sydd wedi’i achosi gan lifogydd y gaeaf.
Ddydd Iau 7ed Mai, roedd 479 o geisiadau wedi’u gwneud i’r Gronfa, gyda mwy na 100 o geisiadau eto i gael eu prosesu gan Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Owen Hathway, cyfarwyddwr cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru:
“Roedden ni’n gwybod y byddai angen mawr am y gronfa ac rydyn ni’n ddiolchgar bod cymaint o glybiau wedi gallu cael cefnogaeth yn ystod cyfnod mor heriol yn ariannol.
“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth amhrisiadwy gan bartneriaid fel cyrff rheoli ac awdurdodau lleol sydd wedi darparu gwybodaeth leol am yr heriau mae clybiau’n eu hwynebu, ac mae staff Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio’n barhaus i brosesu ceisiadau, sy’n dal i ddod i mewn.
“Fe fyddwn i’n hoffi dweud eto wrth yr ymgeiswyr bod y gronfa ar gyfer help ariannol ar unwaith gyda chostau sefydlog fel rhent neu gyfleustodau, a lle, pe bai ddim cymorth y mae risg gyfreithlon o golli’r asedau cymunedol hynny.
“Mae llawer o glybiau wedi derbyn ffurfiau eraill ar grantiau a chefnogaeth gan y Llywodraeth, sydd wedi galluogi i ni dargedu clybiau sydd â’r angen mwyaf er mwyn sicrhau eu goroesiad.
“Rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gefnogi clybiau y tu allan i’r cyllid argyfwng a byddwn yn cyfathrebu mwy o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael.”
Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yn cynnig cymorth i glybiau sydd angen help ariannol ar frys i dalu costau sefydlog yn ystod ffenest 24 Mawrth i 30 Mehefin. Mae mwy o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd, a chwestiynau ac atebion, ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma.
Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i [javascript protected email address].