Main Content CTA Title

£150,000 wedi’i ychwanegu at y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng i gefnogi clybiau cymunedol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £150,000 wedi’i ychwanegu at y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng i gefnogi clybiau cymunedol

Bydd £150,000 ychwanegol ar gael nawr i gefnogi clybiau chwaraeon cymunedol yng Nghymru ar ôl y defnydd mawr o’r cymorth mewn argyfwng.

Mae’r swm yma wedi dod ar ôl i’r £400,000 cychwynnol a roddwyd ar gyfer y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng gael ei ddyrannu i gyd bron wedi dim ond pedair wythnos.     

Yn ystod y ceisiadau yr wythnos hon, mae £60,027 wedi’i gymeradwyo i 33 o glybiau ledled Cymru, gan wneud cyfanswm y cyllid mewn argyfwng yn £345,279.

Hefyd mae un ar ddeg o geisiadau wedi cael eu gohirio tra maent yn aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth. 

 

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru: “Mae’n bwysig ein bod ni wedi gallu dyrannu mwy o arian gan nad ydyn ni eisiau i glybiau deimlo nad ydyn nhw’n gallu cael cymorth yn ystod cyfnod o galedi ariannol. 

“Y neges allweddol yw ein bod ni ar gael nawr ar gyfer cymorth mewn argyfwng ac mai dyma ffocws ein gwaith grantiau.

“Er hynny dylai clybiau fod yn dawel eu meddwl ein bod ni’n datblygu mwy o gynlluniau i helpu i ailsefydlu chwaraeon a chael pobl i fod yn actif eto. Rydyn ni wedi cael llawer o geisiadau sy’n dod o dan y categori hwn yn gofyn am gyllid ar gyfer darpariaethau pwysig, ond sydd ddim yn argyfyngau mewn gwirionedd. Fe fyddwn ni’n rhyddhau mwy o fanylion yn fuan a bydd nifer o’r clybiau hynny sydd wedi bod yn aflwyddiannus gyda chael cyllid argyfwng yn cael cefnogaeth o hyd drwy gyfrwng y rhaglen newydd yma.”

Mae mwy o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a sesiwn holi ac ateb ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma. 

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy