Skip to main content
CHWARAEON CYMRU AR GYFER...
Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad Addysg ac Athrawon Partneriaid Chwaraeon Perfformiad Unigolion a Theuluoedd
GWYBODAETH AM...
Chwaraeon mewn Ysgolion Chwaraeon yn y Gymuned Canolfannau Cenedlaethol Ymchwil a Gwybodaeth Grantiau a Chyllid Polisïau a Llywodraethu GRANT CYNNYDD Cefnogaeth i Athletwr Y Coronafeirws: Gwybodaeth hanfodol
AM CHWARAEON CYMRU
Beth yw Chwaraeon Cymru Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru Strategaeth Chwaraeon Cymru Ein Cyfleusterau Athrofa Chwaraeon Cymru Lleoliad a Chysylltiadau Gyrfaoedd Cymryd Rhan mewn Chwaraeon ac Ymarfer yng Nghymru – y Cyfarwyddyd Ymgyrch #CymruActif Cronfa Cymru Actif Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
Methu gweld beth rydych chi’n chwilio amdano? Ceisiwch chwilio am

Diweddariad Pwysig – Grantiau Chwaraeon Cymru

22/04/2020
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diweddariad Pwysig – Grantiau Chwaraeon Cymru

Gyda’r byd chwaraeon yng Nghymru’n teimlo effaith cyfyngiadau symud y Coronafeirws, mae rhai newidiadau tymor byr yn cael eu gwneud i’n cynlluniau grant cymunedol. 

Fel mesur dros dro, y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng fydd yr unig ffocws ar gyfer ein grantiau cymunedol. Bydd hyn yn galluogi i ni ganolbwyntio ein cefnogaeth ar helpu clybiau ledled Cymru i oroesi yn ystod y cyfnod eithriadol heriol yma. 

Mae’r penderfyniad yma’n seiliedig ar adborth gan glybiau a’n partneriaid sydd wedi amlinellu i ni yr help ar unwaith maent ei angen fwyaf ar hyn o bryd, yn ogystal â’r cyfyngiadau ehangach sydd yn eu lle ar hyn o bryd oherwydd COVID-19, sy’n ei gwneud yn annhebygol y bydd unrhyw weithgarwch datblygu chwaraeon newydd yn gallu digwydd. 

Mae bron i 10% o glybiau chwaraeon cymunedol Cymru wedi gwneud cais am gyllid argyfwng eisoes, gyda phob cais yn cael ei brosesu mor gyflym â phosib ar hyn o bryd. 

Mae hyn yn golygu na fydd clybiau cymunedol, am y tro, yn gallu gwneud cais mwyach am unrhyw grantiau neu gyllid arall, gan gynnwys cyllid y Gist Gymunedol a’r Grantiau Datblygu. Hoffem annog unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth ar unwaith i wneud cais i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. 

Mae cyfleoedd cyllido eraill yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyfathrebu cyn gynted â phosib. 

Cronfa Cymorth Mewn Argyfwng - Wedi Cau

Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cau nawr. Am gyllid argyfwng, edrychwch am fwy o wybodaeth am Gronfa Cymru Actif. 

Darllen Mwy
Sport Wales
Awarding funds from  the National Lottery
Sponsored by Welsh Government
Polisi Preifatrwydd Polisi Cwcis Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon - Cwestiynau Cyffredin Telerau Defnyddio'r Wefan Rhyddid Gwybodaeth Hyfforddi drwy bandemig Datganiad Hygyrchedd
© 2021 Chwaraeon Cymru. Cedwir pob hawl Crëwyd gan Grandad