Mae dau gant a saith o glybiau yng Nghymru’n cael £380,377 o gyllid ar ôl pum wythnos o geisiadau i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.
Mae’r criw diweddaraf o geisiadau wedi arwain at gymeradwyo cefnogaeth ariannol o £32,098 ar gyfer 42 o glybiau. Mae chwe chais wedi cael eu rhoi i’r naill ochr wrth i ni aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.
Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Chwaraeon Cymru y byddai’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yn cael ei chynyddu £150,000, gan gynyddu’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i £550,000.