Mae mwy na £500,000 wedi cael ei roi yn awr i glybiau cymunedol sydd wedi’u taro gan effaith y Coronafeirws a llifogydd y gaeaf.
Yn wythnos saith y ceisiadau, mae £49,146 wedi’i gymeradwyo i 36 o glybiau ledled Cymru.
Mae cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cyrraedd £527,120 i 280 o glybiau oedd angen cymorth ariannol ar unwaith.
Hefyd mae 15 o geisiadau wedi cael eu gohirio yr wythnos hon tra maent yn aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.