Ond mae gweithdrefnau llym iawn i’w dilyn o hyd er mwyn lleihau’r risg o ledaenu Covid-19, sy’n cynnwys cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid.
Am y rheswm hwnnw, er bod hyd at 30 o bobl yn cael dod at ei gilydd yn awr, cadw ar raddfa fechan sydd orau.
I chwaraeon tîm, mae hynny’n golygu hyfforddi mewn grwpiau bach, gan gynnwys hyfforddwr, gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau a ffitrwydd.
Byddai cyswllt agos ag eraill yn tanseilio’r rheol cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr sy’n weithredol o hyd.
Felly, mae timau hoci, pêl droed, criced a rygbi i gyd yn ôl yn hyfforddi, ond nid gyda’i gilydd fel sgwadiau cyfan. Yn hytrach, fel rhan o gyngor sydd wedi’i ddatblygu gyda’r cyrff rheoli perthnasol a’i oruchwylio ganddynt, gall timau pêl droed a hoci hyfforddi mewn grwpiau bach o ddim mwy na chwech o bobl.
Ymarferion a sgiliau a dim taclo yw’r drefn.
Yn y byd rygbi, mae’r ffigur ychydig yn uwch gyda 10 i 15 o bobl ond mae’r pwyslais ar weithgarwch lefel isel, dim cyswllt a seiliedig ar sgiliau o hyd.
Dylid darparu diheintydd dwylo, ac ni ddylid rhannu mwy na sydd raid o offer, a dylai’r chwaraewyr fod â’u poteli diod unigol, a rhaid cael cawod a newid gartref.
Ni fyddwch yn mynd i’r afael ag unrhyw un mewn sgrym, yn cadw’n agos mewn cic gornel, nac yn eistedd gyda chriw rhwyfo mewn cwch eto, ond mae posib ymarfer y technegau a’r sgiliau ar gyfer hynny’n ddiogel.
Mae dychwelyd at chwaraeon yng Nghymru wedi cael ei oruchwylio gan nifer o grwpiau, gan gynnwys staff cyrff rheoli, arbenigwyr meddygol ac eraill.
Cadeirydd y grŵp sy’n gyfrifol am chwaraeon awyr agored yw Beverley Lewis, prif weithredwr Triathlon Cymru.
“Mae pob gweithgarwch awyr agored ar agor nawr, sy’n grêt,” meddai Lewis. “Nawr mae’n rhaid i bob camp reoli dychweliad gweithgarwch clwb ar gyfer chwaraeon trefnus.
“Bydd digwyddiadau, cystadlaethau a gemau’n digwydd yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd i ba raddau mae’r chwaraeon yn gallu gweithio oddi mewn i’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yw’r ffocws, a lefel y cyfleusterau sydd eu hangen.”